Creu gweithrediad cronfa ddata

URN: TECHDUDB3
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu gweithrediadau cronfeydd data perthynol ac sy'n cynnwys nifer o dablau i storio, prosesu ac adalw data gan ddefnyddio meddalwedd cronfa ddata. Mae hyn yn cynnwys cynllunio, dylunio a defnyddio gweithrediadau cronfeydd data sy'n cynnwys nifer o dablau. Mae hyn yn cynnwys creu ffurflenni ac ymholiadau cronfa ddata i gyflwyno a thynnu data ac adrodd arno. Mae hefyd yn cynnwys mudo data a rhoi data mewn cronfeydd data. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen creu gweithrediadau cronfeydd data sy'n cynnwys nifer o dablau er mwyn storio, prosesu ac adalw data gan ddefnyddio meddalwedd cronfa ddata i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu'n rhan o'u dyletswyddau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi gofynion cronfa ddata gyda rhanddeiliaid

  2. Cynllunio gweithrediad cronfa ddata gyda nifer o dablau i fodloni gofynion

  3. Llunio cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau gyda meysydd a phriodweddau priodol gan ddefnyddio offer a thechnegau cymeradwy

  4. Creu perthynas rhwng tablau cronfa ddata

  5. Datblygu ffurflenni i gael mynediad at ddata, ei fewnbynnu, ei olygu a'i drefnu mewn cronfa ddata yn unol â gofynion

  6. Creu a rhedeg ymholiadau cronfa ddata i adalw, diweddaru a dileu data dethol yn gywir

  7. Cynhyrchu adroddiadau cronfa ddata o gronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau yn unol â gofynion sefydliadol

  8. Mudo data i gofnodion cronfa ddata yn gywir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pa fathau o wybodaeth sy'n cael eu storio mewn cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau

  2. Sut mae dyluniad cronfa ddata yn galluogi data i gael ei drefnu ar draws nifer o dablau

  3. Sut i ddylunio gweithrediad cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau

  4. Sut i greu ymholiadau cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau

  5. Sut i gynnal cyfanrwydd data mewn strwythurau tablau cronfa ddata

  6. Sut i greu adroddiadau o gronfeydd data sy'n cynnwys nifer o dablau

  7. Defnyddio mynegeion a meysydd allweddol i drefnu data mewn cronfeydd data sy'n cynnwys nifer o dablau

  8. Sut mae cysylltiadau'n cael eu sefydlu mewn cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau

  9. Sut mae data'n cael ei drefnu mewn cronfa ddata sy'n cynnwys nifer o dablau

  10. Prif nodweddion maes cofnod data gan gynnwys math o ddata ac enw, maint a fformat y maes

  11. Sut i wirio cyfanrwydd data

  12. Beth mae mudo data'n ei olygu

  13. Y prif broblemau sy'n gallu codi gyda thablau cronfa ddata gan gynnwys data segur a dyblygu

  14. Y gwahanol gysylltiadau y gellir ei gwneud rhwng tablau cronfa ddata, gan gynnwys un i un; un i lawer; llawer i lawer


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUDB3

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

cronfa ddata