Darparu cymorth gan y gweithiwr llwyfan i’r peiriannwr yn y felin bren

URN: SKSSH6
Sectorau Busnes (Suites): Gweithwyr Llwyfan Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda'r peiriannwr yn y felin i brosesu pren a phren haenog i gwrdd ag anghenion ar gyfer y set. Mae'n gofyn am gyfrifo faint o ddeunydd sydd ei angen a sicrhau bod y symiau hynny ar gael ac o’r ansawdd cywir.

Mae'n gofyn bod y gweithiwr llwyfan yn cyflawni gwaith gweithiwr melin ac yn gweithio gyda'r peiriannwr ar sawl gwahanol beiriant gan gydymffurfio gyda deddfwriaeth a phrotocolau a gyda gwybodaeth ddigonol o’r gwahanol brosesau mae’n rhaid i ddarn o bren fynd trwyddynt fel ei fod wedi’i baratoi yn llawn. Er mwyn cwblhau'r broses mae'n rhaid i'r deunydd sydd wedi'i baratoi gael ei ddanfon at i'r llefydd gofynnol ar y set neu mewn lleoliad allanol.

Mae'r swydd hon ar gyfer gweithwyr llwyfan sy'n arbenigo fel gweithwyr melin.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cytuno gyda'r peiriannwr pren ar faint o ddeunydd sydd ei angen ar gyfer pob rhestr dorri
  2. trefnu bod y swm gofynnol o ddeunydd yn barod ac ar gael i'w ddefnyddio
  3. gwirio bod ansawdd y pren neu bren haenog sydd wedi'i ddewis yn cwrdd â gofynion y gweithgaredd penodol
  4. pan fydd angen pren ar gyfer ei saernio,
    dewiswch y pren gorau ar gyfer y gwaith
  5. dilyn y drefn gytunedig i gwblhau'r gorffeniad gofynnol ar yr eitemau
  6. trefnu bod yr eitemau gorffenedig yn cael eu symud i'r lleoliad gofynnol 
  7. defnyddio cyfarpar diogelwch personol ac amddiffynwyr diogelwch yn ôl y gofyn
  8. sicrhau bod pob gweithgaredd sy'n ymwneud â gweithio peiriannau a symud pren neu bren haenog yn cael eu cyflawni drwy gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r
    protocolau iechyd a diogelwch
  9. gwirio'n rheolaidd bod y system echdynnu llwch yn gweithio'n gywir ac a oes angen gwagio'r bagiau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch ar gyfer gweithio ar beiriannau peryglus
  2. pa mesurau diogelu  a chyfarpar diogelwch personol i'w defnyddio wrth weithio ar beiriannau peryglus
  3. sut i weithio'r peiriannau dan arweiniad y peiriannwr pren
  4. gweithdrefnau asesu risg
  5. sut i leoli a gosod offer yn ddiogel yn eu lle
  6. nodweddion a mathau o wahanol bren a phren haenog gaiff eu defnyddio mewn cynhyrchiad ffilm fel coed derw, ynn, balsa, pinwydd
  7. sut i gyfrifo faint o bren sydd ei angen er mwyn cwrdd â'r galw am bren sydd wedi'i dorri
  8. sut i drefnu'r pren yn y storfeydd a'i gasglu neu drefnu ei fod yn cael ei ddanfon
  9. y gwahanol brosesau y gallai fod eu hangen ar
    gyfer pob darn o bren 
  10. y math o bren i'w ddewis i'w ddefnyddio ar gyfer saernïo pren
  11. sut i drefnu bod eitemau gorffenedig yn cael eu danfon
  12. pwysigrwydd gweithio'n effeithlon gyda'r peiriannwr pren a/neu drowyr a dilyn cyfarwyddiadau wrth weithio gyda'r peiriannau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSG7

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

gweithwyr llwyfan; melin bren; peiriannwr; pren; pren haenog; set; stiwdio; lleoliad;