Datblygu cynlluniau cynhyrchu sain

URN: SKSS01
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â datblygu cynlluniau sain ar gyfer cynyrchiadau. Mae’n golygu dadansoddi’r briff creadigol, adnabod dewisiadau sy’n bosib yn dechnegol ac o fewn cyfyngiadau gweithio, dyfeisio dewisiadau dilys a’u cyflwyno gerbron pobl sy’n gwneud penderfyniadau. Mae hefyd yn cynnwys cadw cofnodion cywir o’r hyn a gytunir o ran cynlluniau cynhyrchu sain.

Gallai’r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy’n ymwneud â datblygu cynlluniau cynhyrchu sain. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dadansoddi briffiau creadigol, eu hoblygiadau technegol ar gyfer cynhyrchu sain a chyfyngiadau gweithio gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy 
P2 cytuno gyda’r penderfynwyr ar syniadau cychwynnol a gofynion adnoddau sy’n cwrdd â nodau artistig a maŵachol ar gyfer cynhyrchu sain 
P3 adnabod dewisiadau sy’n dechnegol ddichonadwy er mwyn cwrdd â briffiau creadigol, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael 
P4 dewis opsiynau i wireddu briffiau creadigol sy’n gwneud y defnydd gorau o fentrau perthnasol, ac sy’n debygol o gael eu cefnogi gan y penderfynwyr 
P5 ymgynghori ag arbenigwyr perthnasol pan fydd dewisiadau ac atebion y tu hwnt i’ch maes arbenigedd chi 
P6 dewis opsiynau sy’n cynnig dewisiadau realistig rhwng dehongliadau a thriniaethau artistig amrywiol
P7 crynhoi prif nodweddion syniadau cynllun sain a chyflwyno gwybodaeth ddigonol i’r bobl berthnasol er mwyn caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud
P8 argymell opsiynau sy’n caniatáu i benderfynwyr wneud dewis rhwng canlyniad terfynol a arweinir gan gost neu gan gelfyddyd
P9 esbonio materion technegol mewn dulliau sy’n galluogi i bobl annhechnegol ddeall eu harwyddocâd  
P10 cofnodi’r cynllun cynhyrchu sain ac unrhyw gytundebau mewn fformatau a ddisgwylir. 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 sut i ddehongli’r briff creadigol a’i oblygiadau technegol
K2 paramedrau gweithio’r cynhyrchiad a sut i benderfynu ar ffynonellau dibynadwy o wybodaeth amdanynt
K3 gofynion artistig, technegol, gweithredol ac ariannol y briff creadigol
K4 cynseiliau cwrdd â’r briff, eu nodweddion, manteision ac anfanteision
K5 effaith y cyfraddau ffrâm ar gynhyrchu sain a phwysigrwydd cytuno arnynt yn y cam cynllunio
K6 sut i ddatblygu, gwerthuso a dethol opsiynau â’r potensial mwyaf
K7 sut i ddefnyddio dulliau creadigol er mwyn cyflawni nodau artistig a masnachol
K8 y math o offer ac adnoddau sydd eu hangen, ac a ydynt ar gael
K9 sut i gyflwyno gwybodaeth dechnegol mewn ffyrdd sy’n galluogi pobl annhechnegol i ddeall ei arwyddocâd i’r briff creadigol
K10 sut i lunio a chyfiawnhau argymhellion
K11 pwy yw’r penderfynwyr, sut i gyflwyno gwybodaeth ger eu bron yn adeiladol, yn glir ac yn llawn tact, a beth yw’r opsiynau mae’r penderfynwyr yn debygol o’u cefnogi
K12 dulliau o ddatblygu a phrofi cymwysiadau, egwyddorion neu dechnegau newydd
K13 sut i wneud a chadw cofnodion o welliannau posib i’r gofynion sain
K14 fformatau ar gyfer recordio gwybodaeth cynhyrchu 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSS01

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu)

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynlluniau, Ffilm, Theledu, Sain, Cynhyrchu, Briffio