Cychwyn a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain

URN: SKSRAC5
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chychwyn a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys radio a sain a chymhwyso technegau meddwl creadigol ac adrodd storïau, yn ogystal â dealltwriaeth o'r cyd-destun a'r farchnad ar gyfer eich syniadau. Mae'n ymwneud â deall gofynion gorsafoedd, cynyrchiadau a rhaglenni radio a gwahanol genres, ac adnabod ffactorau sydd wedi cyfrannu at lwyddiannau neu fethiannau yn y gorffennol.

Mae'n cynnwys defnyddio dulliau ymchwil priodol, cyrchu ffynonellau gwybodaeth dibynadwy, a chadarnhau bod modd gwireddu cynigion o fewn ffiniau cyllidebau.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cychwyn a datblygu syniadau yn y diwydiannau radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i sefydlu gofynion yr orsaf, cynhyrchiad neu raglen radio, a natur y gynulleidfa darged
  2. cychwyn a datblygu syniadau creadigol ar gyfer cynnwys radio a sain sydd â'r potensial i ateb gofynion cynhyrchu neu raglen, ac apelio at y gynulleidfa darged ar draws pob llwyfan perthnasol
  3. defnyddio dulliau ymchwil i ateb gofynion cynhyrchu sy'n cydymffurfio â chyfyngiadau cyfreithiol a moesegol perthnasol
  4. trafod a rhoi cynnig ar syniadau cychwynnol gyda phobl berthnasol eraill i ddatblygu cynigion ystyriol ar gyfer cynnwys radio a sain
  5. datblygu syniadau cynnwys radio a sain yn ddigon manwl i ganfod y gellir eu gwireddu gyda'r adnoddau sydd ar gael a/neu o fewn cyllideb ac amserlen benodedig
  6. adnabod ffactorau sydd wedi pennu llwyddiant neu feddiant cynyrchiadau radio a sain yn y gorffennol a chymhwyso'r dysgu hwn, gan adeiladu ar arfer da wrth ddatblygu syniadau
  7. gwirio'r ffynonellau sydd ar gael ac sy'n hygyrch i wirio pa mor wreiddiol yw'r syniadau
  8. adnabod cyfleoedd i ddelweddu a ffyrdd eraill o ddefnyddio syniad ar draws llwyfannau amrywiol i greu cynnwys aml-gyfrwng rhyngweithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr orsaf, y cynhyrchiad neu'r rhaglen y mae unrhyw syniad cynnwys radio a sain wedi'i anelu ato/ati, ei gynulleidfa/chynulleidfa darged, a disgwyliadau pobl sy'n comisiynu sy'n gwneud penderfyniadau
  2. nodweddion a hoffterau'r gynulleidfa fwriadedig, a pha mor debygol yw'ch syniad o apelio atynt
  3. sut i gymhwyso technegau meddwl creadigol ac adrodd storïau i gychwyn syniadau cynnwys
  4. sut i dynnu ar ffynonellau syniadau posibl - gan gynnwys profiad personol, ymchwil arbenigol a phob math o gyfryngau
  5. sut i weithio'n gydweithredol ag eraill a pham mae'n bwysig gwneud hynny
  6. sut i ddatblygu syniadau cychwynnol a'u troi'n gynigion y gellir gweithio gyda nhw, y cwestiynau i'w gofyn, ac a oes angen unrhyw wybodaeth bellach
  7. unrhyw faterion posibl o ran y gyfraith, rheoleiddio neu bolisi golygyddol a sut dylid mynd i'r afael â nhw
  8. sut i adnabod yr hyn sydd wedi gwneud syniadau cynnwys radio a sain flaenorol yn llwyddiannus
  9. sut i adnabod ffynonellau gwybodaeth arbenigol berthnasol
  10. y technegau ar gyfer delweddu radio a sain, a sut gellir datblygu syniadau cynnwys i greu cynnwys aml-gyfrwng ar draws ystod o lwyfannau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC5

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Aml-gyfrwng, Radio, Sain, Syniadau, Cynnwys, Llwyfannau