Nodi problemau technoleg ddigidol arferol a'u datrys

URN: TECHDUPS1
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi a datrys problemau technoleg ddigidol arferol. Mae'n cynnwys datrys problemau cyffredin a gallu cyflawni ystod o weithdrefnau safonol. Mae'r rhain yn cynnwys gwirio prosesau sy'n cael eu cynnal, nodi defnydd o ddisgiau, cau ac ailddechrau yn ddiogel, edrych ar gôd gwallau, a gwiriadau bywyd batri ar ddyfeisiau di-wifr a phecynnau batri. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod nodi problemau technoleg ddigidol arferol a'u datrys i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu'n rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi, dosbarthu a chofnodi problemau technegol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  2. Mynd i'r afael â chyfrifiaduron sy'n gweithio'n araf drwy wirio prosesau a defnydd o ddisg i nodi ffynonellau problemau

  3. Glanhau disg galed drwy ddefnyddio offer meddalwedd yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  4. Cau'n ddiogel ar adegau pan mae sgrîn wedi rhewi neu'n las yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  5. Ailgychwyn cyfrifiaduron yn y modd diogel i nodi codau gwall yn ofalus i gynllunio atebion i broblemau

  6. Nodi codau gwall caledwedd a meddalwedd dyfeisiau a gweld beth yw eu hystyr yn unol â chanllawiau gweithgynhyrchwyr

  7. Defnyddio'r rheolwr tasgau i gau â llaw rhaglenni meddalwedd sydd wedi rhewi

  8. Archwilio cysylltiadau rhyngrwyd ac argaeledd rhwydwaith i nodi problemau sy'n ymwneud ag argaeledd rhwydwaith a'r rhyngrwyd a'u perfformiad

  9. Gwirio perfformiad batris dyfeisiau symudol i nodi problemau o ran perfformiad a'u datrys

  10. Gwirio cysylltiadau â chamerâu a seinyddion atodedig, gyrwyr meddalwedd a statws i gywiro perfformiad gwael neu broblemau eraill

  11. Uwchgyfeirio problemau na allwch eu cywiro eich hun yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pwysigrwydd nodi a dosbarthu problemau ar gyfer datrys neu uwchgyfeirio

  2. Sut i ailgychwyn cyfrifiadur yn ddiogel

  3. Y prif resymau pam mae cyfrifiaduron yn gweithio'n araf

  4. Sut i gynnal dadansoddiad disg galed a glanhau

  5. Sut i gael mynediad at y rheolwr tasgau a'i ddefnyddio i gau rhaglenni meddalwedd â llaw

  6. Y gwahanol ddulliau cychwyn sydd ar gael i droi cyfrifiadur ymlaen

  7. Sut i nodi codau gwall a gynhyrchir gan systemau technoleg ddigidol diffygiol

  8. Sut i weld beth yw ystyr codau gwall i nodi problemau ac atebion

  9. Sut i ailgychwyn cyfrifiadur sydd wedi rhewi yn y modd diogel

  10. Sut i wirio perfformiad batris dyfeisiau symudol gan gynnwys gliniaduron, tabledi a ffonau symudol

  11. Sut i wirio cysylltiadau a gosodiadau sain

  12. Sut i wirio defnydd o ddisg a glanhau disg galed

  13. Ffynonellau cymorth i helpu i ddatrys problemau technegol arferol

  14. Y gweithdrefnau sefydliadol i'w dilyn i uwchgyfeirio ar gyfer problemau technegol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUPS1

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

datrys problemau