Cymryd rhan mewn rhwydweithiau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol ar-lein

URN: TECHDUOC1
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio systemau digidol i gydweithio ag eraill ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n cynnwys nodi rhaglenni cydweithrediadau digidol cyfryngau cymdeithasol, gosod offer, addasu gosodiadau, a gweithio gyda rhaglenni a rennir. Mae hefyd yn cynnwys creu a chynnal proffil personol ar-lein a defnyddio offer rhwydweithio cydweithredol a chymdeithasol yn gyfrifol ac yn ddiogel. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen cymryd rhan mewn cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol ar-lein i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi rhaglenni priodol ar gyfer cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol

  2. Ffurfweddu rhaglenni rhwydweithio cymdeithasol a chydweithio ar-lein i fodloni gofynion

  3. Defnyddio offer cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol ar-lein i gael mynediad at gymunedau ar-lein gofynnol

  4. Cyfrannu at rwydweithiau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol ar-lein mewn modd proffesiynol ac yn unol â chanllawiau rheoliadol a sefydliadol

  5. Ymgysylltu'n briodol ac yn broffesiynol â fforymau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo negeseuon perthnasol

  6. Creu a chynnal proffil ar-lein cywir yn unol â chanllawiau'r platfform

  7. Defnyddio cynnwys digidol ar blatfformau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol i gefnogi gweithgareddau gwaith

  8. Gweithio'n ddiogel wrth ddefnyddio offer cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol

  9. Gwirio gosodiadau preifatrwydd i gynnal diogelwch wrth ddefnyddio offer cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol

  10. Nodi a datrys problemau sy'n codi wrth ddefnyddio offer cydweithio ar y cyfryngau cymdeithasol, gan uwchgyfeirio yn ôl yr angen

  11. Nodi cynnwys ac ymddygiad amhriodol ar rwydweithiau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol a rhoi i awdurdodau perthnasol amdanynt yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y gwahanol fathau o blatfformau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol y gellir eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau busnes

  2. Prif fanteision ac anfanteision pob un o'r platfformau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol at ddefnydd busnes

  3. Y ffyrdd y gellir defnyddio platfformau'r cyfryngau cymdeithasol hyn i ddarparu gwasanaethau busnes

  4. Y rheoliadau, y polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n rheoli'r defnydd o rwydweithiau ar-lein gan gynnwys iechyd a diogelwch TG ac arfer da, a sut i'w cymhwyso

  5. Y diben a'r canlyniadau a fwriedir ar gyfer defnyddio technolegau cydweithio

  6. Nodweddion, buddion ac anfanteision posibl offer rhwydweithio cydweithio a chymdeithasol

  7. Pryd a roi gwybod am faterion diogelwch a diogeledd ar-lein a sut i wneud hynny

  8. Pwysigrwydd diogelu gwybodaeth fusnes a phersonol a sut i nodi bygythiadau

  9. Sut i nodi'r dulliau a ddefnyddir i gyfleu gwybodaeth fusnes a phersonol ffug gan ddefnyddio platfformau ar-lein

  10. Y telerau ac amodau sy'n berthnasol i ddefnyddio technolegau cydweithio

  11. Y rheolaethau sydd ar gael i amddiffyn defnyddwyr y rhyngrwyd sy'n agored i niwed

  12. Sut i nodi pan mae problem gyda thechnolegau cydweithio a ble i gael help

  13. Sut i nodi, cysylltu ac addasu'r gosodiadau ar gyfer offer cydweithio

  14. Sut i nodi pa ragofalon i'w cymryd i gadw'n ddiogel a pharchu eraill wrth ddefnyddio technolegau cydweithio

  15. Ble i roi gwybod am gynnwys ac ymddygiad amhriodol ar rwydweithiau cydweithrediadau cyfryngau cymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUOC1

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

cyfryngau cymdeithasol