Mewnbynnu data a'i ddiweddaru mewn cronfa ddata
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â mewnbynnu data a'i ddiweddaru gan ddefnyddio meddalwedd cronfa ddata. Mae hyn yn golygu agor cronfeydd data a mewnbynnu data mewn meysydd data mewn tablau a gedwir mewn meddalwedd cronfa ddata. Mae'n cynnwys diweddaru a dileu cofnodion, gwirio am wallau a chynhyrchu adroddiadau cronfa ddata safonol. Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sydd angen mewnbynnu a diweddaru data mewn meddalwedd cronfa ddata i ddiwallu eu hanghenion eu hunain neu yn rhan o'u dyletswyddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi ffynonellau data gofynnol i'w mewnbynnu mewn cofnodion cronfa ddata gyda rhanddeiliaid
Mewngofnodi i'r gronfa ddata ofynnol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cyflwyno data i gofnodion cronfa ddata cywir i ddiweddaru cronfa ddata yn unol â'r gofynion
Ymateb yn briodol i negeseuon sy'n nodi gwall cofnodi data
Gwirio bod data'n gywir, gan wneud cywiriadau yn ôl yr angen
Cynhyrchu adroddiadau safonol gan ddefnyddio offer cronfa ddata i gynhyrchu dogfennau'n gywir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Prif gydrannau cronfa ddata
Pa fathau o wybodaeth sy'n cael eu storio mewn cronfeydd data
Sut i gael mynediad at gronfeydd data
Sut i fewnbynnu data mewn meysydd cofnodi ar gronfa ddata
Sut i chwilio am gofnodion mewn cronfa ddata
Sut i ddefnyddio offer meddalwedd cronfa ddata i dynnu gwybodaeth a chynhyrchu adroddiadau
Sut i wirio maint y maes a'r math o ddata ar gyfer cofnodion cronfa ddata
Sut i wirio bod data mewn cronfeydd data yn gywir
Y mathau o wybodaeth a gynhyrchir mewn adroddiadau cronfa ddata
Sut i ddefnyddio dewislenni i gynhyrchu adroddiadau cronfa ddata