Asesu ac adrodd ar stiwdios a lleoliadau ar gyfer caffael sain

URN: SKSS03
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin ag asesu ac adrodd ar stiwdios a lleoliadau yng nghyd-destun gofynion sain. Mae’n cynnwys asesu gofynion trafnidiaeth a mynediad ar gyfer rigio a dad-rigio offer, gwirio cyfleusterau technegol ac y bydd y sain sy’n cael ei gaffael yn cwrdd ag anghenion ansawdd cynyrchiadau.

Mae’n ymwneud â chynllunio ac amseru ymweliadau safle, asesu nodweddion stiwdios neu leoliadau a fydd yn effeithio ar gaffael sain, casglu samplau sain a delweddau a chyflwyno eich canfyddiadau gerbron penderfynwyr allweddol.

Fe all y Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymwneud ag asesu stiwdios a lleoliadau ar gyfer caffael sain. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 cynnal ymweliadau safle ar adegau sy’n cydymffurfio ag amserlenni saethu ac amodau amgylcheddol a gweithio cyfredol
P2 cynnal ymweliadau safle gyda phobl berthnasol o adrannau eraill er mwyn gallu croesgyfeirio gofynion ble bo’n addas
P3 cynnal asesiadau nodweddion stiwdios a lleoliadau, a’r drefn y cânt eu defnyddio, a fydd yn cael effaith ar gaffael sain a chynllunio
P4 defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i asesu lleoliadau a stiwdios yn erbyn gofynion cynhyrchu sain
P5 cadarnhau y gellir cydymffurfio â pholisïau iechyd a diogelwch sy’n ymwneud â sain mewn stiwdios a lleoliadau
P6 dod o hyd i atebion realistig pan fydd anawsterau’n cael eu hamlygu o ran trafnidiaeth, mynediad, rigio a dad-rigio offer sain
P7 datblygu cynlluniau wrth gefn realistig i wrthsefyll darpar broblemau gyda chaffael sain mewn stiwdios a lleoliadau
P8 cadw cofnodion, samplau sain a delweddau o ymweliadau safle mewn fformatau a fydd yn hwyluso’u defnydd yn y dyfodol  
P9 cyfathrebu effaith lleoliadau anaddas o ran ansawdd sain angenrheidiol ar y gadwyn gynhyrchu gerbron penderfynwyr perthnasol
P10 cyflwyno asesiadau safle, cynigion a phenderfyniadau gerbron penderfynwyr a chydweithwyr mewn termau sy’n ddealladwy i bobl annhechnegol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 y gofynion technegol, artistig a chynhyrchu
K2 ble i gael gwybodaeth am stiwdios neu lleoliadau
K3 y meini prawf a dulliau ar gyfer gwerthuso stiwdios neu lleoliadau o ran sain
K4 sut i adnabod manteision ac anfanteision stiwdios a lleoliadau o ran sain
K5 sut i ddod o hyd i wybodaeth am unrhyw ganiatâd arbennig fydd ei angen arnoch i ymweld â stiwdios neu lleoliadau
K6 unrhyw amodau amgylcheddol neu waith cyfredol
K7 pwysigrwydd hyglywedd y ddeialog yn enwedig o ran diffygion clyw poblogaeth sy’n heneiddio
K8 mathau o offer sain a’u hargaeledd, gan gynnwys offer cefnogi a gofynion trafnidiaeth, mynediad, rigio a dad-rigio’r offer.
K9 costau, amseru, amserlennu a gofynion ynni’r cynhyrchiad
K10 sut i amcanu’r angen am gynlluniau wrth gefn
K11 goblygiadau gofynion iechyd a diogelwch ar stiwdios a lleoliadau mewn perthynas â sain
K12 sut i gofnodi’r wybodaeth a gasglwyd yn gywir
K13 â phwy y dylech gysylltu, a sut y gall cysylltu ag adrannau eraill greu’r amodau delfrydol ar gyfer sain, a lleihau effaith eich gwaith ar eraill
K14 pwy yw’r penderfynwyr, a pha ddulliau sy’n debygol o fod yn fwyaf tebygol o’u darbwyllo
K15 sut i gyfathrebu’n glir a pherswadiol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKS03

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Rigio, Ffilm, Lleoliadau, Mynediad,Sain, Theledu, Cynhyrchu, Sain