Darparu systemau meic cyswllt (talkback)

URN: SKSS07
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â darparu systemau meic cyswllt (talkback) ar gyfer cynyrchiadau. Mae’r rhain yn hanfodol er mwyn darparu cyfathrebu da rhwng holl aelodau tîm cynhyrchu. Mae darparu systemau meic cyswllt yn golygu cynllunio systemau sy’n gwneud y defnydd gorau o systemau presennol, gwneud yn fawr o ddeall a gwahaniaethu rhwng cylchedau, gan esbonio i ddefnyddwyr sut y bydd y systemau’n gweithio, a chadw cofnodion cywir o’r hyn yr ydych chi wedi’i wneud.

Bydd y Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymwneud â darparu systemau meic cyswllt ar gyfer cynyrchiadau. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cadarnhau anghenion systemau meic cyswllt (talkback) â phobl addas
P2 gwirio fod yr adnoddau angenrheidiol ar gael o fewn cyfyngiadau cyllidebol
P3 awgrymu dewisiadau amgen dilys pan na ellir cwrdd â gofynion
P4 argymell cyfleusterau meic cyswllt sy’n gwneud y defnydd gorau o systemau sy’n bodoli eisoes, ac sy’n cydymffurfio ag arferion derbyniol
P5 darparu systemau meic cyswllt o fewn cyfyngiadau gweithredu
P6 cadarnhau bod systemau sgwrsio yn gwneud y gorau o ddeallusrwydd a gwahanu rhwng cylchedau
P7 sicrhau fod systemau meic cyswllt yn cydymffurfio â gofynion trwydded amleddau radio perthnasol bob amser
P8 cytuno ar weithdrefnau gweithredu â phersonél addas
P9 rhoi gwybodaeth glir a chywir i ddefnyddwyr ynglŷn â threfniadau a gweithdrefnau gweithredu
P10 darparu eitemau o offer ar gyfer defnydd personol sy’n lân, yn ddiogel, yn hylan ac yn dderbyniol i’r defnyddiwr
P11 cynhyrchu gwaith papur a labeli cywir, dealladwy, yn y fformatau y gofynnir amdanynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 sut i ddwyn i amlygrwydd, cytuno ar a chrynhoi gofynion cyfathrebu ar gyfer systemau meic cyswllt (talkback) a’i oblygiadau cost a thechnegol
K2 meini prawf ar gyfer asesu dichonoldeb gofynion, a sut i wneud asesiad teg
K3 ffynonellau tebygol o ymyrraeth i unrhyw drydydd parti, a pha weithredu sydd angen ei wneud i ddiddymu neu leihau hyn
K4 sut i leihau traws-siarad o fewn i systemau meic cyswllt, a rhwng systemau meic cyswllt a chylchedau rhaglenni
K5 nodweddion a photensial perfformio systemau ffôn, intercom a meic cyswllt
K6 ergonomeg gosod offer allan
K7 pam a sut i ddefnyddio rhaglen â phwrpas deublyg neu gylchedau cyfathrebu
K8 sut i asesu anghenion cydymffurfio a chadarnhau fod deddfau trwyddedu amleddau radio perthnasol yn cael eu cadw
K9 deddfwriaeth diogelwch sy’n ymwneud ag offer cyfathrebu a sut i’w gweithredu, gan gynnwys lefelau sain mewn clustffonau neu offer yn y glust
K10 sut i adnabod deunydd amgen pan na fydd adnoddau ar gael, neu pan fyddant yn rhy ddrud
K11 sut i gyflwyno asesiadau, cynigion ac awgrymiadau ar sut i wella
K12 sut i gymhwyso gwybodaeth a phrofiad o drefniadau blaenorol i'r trefniant presennol 
K13 gweithdrefnau ar gyfer sefydlu a chlirio cylchedau, a sut i’w gweithredu’n effeithiol
K14 fformatau ar gyfer dogfennu a labelu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSS07

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Sain, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Systemau meic cyswllt, Cyfathrebu, Systemau, Cylched