Lleoli a gweithredu meicroffonau

URN: SKSS11
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â lleoli a gweithredu meicroffonau i ddal sain. Gall meicroffonau fod yn rhai gosodedig, rhai sy’n cael eu dal yn y llaw, ar fŵm neu ar bolyn. Mae hyn yn ymwneud â lleoli meicroffonau a’u hoffer cynnal er mwyn iddyn nhw fod yn anymyrrol ac yn achosi’r maint lleiaf posib o darfu ar berfformiad, tra ar yr un pryd yn dal y sain o’r ansawdd orau. Mae’n ymwneud â llwyddo i gael cydbwysedd addas rhwng ffynonellau sain a dal sain gyda’r persbectif, ystod ddeinamig a gwybodaeth aml-sianel addas. Mae hefyd yn ymwneud ag ymateb i giwiau mewn dull a gydlynwyd yn dda a delio â phroblemau yn ystod y gwaith.

Bydd y Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymwneud â lleoli a gweithredu meicroffonau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 penderfynu ar safleoedd gweithio a symudiadau ar gyfer meicroffonau yn ystod gosod ac ymarfer, sy’n cwrdd â gofynion cynhyrchu
P2 cael cydbwysedd rhwng ymarferoldeb safleoedd  gweithio a disgwyliadau ansawdd sain sydd fwyaf effeithiol ar gyfer cynyrchiadau
P3 lleoli meicroffonau i leihau ar sŵn neu sain ddiangen
P4 lleoli meicroffonau a’r offer sy’n eu dal er mwy eu gwneud yn anymwthiol ac yn lleihau cysgodion ac adlewyrchiadau diangen
P5 lleoli meicroffonau ac offer arall er mwyn lleihau ymyrryd ar, ac er mwyn osgoi rhwystro neu beryglu, cyfranwyr a chydweithwyr
P6 lleoli meicroffonau i gael cydbwysedd rhwng ffynonellau sain yn unol â gofynion sain
P7 cadarnhau fod lleoliadau terfynol meicroffonau’n cyflawni’r ansawdd sain orau bosib, o fewn cyfyngiadau cynhyrchu ac amgylcheddol
P8 lleoli meicroffonau mewn lleoliadau gweithio disgwyliedig, ac mewn ffyrdd y gellir eu hailadrodd drwy gydol cynyrchiadau, gan nodi lleoliadau meicroffonau rhag ofn y bydd angen ail-wneud y siot
P9 cynnal delwedd a phersbectif sefydlog yn ystod symud meicroffonau, yn unol â gofynion cynhyrchu
P10 dal sain â phersbectif sydd naill ai’n cefnogi neu’n gwella lluniau, sy’n ddigon hyglyw ac sydd ag ystod ddeinamig ddigonol
P11 cofnodi safleoedd meicroffonau mewn fformatau sy’n addas ar gyfer eu defnyddio dro ar ôl tro
P12 ymateb i giwiau â chydlyniad corfforol llyfn, gan ragweld newidiadau siot a symudiadau ffynonellau sain a chamerâu
P13 symud meicroffonau mewn dull llyfn, llifeiriol ac anymyrrol, er mwyn osgoi cynhyrchu sŵn diangen, a pharhau i fod yn gydymdeimladol i naws a theimladau cyfranwyr
P14 cadw gwybodaeth am leoliad wrth symud meicroffonau
P15 cyfathrebu â chyfranwyr a chydweithwyr mewn ffyrdd sy’n ennill eu cefnogaeth ac sy’n lleihau ar ymyrraeth ar ganolbwyntio pobl eraill
P16 cysylltu ag aelodau eraill o’r criw i leihau unrhyw ddarpar gysgod gan y bŵm neu broblemau adlewyrchiad
P17 adnabod, cyfyngu ar a chywiro unrhyw ddiffygion a chamweithredu mewn systemau ac offer yn ystod perfformiad gan darfu cyn lleied â phosib ar y perfformiad
P18 diogelu offer dal sain mewn ffordd ddiogel yn unol â gofynion cynhyrchu, pan na fydd yn cael ei ddefnyddio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 ble i gael gwybodaeth am safleoedd gweithio a argymhellir ar gyfer offer neu weithredwyr
K2 meini prawf a dulliau gwerthuso safleoedd gweithio ar gyfer offer a gweithredwyr
K3 pryd y mae angen addasu disgwyliadau safon sain a ffiniau gwneud hynny
K4 pwysigrwydd hyglywedd deialog yn enwedig o ystyried namau clyw poblogaeth sy’n heneiddio
K5 sut i ymdrin â chysgodion ac adlewyrchiadau diangen a achosir gan leoliad y meicroffon a’r offer sy’n ei ddal
K6 pa onglau camera, lensys a chymarebau agwedd sy’n cael eu defnyddio, a’u hoblygiadau ar gyfer lleoli a gweithredu meicroffonau
K7 nodweddion y sain sydd ei angen, beth yw ffynonellau’r sain, a pha newidiadau neu symudiad yn y ffynhonnell y gellir eu disgwyl
K8 y ciwiau, a sut i symud meicroffonau’n llyfn mewn ymateb iddynt
K9 egwyddorion sylfaenol technegau goleuo ar waith a’u hoblygiadau ar gyfer lleoli meicroffonau
K10 nodweddion y meicroffonau sy’n cael eu defnyddio, ac unrhyw ategolion, a ffyrdd o’u gweithredu
K11 egwyddorion acwsteg perthnasol, a sut i’w gweithredu yn y cyd-destun presennol
K12 technegau i gynnal delwedd a phersbectif sefydlog yn ystod symud meicroffonau, yn enwedig ar gyfer sain stereo a 360 gradd
K13 materion cydnawsedd rhwng mono, stereo, aml-sianel ac aml-drac yn y cyd-destun presennol
K14 dangosyddion namau, methiannau a thoriadau, a sut i’w rheoli a’u lleihau
K15 mecanwaith crogi meicroffonau a bwmau
K16 egwyddorion sylfaenol cyfansoddi llun, a sut y maen nhw’n berthnasol i’r siot
K17 y potensial i wneud camgymeriadau paralacs a sut i’w hosgoi neu’u cywiro
K18 tracio bŵm, a sut i dracio i gwrdd ag anghenion y cynhyrchiad
K19 sut i gyfathrebu’n effeithiol â chleientiaid, cyfranwyr a chydweithwyr
K20 sut i werthuso ac ymateb yn gadarnhaol i geisiadau gan gyfranwyr a chydweithwyr
K21 pam ei bod hi’n bwysig cyfathrebu mewn modd clir, cwrtais a pherswadiol â chydweithwyr a chyfranwyr, a sut i wneud hynny
K22 sut i adnabod unrhyw newidiadau angenrheidiol, a chyflwyno cynigion yn syml a chryno
K23 sut i ddal a symud polyn mewn osgo diogel, o fewn i’ch cyfyngiadau corfforol eich hun ac mewn ffordd y mae’n bosib ei gynnal am gyfnodau cymharol hir o amser
K24 sut i weithredu offer fel bŵm neu bolion, a chynnal eich iechyd a’ch diogelwch chi ac eraill
K25 pryd y mae’n addas adrodd am ddiffygion a chamweithio wrth bobl eraill, a sut i wneud hynny
K26 gofynion cynhyrchu ar gyfer sicrhau offer dal sain yn ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSS11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Meicroffonau, Sain, Cynhyrchu, Mono, Stereo, Ffilm, Theledu, Ansawdd, Cydbwysedd