Optimeiddio systemau technoleg ddigidol

URN: TECHDUDD3
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag optimeiddio system dechnoleg ddigidol i wella ei defnyddioldeb a'i nodweddion. Mae optimeiddio gosodiadau systemau digidol yn golygu addasu nodweddion system weithredu gan gynnwys ymddangosiad y rhyngwyneb defnyddiwr, amodau cychwyn, opsiynau pŵer a pherfformiad yn ogystal â chlirio cyfryngau storio a dileu rhaglenni diangen. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen optimeiddio gosodiadau system ddigidol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Addasu gosodiadau system weithredu i wneud y rhyngwyneb i ddefnyddwyr yn haws i'w defnyddio

  2. Gosod, dileu a diweddaru meddalwedd rhaglenni i fodloni gofynion eich hun a gofynion sefydliadol

  3. Lleihau rhaglenni cychwyn diangen sydd wedi'u trefnu i wella perfformiad system

  4. Perfformio prosesau glanhau ffeiliau cyfryngau storio fel bod cymaint o le â phosibl ar y gyriant

  5. Ffurfweddu gosodiadau porwr gwe i wella perfformiad ar-lein

  6. Defnyddio offer gweinyddol systemau i wella perfformiad systemau

  7. Gweithredu opsiynau arbed pŵer ar ddyfeisiau digidol symudol i wella perfformiad batri

  8. Cymryd camau priodol i ddatrys problemau arferol o ran TG a chysylltedd yn unol â chanllawiau'r sefydliad

  9. Nodi, cofnodi ac uwchgyfeirio problemau anarferol i'w cywiro


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Nodweddion a swyddogaethau allweddol gosodiadau systemau gweithredu cyfrifiadurol

  2. Sut i addasu gosodiadau lliw sgrîn, disgleirdeb a maint ffont

  3. Sut i optimeiddio perfformiad system weithredu

  4. Y paramedrau a ddefnyddir i ragnodi dilyniant cychwyn dyfais ddigidol

  5. Sut i ychwanegu a dileu rhaglenni meddalwedd

  6. Sut i gynnal dyfeisiau storio cyfryngau er mwyn iddynt weithredu'n effeithlon

  7. Polisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n llywodraethu'r defnydd diogel o systemau digidol

  8. Y gosodiadau system cymwys ar gyfer arferion da o ran lles digidol

  9. Y ffynonellau cymorth i uwchgyfeirio problemau systemau digidol

  10. Y dulliau y gellir eu defnyddio i optimeiddio perfformiad porwr ar-lein

  11. Sut i wirio a oes modd uwchraddio rhaglenni meddalwedd

  12. Y gwahanol offer gweinyddu systemau a sut i'w defnyddio

  13. Pwysigrwydd cynnal a chadw systemau yn rheolaidd ac ar adegau a gynlluniwyd

  14. Y mathau o broblemau arferol ac anarferol sy'n gallu codi a sut i ymateb iddynt a'u dwysáu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUDD3

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

Defnyddiwr Digidol, System Ddigidol