Rigio, gosod a gweithredu meicroffonau personol ac offer monitro yn y glust

URN: SKSS09
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â rigio, gosod a gweithredu offer diwifr, gan gynnwys lleoli a gosod erialau a gosod offer i gyfranwyr. Mae’n cynnwys gwirio fod offer yn cwrdd â’r meini prawf a’i fod yn gweithio, er mwyn iddo weithredu’n effeithiol, Mae hefyd yn cynnwys gweithio’n sensitif gyda chyfranwyr.

Bydd y Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymwneud â rigio, gosod a gweithredu meicroffonau personol neu offer monitro yn y glust. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 sicrhau fod yr offer a nodwyd ar gael yn y lle cywir ar yr amser y gofynnwyd amdano
P2 cadarnhau fod offer yn gyfan, yn ddiogel ac yn gweithio’n iawn
P3 gwirio glendid a hylendid offer personol yn unol â gofynion hylendid
P4 cadarnhau fod cyflwr y batris yn ddigonol ar gyfer y cyfnod y rhagwelir y bydd yn cael ei ddefnyddio
P5 gwirio fod gan drosglwyddyddion sensitifrwydd mewnbwn sain digonol, a bod cyfyngwyr trosglwyddo’n gweithredu yn y dull cywir ar gyfer darpar ddefnydd y trosglwyddyddion
P6 lleoli a chysylltu erials i wneud y gorau o ‘pick-up’ amledd radio a lleihau ymyrraeth
P7 cynhyrchu unrhyw waith papur a labeli angenrheidiol mewn fformatau disgwyliedig
P8 esbonio wrth bobl addas pan na ellir cwrdd â manylebau o fewn i gyfyngiadau gweithredu, ac awgrymu dulliau amgen addas
P9 esbonio’r trefniadau sydd angen eu dilyn wrth gyfranwyr o ran gosod, gan dynnu’u sylw at eitemau a allai sgrinio neu effeithio mewn ffordd arall ar y trosglwyddiad
P10 gosod offer mewn dull sy’n parchu sensitifrwydd cyfranwyr o ran cyswllt corfforol a defnydd o offer, a chwrdd â gofynion cyfreithiol wrth weithio â phlant
P11 sicrhau fod offer yn ddiogel, yn gadarn, yn dwt, yn anymwthiol ac yn gyffyrddus i gyfranwyr
P12 lleoli offer mewn ffyrdd sy’n gwneud yn fawr o berfformiad yr offer, gan dalu sylw arbennig i leoliad meicroffonau, ceblau ac erials
P13 tynnu neu addasu eitemau personol a allai amharu ar drosglwyddiad i leihau’u heffaith
P14 adnabod a chywiro unrhyw ddiffygion a chamweithio mewn systemau ac offer yn ystod perfformiad, gan darfu cyn lleied â phosib ar y perfformiad
P15 cadarnhau fod y ddarpariaeth yn cydymffurfio â gofynion trwyddedu amleddau radio perthnasol bob amser
P16 gwaredu deunyddiau gwastraff yn unol â rheoliadau a chanllawiau gwaredu gwastraff


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 sut i gael gafael ar y fanyleb a chyfyngiadau gweithredu ar gyfer meicroffonau personol ac offer monitro yn y glust, a sut i’w dehongli
K2 offer a chydrannau gofynnol a beth yw eu defnydd
K3 gofynion hylendid, a sut i wirio a chynnal a chadw glendid a hylendid eitemau o offer personol
K4 nodweddion systemau trosglwyddo amrywiol, gan gynnwys amledd radio ac anwythiad, a sut i wneud yn fawr o’u gweithredu ar gyfer cyfranwyr
K5 sut i asesu tebygolrwydd ymyrraeth rhwng sianelau
K6 unrhyw sensitifrwydd a all fodoli ymysg cyfranwyr o ran gwisgo offer radio, a sut i addasu defnydd yr offer hwnnw i oresgyn hynny
K7 ffyrdd o esbonio materion technegol i bobl annhechnegol er mwyn eu helpu i ddeall eu harwyddocâd
K8 sut i drin cyfranwyr yn gwrtais, â thact ac â chydymdeimlad, er mwyn lleihau amharu ar eu canolbwyntio hyd eithaf eich gallu 
K9 sut i gelu offer mewn gwallt neu ddillad a phryd y mae’n addas cysylltu â’r adrannau coluro a gwisgoedd
K10 sut y bydd deunyddiau’n rhyngweithio â meicroffonau
K11 sut i gyfathrebu gofynion meicroffonau a rigio i unrhyw chaperone
K12 meini prawf barnu pa mor dderbyniol yw meicroffonau personol a osodwyd ac offer monitro yn y glust
K13 disgwyliadau ar gyfer gwaith papur a labeli a pham ei bod hi’n bwysig eu bod yn gywir a dealladwy
K14 dangosyddion namau a diffygion, sut i’w hadnabod a’r pethau y dylid ei gwneud i adfer hyn
K15 unrhyw reoliadau gwaredu gwastraff perthnasol, yn enwedig o ran gwaredu batris yn ddiogel
K16 pryd y mae’n addas adrodd am ddiffygion a chamweithio wrth bobl eraill, a sut i wneud hynny
K17 sut i asesu’r angen i gydymffurfio a chadarnhau fod cyfreithiau trwyddedu amleddau radio perthnasol yn cael eu cadw


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSS09

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Monitro, Sain, Rigio, Meicroffonau, Personol, Yn Y Glust, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Cyfarpar