Dilyn gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer cynhyrchu sain

URN: SKSS04
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â dilyn gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer holl agweddau cynhyrchu sain. Mae’n ymwneud ag adnabod risgiau a darpar beryglon, yn enwedig, wrth weithio mewn lleoliadau anghyfarwydd.

Mae’n ymwneud â gosod, a defnyddio offer sain mewn ffordd sy’n ddiogel i chi ac eraill a chymryd camau i ddelio ag unrhyw beth a allai eich rhoi chi neu eraill mewn perygl. Mae’n cynnwys cadw cofnodion iechyd a diogelwch ac adrodd ar sefyllfaoedd a allai fod yn risg i bobl yn y gweithle.

Mae hefyd yn ymwneud â bod yn ymwybodol o’ch amgylchedd ac unrhyw ffactorau amgylcheddol y dylech chi eu hystyried cyn gosod a defnyddio unrhyw offer. 

Mae’r Safon hon yn berthnasol i bawb sy’n ymwneud â chynhyrchu sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 gwirio fod pob asesiad iechyd a diogelwch perthnasol wedi cael eu cynnal
P2 cael copïau o bob rheol y mae’n rhaid i chi a’r cynhyrchiad gydymffurfio â nhw i sicrhau gweithio’n ddiogel, a’u darllen
P3 sicrhau eich bod yn deall pob rheol ar gyfer y cynhyrchiad a’u hystyr ymarferol
P4 mynychu briffio diogelwch sy’n berthnasol i’ch rôl a’r cynhyrchiad
P5 sicrhau fod offer sain ac ategolion yn cael eu codi, eu cario a’u lleoli yn unol â thechnegau trin â llaw a gofynion iechyd a diogelwch
P6 gwirio fod offer sain ac ategolion yn cael eu rigio a’u cynhyrchu yn unol â gofynion technegol a diogelwch cyflenwyr neu gynhyrchwyr 
P7 sicrhau fod mesurau a rheolau yn eu lle i wneud yn siŵr fod gofynion gwrando’n ddiogel yn cael eu cwrdd
P8 gweithredu offer sain mewn ffyrdd nad ydyn nhw’n achosi risg i iechyd a diogelwch eich hunan nac eraill
P9 rheoli risgiau iechyd a diogelwch sydd o fewn eich gallu a chyfrifoldeb eich swydd
P10 adnabod pan fydd angen ailasesu o bosib a’i ddwyn i sylw’r bobl berthnasol 
P11 cyfeirio peryglon a risgiau na allwch chi ddelio â nhw eich hun, ynghyd ag awgrymiadau i leihau’r risg, i’r bobl gyfrifol ar adegau addas
P12 gweithredu ar fyrder i ddelio ag unrhyw nam a pheryglon eraill yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithle a gofynion cyfreithiol
P13 dad-rigio a dad-gysylltu offer sain ac ategolion yn unol â gofynion technegol a diogelwch cyflenwyr neu gynhyrchwyr
P14 adfer stiwdios a lleoliadau i’r cyflwr yr oeddent ynddo cyn eu defnyddio, a gwaredu gwastraff, yn unol â gofynion cynhyrchu
P15 cadw cofnodion iechyd a diogelwch addas yn unol â gofynion.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 eich cyfrifoldebau a dyletswyddau cyfreithiol chi o ran iechyd a diogelwch a rheoli risgiau
K2 deddfwriaeth iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i bob agwedd ar gynhyrchu sain yr ydych chi’n ymwneud ag ef
K3 ‘peryglon’ a ‘risgiau’ generig sy’n ymwneud â chynhyrchu sain, a’r mesurau rheoli penodol ar gyfer y cynhyrchiad neilltuol
K4 pwy sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch a sut i gysylltu â nhw
K5 sut i godi gofidiau sydd gennych am risg neu ddarpar beryglon
K6 arferion gweithio diogel y mae’n rhaid i chi eu dilyn
K7 sut i gael gafael a chyfeirio at asesiadau iechyd a diogelwch ar gyfer y cynhyrchiad
K8 pwysigrwydd bod yn ymwybodol o bresenoldeb peryglon a risgiau yn eich maes ac yn yr holl stiwdio neu leoliad 
K9 pwysigrwydd delio a risgiau neu beryglon ar fyrder, neu adrodd amdanynt
K10 egwyddorion iechyd a diogelwch o ran gwrando diogel, gan gynnwys rheolau a chydymffurfio â rheolau yn erbyn colli clyw
K11 cyfarwyddiadau cyflenwyr neu gynhyrchwyr o ran defnyddio offer ac ategolion sain yn ddiogel
K12 gwrthdaro posib rhwng gofynion technegol a diogelwch cyflenwyr neu gynhyrchwyr, a gofynion y cynhyrchiad a pha un sy’n cymryd blaenoriaeth
K13 effaith ‘scope creep’ ar risgiau a pheryglon ac asesiadau iechyd a diogelwch a phryd a pham y bydd angen ailasesu
K14 ble a phryd i gael cymorth iechyd a diogelwch ychwanegol, gan gynnwys briffiau diogelwch
K15 gofynion adnabod a chofnodi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSS04

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Sain, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Lechyd, Diogelwch, Risg, Perygl