Cynnal ymchwil ar gyfer cynnwys radio a sain

URN: SKSRAC6
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynnal ymchwil ar gyfer ystod o gynnwys radio a sain ar draws pob genre.

Mae'n golygu meddu ar ddealltwriaeth eglur o ddiben yr ymchwil a sut caiff ei defnyddio.

Mae'n ymwneud â chyrchu neu gysylltu ag ystod eang o ffynonellau a gallu craffu data, neu holi unigolion er mwyn casglu gwybodaeth sy'n berthnasol neu'n arwyddocaol i'r pwnc dan sylw.

Mae'n mynnu dod i farn fwriadus am ddibynadwyedd ffynonellau a chywirdeb gwybodaeth. 

Mae'n ymwneud â deall materion hawlfraint yn ogystal â chyfyngiadau cyfreithiol a moesegol.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynnal ymchwil i ddatblygu cynnwys yn y diwydiannau radio a sain


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod meysydd i gynnal ymchwil iddynt sy'n berthnasol i'r brîff cynnwys radio neu sain
  2. adnabod ffynonellau gwybodaeth a chyngor dibynadwy posibl pan fydd angen gwybodaeth arbenigol
  3. cytuno ar y defnydd o ffynonellau arbenigol gyda phobl berthnasol a gwneud trefniadau i gontractau gael eu cyhoeddi lle y bo'n briodol
  4. cysylltu â ffynonellau perthnasol mewn ffordd sydd fwyaf tebygol o gael hyd i'r wybodaeth ofynnol
  5. cynnal cofnodion cywir a chynhwysfawr a nodiadau cyfweliadau ar gyfer yr ymchwil a gynhelir
  6. cadw cronfeydd data cysylltiadau'n gyfoes
  7. storio pob math o wybodaeth yn ymwneud â ffynonellau ac ymchwil mewn ffordd ddiogel gyda phrotocolau sefydliadol cytûn
  8. dyfeisio cwestiynau a defnyddio technegau holi priodol i sicrhau gwybodaeth ar gyfer brîff yr ymchwil
  9. casglu gwybodaeth o ystod o wahanol ffynonellau i alluogi barnu eu gwerth a'u dibynadwyedd
  10. gwirio bod gwybodaeth yn ddilys, yn gywir ac yn addas at ei diben 
  11. asesu'r holl wybodaeth o ran ei pherthnasedd i'r cynnwys radio neu sain cyn dethol y deunydd a fydd yn gwireddu brîff yr ymchwil orau
  12. cael cyngor priodol am unrhyw feysydd a sy'n ddadleuol yn gyfreithiol
  13. casglu gwybodaeth o fewn amserlenni, terfynau cyllidebau a gofynion cytundebol cytunedig
  14. defnyddio'ch ymchwil i gynhyrchu nodiadau briffio cydlynol a chryno mewn ffurf sy'n briodol i'r defnyddiwr terfynol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben yr ymchwil a natur y cynnwys radio neu sain mae'n perthyn iddo
  2. yr amserlenni, y terfynau amser a chyfyngiadau adnoddau ar gyfer yr ymchwil i'w chynnal ar gyfer creu cynnwys radio a sain
  3. sut i rannu cynnig yn dasgau ymchwil ymarferol
  4. ffynonellau gwybodaeth bosibl gan gynnwys pobl, cyhoeddiadau a chronfeydd data
  5. sut i gysylltu â phobl i gael hyd i wybodaeth
  6. pwysigrwydd cadw nodiadau ymchwil eglur, cynhwysfawr, cywir a chyfredol
  7. y gofynion cyfreithiol a'r protocolau sefydliadol perthnasol ar gyfer storio gwybodaeth mewn perthynas ag ymchwil a ffynonellau
  8. yr ystyriaethau masnachol, cyfreithiol a moesegol sy'n berthnasol wrth gysylltu â ffynonellau a pha drefniadau cytundebol sy'n berthnasol i ffynonellau arbenigol
  9. sut i werthuso gwybodaeth o ran ei pherthnasedd, ei dibynadwyedd a'i chywirdeb a sut i wirio ac adnabod anghysonderau ac anghysondebau
  10. sut i ymgymryd ag ymchwil effeithiol ar y rhyngrwyd, gan ddefnyddio peiriannau chwilio arbenigol lle bo angen
  11. y risgiau cyfreithiol, y camgymeriadau ffeithiol a'r achosion posibl o dramgwyddo codau ymddygiad sy'n gysylltiedig â defnyddio deunydd o ffynonellau'r rhyngrwyd 
  12. gwerth, cyfyngiadau a risgiau defnyddio ffynonellau cyfryngau cymdeithasol
  13. yr ystyriaethau cyfreithiol a moesegol perthnasol sy'n effeithio ar y defnydd o wybodaeth ar gyfer cynnwys radio neu sain
  14. unrhyw gyfyngiadau ac amodau sy'n gysylltiedig â defnyddio gwybodaeth a goblygiadau defnyddio deunyddiau hawlfraint ar gyfer cynnwys radio a sain

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC6

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cynnwys, Ymchwil, Cyfreithiol, Moesegol, Masnachol, Hawliau