Cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus mewn gweithrediadau logisteg

URN: SLWS18
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus a chynnal y safonau hylendid angenrheidiol mewn gweithrediadau logisteg.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi’r gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd sefydliadol perthnasol yn ymwneud â glanhau ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg
  2. defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), offer a deunyddiau glanhau i lanhau a thacluso’r ardaloedd gwaith
  3. glanhau a thacluso’r ardaloedd gwaith i gadw glendid, hylendid a diogeledd ar y lefel sy’n ofynnol gan y sefydliad
  4. gweithredu rhagofalon diogelwch i ddiogelu pobl yn yr ardaloedd gwaith rhag perlygon glanhau yn ystod gweithdrefnau glanhau
  5. lleihau anghyfleustra i bobl eraill yn yr ardaloedd gwaith wrth lanhau
  6. gwaredu mathau gwahanol o wastraff, yn unol â gweithrefnau gweithredol
  7. dychwelyd offer a deunyddiau glanhau i’r ardal storio berthnasol a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adnewyddu
  8. cydymffurfio â safonau iechyd a hylendid personol yn ystod yr holl weithgareddau gwaith
  9. nodi ac ymateb i broblemau’n ymwneud â glanhau ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
  10. cofnodi’r gwaith a wnaed, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  11. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chadw’r gweithle’n lân


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y mathau o ofynion iechyd, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg, yn y sefydliad
  2. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus
  3. pwysigrwydd cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus at ddibenion iechyd a diogelwch, hylendid a diogeledd
  4. y rhagofalon diogelwch sydd yn angenrheidiol wrth ddefnyddio dulliau a deunyddiau glanhau gwahanol
  5. sut i ddefnyddio deunyddiau glanhau, cyfarpar gwaredu gwastraff a Chyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  6. y gweithdrefnau adnewyddu stoc sefydliadol ar gyfer deunyddiau glanhau
  7. y dulliau gwaredu gwastraff ar gyfer y mathau gwahanol o wastraff a gynhyrchir gan y gweithrediadau logisteg
  8. y safonau a’r hylendid personol sydd yn angenrheidiol ar gyfer storio penodol 
  9. y mathau o broblemau’n ymwneud â glanhau a thacluso’r ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg yn y sefydliad
  10. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr yn cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus
  11. y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad, a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
  12. y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chynnal ardaloedd gwaith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Ardaloedd gwaith: swyddfeydd, ystafelloedd, ardaloedd egwyl, warws, llawr y siop, rheseli, eiliau, tramwyfeydd, coridorau, toiledau, ystafelloedd ymolchi, cerbydau/cyfarpar, ardaloedd llwytho/dadlwytho, tu mewn/tu allan

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, esgidiau uchel

Peryglon glanhau: lloriau llithrig, peryglon baglu, cemegau peryglus, offer/peiriannau

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid 

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a sefydliadol rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth

Pobl: cydweithwyr, ymwelwyr, cwsmeriaid/cleientiaid


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLWS18

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

glân; ardaloedd gwaith; warws; storio