Amdanom ni

Fe'u datblygir gan Sefydliadau Pennu Safonau sy'n ymgynghori â chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill ar draws pob un o wledydd y DU, (yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr). Mae'r broses ymgynghori hon yn caniatáu i unrhyw ofynion penodol gael eu hystyried gan bob un o’r gwledydd, a'r canlyniad yw set o safonau galwedigaethol cenedlaethol sy'n addas i'w defnyddio ledled y DU. Mae’r SGC, sydd mewn fformat cyffredin, yn cael eu cymeradwyo gan y bedair gwlad a bydd y cynnwys yn cael ei archwilio gan SQA Accreditation. Mae gan bob SGC ddyddiad cyhoeddi sy’n dangos pryd y cafodd ei gymeradwyo, a rhestrir y SGC mwyaf cyfredol yn y basdata hwn. Mae yna hefyd ddyddiad adolygu tebygol ac fe'i defnyddir fel canllaw i bennu pa bryd y bydd angen eu hadolygu a chesglir adborth gan randdeiliaid i ddylanwadu ar pryd y comisiynir adolygiadau.

Er bod SGC yn cael eu datblygu fel mesurau cymhwysedd unigol, cânt eu grwpio yn Setiau sy'n nodi'r sector y maent yn perthyn iddo ac mae tua 900 o setiau ar hyn o bryd, gyda bron i 23,000 o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol unigol. Maent yn cwmpasu ystod eang o sectorau.

Lle nodir bod angen cyfieithu'r SGC i'r Gymraeg, bydd hynny yn cael ei wneud ac mae tua 1,900 o SGC ar y gronfa ddata wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg.

Gellir defnyddio SGC ar gyfer datblygu sgiliau a gwybodaeth alwedigaethol. Er enghraifft, trosglwyddo'n uniongyrchol i gymwysterau galwedigaethol a chymwysterau eraill, llywio cynnwys rhaglenni hyfforddi, darparu mesurau ar gyfer cymhwysedd yn y gweithle a dylanwadu ar ddisgrifiadau swyddi.

Fel enghraifft, mae 1 SGC yn cyfateb yn uniongyrchol i 1 uned o gymhwyster galwedigaethol cenedlaethol SVQ/NVQ, a defnyddir y rhain i ddatblygu Cymwysterau y gellir eu cynnig yn eu tro drwy gyrff dyfarnu.

Ceir gwybodaeth ynglŷn â pha gyrff dyfarnu sy’n gweithredu yn y gwahanol wledydd isod:

Cymru
Cymwysterau Cymru
https://www.cymwysteraucymru.org/cymraeg
Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau, ac eithrio graddau, yng Nghymru.

Gogledd Iwerddon
Council for the Curriculum, Examinations and Assessment (CCEA)
http://ccea.org.uk
Mae CCEA yn gorff addysgol unigryw yn y DU sy’n dwyn ynghyd y tri maes – cwricwlwm, arholiadau ac asesu yng Ngogledd Iwerddon.

Lloegr
Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (FfCRh/RQF)
https://www.gov.uk/find-a-regulated-qualification
Mae FfCRh yn helpu pobl i ddeall yr holl gymwysterau rydym yn eu rheoleiddio, galwedigaethol a chyffredinol, yn Lloegr, a sut maent yn perthyn i’w gilydd.

Yr Alban
Scottish Qualifications Authority Accreditation (SQA Accreditation)
https://accreditation.sqa.org.uk/accreditation/home
O dan ddeddfwriaeth yr Alban, SQA Accreditation sy’n sicrhau ansawdd y cymwysterau a gynigir yn yr Alban trwy gymeradwyo cyrff dyfarnu ac achredu eu cymwysterau. Gwnânt hyn drwy reoleiddio’r cyrff dyfarnu a’u cymwysterau yn erbyn gofynion rheoleiddio cyhoeddedig.

Isod ceir rhai dolenni sy'n rhoi cefndir i’r defnydd o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol:

Cyflwyniad i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
Scott Waddington SA Brains: https://www.youtube.com/watch?v=yn-vbu22PxI

Defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
Rob Jones: https://www.youtube.com/watch?v=GWq1ex6KNaM

Astudiaeth Achos Cyflogwr 1
Gofal Deintyddol Castell Nedd /Neath Dental Care: https://www.youtube.com/watch?v=pSPPiBNFkSO 

Astudiaeth Achos Cyflogwr 2
Trefnant Garage: https://www.youtube.com/watch?v=CdQPyHwNi6Y

Astudiaeth Achos Cyflogwr 3
BBC: https://www.youtube.com/watch?v=bfHL39-EYHY