Gosod a gwirio offer sain

URN: SKSS12
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â gosod a gwirio offer sain ar gyfer ei ddefnyddio ar leoliad neu mewn stiwdio gan ddefnyddio naill ai gamera, cymysgydd a/neu recordydd. Bydd angen i chi weithio’n effeithiol gydag eraill a sicrhau fod offer sain ac ategolion wedi cael eu gosod yn ôl y cynllun, eu bod yn ddiogel, yn gweithio’n gywir, ac yn cwrdd ag anghenion penodol y cynhyrchiad. Bydd angen i chi ddyfeisio atebion i unrhyw rwystrau neu broblemau.

Bydd y Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymwneud â gosod a gwirio offer sain. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 gwirio fod y math o offer a’i leoliad yn cyd-fynd â’r diffiniad ohonynt yn y fanyleb
P2 cadarnhau fod systemau wedi’u gosod a’u bod yn gweithio’n unol â’r fanyleb
P3 cynnal dadansoddiad electro-acwstig cywir i roi amcan o gydbwysedd sain ymhob ardal o’r lleoliad perfformio pan fo galw
P4 darparu cydbwysiad sain addas ar gyfer y cynhyrchiad
P5 gwerthuso canlyniadau profion i ddarparu arwydd clir o ran pa mor dda mae’r systemau’n cwrdd â’r gofynion
P6 addasu manylebau i ddarparu’r ansawdd sain ddelfrydol
P7 gwirio fod cyflwr unrhyw fatris yn ddigonol ar gyfer hyd bwriedig y defnydd 
P8 ymgynnull offer yn unol â’r fanlyeb neu ofynion eraill
P9 gwirio fod unrhyw offer a logwyd yn cydymffurfio â’r rhestr eiddo, gan adrodd ar unrhyw anghysonderau wrth y bobl addas
P10 lleoli erials i wneud yn fawr o ‘pick-up’ RF a lleihau’r tebygolrwydd o ollwng allan, a chydymffurfio â rheoli amleddau
P11 gosod trosglwyddyddion a derbynyddion yn eu lle â sensitifrwydd mewnbwn sy’n addas ar gyfer ei ddarpar ddefnydd
P12 adrodd ar offer diffygiol a’i labelu’n unol â gofynion cynhyrchu
P13 lleoli a chydgysylltu offer a cheblau yn unol â’r fanyleb
P14 adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw namau, methiannau a diffygion offer
P15 gwirio fod ceblau’n cwrdd â’r perfformiad sy’n ymwneud â’u defnydd
P16 gwirio fod y cyflenwad ynni sydd ar gael yn cwrdd â gofynion
P17 cynnal gweithdrefnau pweru yn unol â gofynion cynhyrchu 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 pa brofion a dadansoddiadau gwahanol a gynhelir ar systemau sain yn gyffredinol ac ar eitemau unigol o offer
K2 pwysigrwydd gwirio offer i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion diogelwch
K3 sut y gall rhwydweithiau TG effeithio ar syncroneiddio
K4 arwyddion cyffredin namau, methiannau a diffygion a sut i’w trin
K5 disgwyliadau cleientiaid neu gynhyrchwyr
K6 pa ategolion rhag y tywydd sydd eu hangen, a sut i’w defnyddio
K7 darpar ffynonellau sain a ble y’u lleolir
K8 pwysigrwydd hyglywedd deialog yn enwedig o gofio namau clywed poblogaeth sy’n heneiddio
K9 gofynion labelu a fformatau
K10 pwy sydd angen cael cadarnhad am systemau sain a phryd y mae’n addas darparu cadarnhad ysgrifenedig, a phryd y bydd cyngor ar lafar yn dderbyniol
K11 gofynion lleoliad a gosod lleoliadau sain
K12 â phwy i gysylltu i adnabod y gofynion y mae angen eu cyflawni
K13 gweithdrefnau gwirio diogelwch perthnasol ar gyfer offer sy’n rhedeg ar y prif gyflenwad trydan, gan gynnwys gwirio offer symudol
K14 pa reoliadau diogelwch trydanol sy’n berthnasol
K15 rheoliadau a gweithdrefnau diogelwch fel y gweithredir hwy yng nghyd-destun rigio, gosod, gweithredu, rhwng sioeau, dadrigio, storio ac, os yw’n berthnasol, trafnidiaeth; a gwneud amgylcheddau gwaith yn ddiogel ar ôl i’r gwaith ddod i ben
K16 gofynion statudol a gweithdrefnol ar gyfer diogelwch mewn lleoliad o wahanol fathau a meintiau 
K17 dulliau o rigio a dadrigio’n ddiogel, a sut a phryd i’w gweithredu
K18 agweddau diogelwch cyfeirio ceblau
K19 technegau hedfan ac unrhyw reoliadau perthnasol
K20 ymwybyddiaeth o ofidiau iechyd a diogelwch ynghylch trosglwyddiadau RF
K21 gofidiau iechyd a diogelwch o ran offer yn y glust
K22 egwyddorion acwstig, gan gynnwys y rheiny sy’n berthnasol yn y cyd-destun presennol, a sut i’w cymhwyso
K23 mathau o offer a’r hyn y mae’n gallu’i wneud
K24 mathau o feicroffonau a’u nodweddion
K25 mathau cyffredin o gysylltwyr a chyfluniad y piniau ynddynt
K26 protocolau safonau ffeiliau perthnasol
K27 pa ffactorau a ddylid eu dwyn i gof wrth leoli erials ar gyfer sioe fyw
K28 egwyddorion sylfaenol systemau trosglwyddiadau RF
K29 egwyddorion sylfaenol monitro yn y glust
K30 pam ei bod hi’n bwysig gadael offer mewn cyflwr da ar ôl ei ddefnyddio
K31 safonau perthnasol ar gyfer sain byw ar gyfer trosglwyddo, dosbarthu a ffrydio
K32 rhwydweithiau a systemau TG perthnasol 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSS12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Sain, Cynhyrchu, Gofynion, Systemau, Ffilm, Theledu, Sefydlu, Cyfarpar, Ategolion, Gwirio