Gwneud recordiadau sain

URN: SKSS06
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â gwneud recordiadau sain mewn stiwdio neu ar leoliad gan ddefnyddio naill ai gamera, cymysgydd a/neu recordydd. Mae'n golygu recordio “line-up” i’r safonau technegol a ddisgwylir, gan gynnwys y codau a'r wybodaeth yn y “line-up” a recordiwyd sydd eu hangen i atgynhyrchu'r recordiad. Mae hefyd yn cynnwys profi’r recordiadau, monitro ansawdd y sain a recordiwyd, datrys unrhyw broblemau sy’n codi yn ystod recordio a rheoli’r recordiad er mwyn iddo gwrdd â gofynion cynhyrchu.

Mae’r Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy’n gwneud recordiadau sain. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cadarnhau fod y “line-up” a recordir ar lefel sy’n cwrdd â safonau a gytunwyd ac ymateb amledd a ddisgwylir
P2 cadarnhau fod gan recordiadau gymhareb signal-i-sŵn ddisgwyliedig, eu bod yn rhydd o namau y gellir eu clywed, a chynnal perthynas wedd signalau y “line-ups”
P3 sicrhau fod codau adnabod a gwybodaeth sydd ei angen ar gyfer atgynhyrchu mewn “line-ups” a recordiwyd yn cael eu cynnal
P4 darparu, monitro a gwirio tôn “line-up” naill ai yn y camera, y cymysgydd a/neu’r recordydd yn erbyn gofynion
P5 darparu, neu sicrhau argaeledd, offer addas ar gyfer unrhyw ofynion sain resymol sy’n debygol o godi oddi mewn i ffiniau disgwyliedig cynyrchiadau
P6 adrodd yn ôl i’r bobl addas am unrhyw broblemau a allai rwystro gwneud recordiadau derbyniol
P7 gwneud recordiadau prawf, gan ddefnyddio deunydd rhaglen nodweddiadol, sy’n rhydd o unrhyw namau y gellir eu clywed
P8 sicrhau fod gan gyfryngau recordio gapasiti digonol ar gyfer hyd ddisgwyliedig recordiadau
P9 sicrhau na chollir recordiadau blaenorol y bydd galw amdanynt efallai, na recordio drostynt
P10 cadarnhau’n rheolaidd fod unrhyw system syncroneiddio’n addas, yn ddigon cywir ac yn gweithredu fel y dylai
P11 cynnal cydnawsedd y mathau fformatio
P12 rheoli lefelau sain cefndirol anaddas nes bod yn gyson ac addas ar gyfer defnyddio’r recordiadau maes o law
P13 cadarnhau pan fo’n addas fod sain yn cael ei recordio ar y gyfradd ffrâm a gytunwyd ac yn ôl y fanyleb
P14 cynghori pobl addas am atebion posib yn achos methiant y system neu dorri ar offer
P15 cynhyrchu’r sain a ddymunir yn y fformat a ddymunir, ar y lefel sy’n ofynnol, gyda’r ystod deinameg sy’n addas ar gyfer y cyfrwng recordio neu’r dechnoleg
P16 recordio sain ddigonol ar ddechrau a diwedd pob ‘take’ i alluogi symud yn ddi-dor i ddeunydd cyfagos
P17 cwblhau cofnodion, a chynhyrchu labeli, ar gyfer recordiadau sy’n gywir, yn ddealladwy, yn gyfredol ac yn hygyrch, ac sy’n cwrdd ag anghenion cynhyrchu
P18 adnabod pob recordiad drwy logio meta ddata, mewn modd sy’n dderbyniol ac yn ddealladwy i ddefnyddwyr olynol yn y broses olygu ac ôl-gynhyrchu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 gofynion technegol ac esthetig y cynhyrchiad
K2 cyfyngiadau gweithredol a thechnegol y cyfrwng sy’n cael ei ddefnyddio
K3 pa dechnegau a gofynion sy’n berthnasol
K4 y defnydd o feicroffonau a thechnegau ar gyfer gosod meicroffonau
K5 effeithiau lleoli meicroffonau ar siots
K6 defnyddio offer recordio sain yn gywir a gofalu amdano
K7 sut i wneud recordiadau sain sy’n cwrdd â’r cyfyngiadau technegol ac artistig
K8 sut i asesu nodweddion acwstig
K9 technegau i helpu lleihau sŵn dianghenraid
K10 pwysigrwydd hyglywedd y ddeialog yn arbennig o ystyried namau clyw poblogaeth sy’n heneiddio
K11 strategaethau effeithiol er mwyn cynyddu eglurder clywed deialog
K12 technegau goleuo naturiol ac artiffisial sy’n cael eu defnyddio, a sut y gallai’r rhain effeithio ar y defnydd o fwmau, lleoliad meicroffonau a recordio
K13 sut y bydd recordio’n effeithio ar y prosesau golygu ac ôl-gynhyrchu
K14 arwyddocâd cymhareb signal-yn-erbyn-sŵn, cyfnod y signal a rheoli lefel sain ac uchder uwchlaw’r pen
K15 unedau desibel a defnyddio mathau gwahanol o systemau mesur
K16 aliniad a chyfluniad cywir yr offer recordio
K17 gofynion y cwsmer a sut i gydymffurfio â nhw
K18 technegau ar gyfer lleoli meicroffonau a recordio ar gyfer amnewid deialog yn awtomatig (ADR)
K19 safonau digidol, eu cyfluniad a sut i gydymffurfio â nhw
K20 sut i gynnal cyfluniad mathau gwahanol o fformatau
K21 y defnydd o god amser a safonau mewn cymhwysiannau perthnasol
K22 egwyddorion syncroneiddio a systemau cyfeirio a sut y maen nhw’n berthnasol i recordio
K23 dulliau o gadarnhau fod sain yn cael ei recordio’n gywir gan gynnwys monitro signal a recordiwyd a dulliau eraill
K24 y mathau o fformatau recordio a safonau ffeil
K25 beth i’w wneud yn achos methiannau system ac offer yn torri
K26 y bobl briodol i gysylltu nhw yn achos methiant system, offer yn torri a phroblemau eraill a allai rwystro gwneud recordiadau derbyniol
K27 hyd neu gapasiti cyfryngau recordio ar y cyflymder neu’r raddfa sampl a ddefnyddiwyd
K28 cadw cofnodion a gofynion labelu
K29 gofynion meta ddata
K30 sut i waredu deunydd gwastraff, gan gynnwys batris, yn ddiogel


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSS16

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Sain, Cynhyrchu, Gofynion, Ffilm, Theledu, Recordiad, Recordiwyd, Ansawdd