Ymgymryd â gweithgareddau dysgu a datblygu sgiliau digidol

URN: TECHDUDL1
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi a datrys problemau technoleg ddigidol arferol. Mae'n cynnwys datrys problemau cyffredin a gallu cyflawni ystod o weithdrefnau safonol. Mae'r rhain yn cynnwys gwirio prosesau sy'n cael eu cynnal, nodi defnydd o ddisgiau, cau ac ailddechrau yn ddiogel, edrych ar gôd gwallau, a gwiriadau bywyd batri ar ddyfeisiau di-wifr a phecynnau batri. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n gorfod nodi problemau technoleg ddigidol arferol a'u datrys i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu'n rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi nodau dysgu personol i gynllunio anghenion hyfforddiant a datblygu priodol

  2. Creu a chynnal cynllun gweithredu personol ar gyfer dysgu a datblygu digidol

  3. Cysoni eich gweithgareddau datblygu eich hunain â blaenoriaethau sefydliadol yn unol â gofynion sefydliadol

  4. Nodi a dilysu ffynonellau dysgu ar-lein sy'n bodloni gofynion datblygu

  5. Ymgymryd â chamau dysgu a datblygu cyflawn yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  6. Monitro a dogfennu cynnydd eich gweithgareddau dysgu eich hun mewn cofnod dysgu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  7. Gwerthuso canlyniadau dysgu yn unol â chynllun gweithredu dysgu a datblygu personol

  8. Cofnodi tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i addasu eich amgylchedd dysgu eich hun mewn ffyrdd sy'n cynorthwyo'r broses ddysgu

  2. Egwyddorion cynllunio datblygiad personol a ffyrdd o fynd ati

  3. Ffynonellau dysgu sgiliau technoleg ddigidol

  4. Manylion llwybrau dilyniant mewn disgyblaethau sy'n berthnasol i dechnoleg ddigidol

  5. Sut i wneud dadansoddiad bwlch i nodi anghenion dysgu

  6. Yr angen i nodi nodau a datblygu cynlluniau gweithredu i'w cyflawni

  7. Yr angen i gysoni cynlluniau dysgu â blaenoriaethau sefydliadol

  8. Sut i drosglwyddo gwybodaeth i senarios go iawn yn y gweithle technoleg ddigidol

  9. Yr angen i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ym maes dysgu technoleg ddigidol

  10. Yr angen i feithrin a rheoli ymwybyddiaeth o fwlch sydd gennych yn eich sgiliau technoleg ddigidol

  11. Sut i werthuso canlyniadau dysgu

  12. Yr heriau sy'n gallu codi wrth gynllunio cynlluniau gweithredu dysgu a datblygu a'u rhoi ar waith

  13. Pwysigrwydd cynnal cofnodion cywir o gyflawniad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUDL1

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

dysgu a datblygu, DPP