Dangos tueddiadau a phatrymau mewn data gan ddefnyddio graffiau a siartiau

URN: TECHDUDA3
Sectorau Busnes (Suites): Defnyddwyr TG
Datblygwyd gan: e-skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

  1. Nodi'r gofynion o ran graffiau a siartiau ar gyfer astudio'r set ddata gyda rhanddeiliaid

  2. Dileu unrhyw werthoedd dyblyg, anghywir a nwl i lanhau data

  3. Dewis y math o allbwn graffigol sydd ei angen yn unol â gofynion

  4. Cynhyrchu graff neu siart o'r set ddata ofynnol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  5. Nodi'r duedd y mae'r data'n ei arddangos i roi gwybod am ddangosyddion tueddiadau i randdeiliaid

  6. Nodi math o duedd a gosod llinell duedd linol i ddelweddu data dros gyfres amser neu duedd llyfn i ddelweddu'r cyfartaledd sy'n amrywio yn unol â gofynion

  7. Dangos hafaliad y llinell duedd ar gyfer y data i ragfynegi gwerthoedd y dyfodol yn unol â gofynion

  8. Cadw allbwn y graff yn y daenlen yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Mewngludo data ffeiliau i daenlen

  2. Nodi set ddata i'w hastudio

  3. Dilysu data i nodi data nad ydynt yn cydymffurfio

  4. Dileu data dyblyg, anghywir a nwl

  5. Dewis y math o allbwn graffigol i'w ddefnyddio yn unol â'r gofynion

  6. Creu graff neu siart o'r data angenrheidiol

  7. Nodi ffurf y tueddiad y mae'r data'n ei arddangos

  8. Dewis a gosod llinell duedd linol i ddelweddu tueddiad data dros gyfres amser

  9. Dewis a gosod tueddiad llyfn i ddata gyda'r cyfartaledd yn amrywio

  10. Fformatio a golygu llinell duedd yn ôl y gofyn

  11. Dangos hafaliad llinell y duedd ar gyfer y data cyfredol

  12. Cadw allbwn y graff yn y daenlen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i fewngludo setiau data o ffeiliau a thaenlenni eraill

  2. Beth yw diben yr astudiaeth sy'n dadansoddi'r set ddata

  3. Y dulliau creu graffiau a siartiau a ddefnyddir i grynhoi, dadansoddi a dehongli data rhifiadol a phryd maen nhw'n briodol

  4. Pwysigrwydd dilysu a gwirio data a sut y gellir sicrhau bod y rhain yn gywir mewn taenlenni

  5. Sut i ddilysu a dileu data gwallus

  6. Sut i ddilysu data i gyfyngu ar y math o ddata a gofnodir

  7. Sut i nodi a datrys problemau o ran data dyblyg neu ddiangen

  8. Y prif fathau o ddata a fformatau a ddefnyddir

  9. Y dulliau ystadegol safonol a ddefnyddir i osod tueddiadau i ddata

  10. Sut i gymhwyso dulliau ystadegol sylfaenol a ddiffiniwyd ymlaen llaw i nodi tueddiadau a phatrymau mewn data

  11. Nodweddion allweddol meddalwedd taenlenni ar gyfer gosod tueddiadau i ddata

  12. Sut i greu graffiau a siartiau gan ddefnyddio nodweddion taenlenni

  13. Sut i nodi'r patrwm a ddangosir gan y data

  14. Y camau sy'n gysylltiedig â phennu hafaliad llinell duedd

  15. Negeseuon gwallau cyffredin am ddilysu data a dadansoddi tueddiadau a sut i ymateb iddynt

  16. Sut i gynllunio a chadw graffiau a siartiau sy'n dadansoddi tueddiadau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ODAG Consultants Ltd.

URN gwreiddiol

TECHDUDA3

Galwedigaethau Perthnasol

TGCh i ddefnyddwyr

Cod SOC

2000

Geiriau Allweddol

dadansoddi data, rheoli data, deallusrwydd busnes