Creu gwefan ryngweithiol

URN: TECHDUDC3
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu gwefan ryngweithiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys cynllunio a dylunio cynllun tudalennau gwe a rhyngweithiadau i fodloni gofynion. Mae'n cynnwys creu strwythur llywio a chynhyrchu cynnwys a nodweddion i fodloni gofynion. Mae hefyd yn cynnwys lanlwytho cynnwys rhyngweithiol ar dudalennau gwe ac adolygu ei hymddangosiad, sut i'w llywio a phrofiad defnyddiwr y wefan o ran sut mae'n edrych. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu gwefannau rhyngweithiol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cytuno ar ofynion gwefan rhyngweithiol gyda rhanddeiliaid

  2. Creu taith defnyddiwr i gynhyrchu'r strwythur llywio ar gyfer y wefan ryngweithiol

  3. Dewis a chymhwyso templed ac arddull tudalen we i gadw golwg tudalennau gwe yn gyson

  4. Dewis a chymhwyso botymau llywio a dewislenni fel bod y defnyddiwr yn gallu llywio rhwng tudalennau gwe fel bo angen

  5. Paratoi testun gofynnol a chynnwys ar gyfer asedau cyfryngau digidol i'w cyhoeddi ar dudalennau'r wefan

  6. Ychwanegu nodweddion rheoli at wefan, gan gynnwys blychau rhestr, botymau radio a blychau testun i ddarparu'r nodweddion i ddefnyddwyr a'r mewnbynnau gan ddefnyddiwr sydd eu hangen

  7. Creu cynllun i wirio bod y wefan yn bodloni gofynion rhanddeiliaid ac o ran hygyrchedd

  8. Profi'r wefan i weld a oes unrhyw broblemau o ran defnyddioldeb

  9. Datrys problemau o ran defnyddioldeb i gael gwared ar fygiau o wefannau rhyngweithiol

  10. Cofnodi canlyniadau'r profion a'r penderfyniadau mewn adroddiad prawf yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad

  11. Llwytho'r wefan ar weinydd i'w gwneud yn fyw


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i ddylunio cynnwys digidol rhyngweithiol ar gyfer gwefannau ac amlgyfryngau

  2. Pa gynnwys a chynllun fydd eu hangen ar bob tudalen ar y wefan

  3. Y gofynion o ran strwythur ac arddull ar gyfer gwefan ryngweithiol

  4. Pa nodweddion gwefan sydd eu hangen yn y templed i helpu'r defnyddiwr i lywio tudalennau gwe o fewn y wefan

  5. Sut i roi cynnwys digidol rhyngweithiol ar waith ar gyfer gwefannau

  6. Y prif ffactorau sy'n dylanwadu ar ddatblygu gwefannau a'u defnyddio

  7. Y ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad gwefannau rhyngweithiol a sut maent yn edrych

  8. Sut i ddefnyddio byrddau stori a fframiau gwifren i ddatblygu gwe-lywio rhyngweithiol

  9. Yr ystod o offer safonol a ddefnyddir yn y diwydiant i ddatblygu gwefannau rhyngweithiol a sut i'w cymhwyso

  10. Y rheoliadau a'r polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n llywodraethu dyluniad gwefannau rhyngweithiol

  11. Pa faterion mynediad y gall fod angen eu hystyried wrth ddylunio a defnyddio gwefannau rhyngweithiol

  12. Sut i reoli a gwneud y mwyaf o welededd gwefannau ar beiriannau chwilio

  13. Y ffactorau technegol a'r cyfyngiadau eraill y mae angen eu hystyried wrth ddatblygu gwefannau rhyngweithiol

  14. Cystrawen sylfaenol iaith marcio hyperdestun (HTML)

  15. Cysyniadau animeiddio ar wefannau gan gynnwys masgio, haenau a thrawsffurfio a sut i'w cymhwyso

  16. Y gwahanol broblemau sy'n gallu codi gyda gwefannau rhyngweithiol o ran ansawdd a sut i ddelio â nhw


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUDC3

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

Cynnwys y we, cynnwys digidol, dylunio gwefannau