Anfon a derbyn negeseuon ebost

URN: TECHDUEM1
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag anfon a derbyn ebyst i gyfathrebu ag eraill drwy ddefnyddio rhaglen feddalwedd ebost. Mae hyn yn cynnwys cyfansoddi, golygu, anfon a derbyn ebyst ac mae'n cynnwys deall sut i ddefnyddio ystod o offer meddalwedd ebost hanfodol er mwyn anfon, derbyn a storio negeseuon yn rhan o weithgareddau cyfathrebu syml neu arferol. Mae'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag anfon a derbyn ebyst yn cynnwys cyfansoddi, fformatio a gwirio sillafu ebyst, anfon ebyst, a derbyn a rheoli ebyst sy'n cyrraedd. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen anfon a derbyn ebyst yn rhan o'u dyletswyddau. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen anfon a derbyn negeseuon ebyst i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Creu cyfrif ebost i anfon a derbyn ebyst

  2. Ychwanegu dull diogelu â chyfrinair i gyfrif ebost i gynnal preifatrwydd a diogelwch

  3. Defnyddio offer meddalwedd ebost i gyfansoddi a fformatio ebyst

  4. Atodi ffeiliau i ebyst

  5. Anfon negeseuon ebost i un cyfeiriad neu nifer o gyfeiriadau ebost yn unol â'r gofynion

  6. Defnyddio llyfr cyfeiriadau ebost i storio ac adalw gwybodaeth gyswllt

  7. Dilyn canllawiau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer defnyddio ebost yn foesegol ac yn gyfrifol

  8. Agor ebyst a'u hateb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  9. Trefnu, storio a dileu ebyst sy'n cyrraedd i'w rheoli'n effeithiol

  10. Ymateb yn briodol i broblemau cyffredin yn ymwneud ag ebost


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y derminoleg a'r prif gysyniadau sy'n ymwneud ag ebyst

  2. Yr angen i ddefnyddio cyfeiriad ebost priodol yn rhan o hunaniaeth ar-lein

  3. Sut i ddefnyddio offer a thechnegau meddalwedd ebost i anfon a derbyn negeseuon

  4. Sut i gadw'n ddiogel a pharchu eraill wrth ddefnyddio ebost

  5. Sut i gyfansoddi, fformatio a gwirio sillafu ebyst

  6. Sut i anfon ebost drwy ddefnyddio offer ebost ar gyfer cyfeiriadau gan ddefnyddio nodweddion 'To', 'cc', 'reply', 'reply all' a 'forward'

  7. Sut i reoli ebyst sy'n cyrraedd mewn modd effeithiol

  8. Sut i osgoi datgelu gwybodaeth bersonol yn amhriodol

  9. Beth yw ystyr 'netiquette' (defnyddio'r rhyngrwyd yn briodol) yng nghyd-destun ebyst

  10. Sut i barchu cyfrinachedd wrth ddefnyddio ebost

  11. Sut i nodi pryd a sut i ymateb i ebyst

  12. Sut i nodi pa ebyst i'w dileu, eu cadw neu eu harchifo a phryd i wneud hynny

  13. Sut i nodi i broblemau arferol sy'n ymwneud ag ebost, ac ymateb iddynt, gan gynnwys maint negeseuon, negeseuon anniogel o SPAM, sothach, negeseuon cadwyn, neu ffynonellau 'gwe-rwydo'


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUEM1

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

ebost