Rheoli darparu anghenion sain

URN: SKSS02
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â rheoli darparu gofynion sain fel y nodir hwy yn y cynllun cynhyrchu sain. Mae’n ymwneud ag amcangyfrif anghenion adnoddau, dyrannu gwaith, monitro cynnydd ac adrodd yn ôl i’r penderfynwyr. Mae’n cynnwys gwerthuso effeithlonrwydd cyffredinol a gwneud unrhyw welliannau sydd eu hangen mewn ymateb i newidiadau i’r briff.

Gallai’r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymwneud â rheoli darparu gofynion sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 adnabod unrhyw oblygiadau iechyd a diogelwch o ran cynlluniau cynhyrchu sain, yn erbyn gofynion iechyd a diogelwch
P2 gwneud asesiadau o faint cynyrchiadau sy’n ddigon cywir i alluogi gwneud amcangyfrifon realistig o anghenion adnoddau
P3 dyrannu gwaith a fydd yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau unigolion er mwyn cwrdd â gofynion cynhyrchu 
P4 defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ddadansoddi effaith newidiadau i friffiau creadigol ar gynlluniau cynhyrchu sain, gan eu newid yn ôl y galw
P5 cofnodi unrhyw newidiadau i gynlluniau cynhyrchu sain mewn fformatau addas
P6 gwneud awgrymiadau realistig o ran gwella defnydd o adnoddau gerbron pobl berthnasol
P7 rhoi gwybod i’r rheiny sy’n cael eu heffeithio ganddynt pan fydd amrywiadau’n digwydd i amcangyfrifon amser gwreiddiol, er mwyn rhoi amser digonol iddynt i addasu’u gwaith i ymgorffori’r newid
P8 casglu gwybodaeth ddibynadwy er mwyn asesu cynnydd yn erbyn cynlluniau cynhyrchu sain
P9 adrodd ar gynnydd yn erbyn cynlluniau cynhyrchu sain ar adegau fel y gofynnir amdanynt gan y penderfynwyr 
P10 awgrymu ffyrdd realistig o oresgyn unrhyw anawsterau a gynigir gan natur ffiniau gweithio gerbron pobl berthnasol
P11 defnyddio gwybodaeth berthnasol i farnu’n gyffredinol




Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 sut i ddehongli’r briff creadigol a’i oblygiadau technegol
K2 beth yw’r ffiniau gweithio, a ffynonellau gwybodaeth amdanynt
K3 gofynion artistig, technegol, gweithredol a chyllidol y briff creadigol
K4 cynseiliau cwrdd â’r briff, eu nodweddion, manteision ac anfanteision
K5 ble i gael manylion am y cynllun cynhyrchu sain yr ydych chi’n gweithio iddo
K6 gofynion iechyd a diogelwch yn ymwneud â gweithredu cynlluniau cynhyrchu sain
K7 sut i asesu maint y cynhyrchiad ac amcangyfrif gofynion adnoddau’n ddibynadwy ac yn realistig
K8 sut i amcangyfrif faint o amser fydd ei angen i gwblhau tasgau o fewn y cynllun cynhyrchu sain
K9 y math o offer a chyfleusterau fydd eu hangen a’u hargaeledd
K10 sut i ddyrannu gwaith i beri fod sgiliau’n cyd-fynd ag anghenion cynhyrchu
K11 gwybodaeth i’w gasglu er mwyn monitro cynnydd a ffyrdd o gael gafael arni
K12 pwy sydd angen cael gwybod am amrywiadau i amcangyfrifon a chynnwys cynlluniau
K13 sut i farnu effeithiolrwydd cynlluniau cynhyrchu sain, a gwelliannau iddynt
K14 fformatau ar gyfer cofnodi gwybodaeth gynhyrchu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSS02

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ffilm, Sain, Theledu, Cynlluniau, Briff, Gofynion