Cynhyrchu radio neu sain fyw

URN: SKSRAC24
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynhyrchu radio neu sain fyw. Mae'n cynnwys cyfarwyddo a chefnogi cyflwynwyr, cyfranwyr a thimau stiwdio, o fewn amgylcheddau cynhyrchu byw.

Mae'n ymwneud â briffio a rhoi cyfarwyddyd i gyflwynwyr a chyfranwyr, cydlynu gweithgareddau timau stiwdio a monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau cynhyrchu.

Mae'n cynnwys cyfrifo a monitro amseriadau yn erbyn trefnau neu amserlenni ar gyfer eitemau rhaglen neu ar gyfer rhaglenni a chynyrchiadau cyfan, a sicrhau bod trefn y gweithgareddau o dan reolaeth.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynhyrchu radio neu sain fyw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfarwyddo timau stiwdio i gyflawni cynlluniau cynhyrchu, gan roi cyfarwyddiadau eglur, cywir a chryno i aelodau'r tîm cynhyrchu
  2. briffio cyflwynwyr fel eu bod yn deall gofynion eu rôl, gan roi cyfleoedd digonol iddynt ofyn cwestiynau a cheisio eglurhad
  3. monitro'r cynhyrchiad byw mewn digon o fanylder i adnabod unrhyw wyriadau gwirioneddol a/neu rai posibl o'r amserlenni, y safonau a'r cynlluniau
  4. adrodd i'r holl bobl berthnasol yn ddi-oed am unrhyw newidiadau i gynlluniau a gytunwyd yn flaenorol
  5. monitro a gwirio trefnau, a hyd eitemau, yn erbyn amserlenni a chynlluniau'n barhaus
  6. adnabod amrywiaethau i drefnau ac amseriadau sy'n effeithio ar y drefn a hyd bob rhaglen
  7. gwneud addasiadau sy'n angenrheidiol i gynnal uniondeb y cynhyrchiad neu'r rhaglen
  8. adnabod a chymryd camau'n syth i ymdrin ag achosion o dorri'r gyfraith neu godau ymarfer, gan gynnwys rhai gan gyfranwyr
  9. rhoi adborth adeiladol i gyflwynwyr, gan awgrymu newidiadau sy'n gwella ansawdd cynyrchiadau radio neu sain byw
  10. darparu gwybodaeth eglur a chryno i gyfranwyr am eu rolau a'u cyfrifoldebau, gan gynnwys esboniad o'r deilliannau bwriadedig a strwythur pob cynhyrchiad neu raglen radio neu sain
  11. adnabod cryfderau a gwendidau cyfranwyr i ateb anghenion y cynhyrchiad radio neu sain
  12. cynnig cefnogaeth sensitif a chwrtais i gyfranwyr pan fydd gofyn
  13. cyfrifo hyd cynyrchiadau a rhaglenni radio neu sain byw a phob trefn yn gywir
  14. cymharu amseriadau trefn gwirioneddol ag amcangyfrifon drwy gydol y cynhyrchiad neu'r rhaglen radio neu sain
  15. nodi amseriadau ymarfer, a lle bo angen unioni unrhyw anghysonderau sylweddol
  16. ail-gyfrifo amseriadau i ystyried newidiadau i gynnwys y cynhyrchiad neu'r rhaglen a'r drefn
  17. cyfrifo mewnosodiadau a recordiwyd ymlaen llaw i mewn ac allan ar amserau priodol
  18. monitro perfformiad yn erbyn y sgript, gan nodi unhyw anghysonderau rhwng y perfformiad gwirioneddol a'r sgript yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  19. cymryd camau priodol i gynnal uniondeb golygyddol pob cynhyrchiad neu raglen radio neu sain
  20. sicrhau bod y defnydd o unrhyw gerddoriaeth neu ddeunydd hawlfraint yn cael ei recordio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cynnwys a strwythur y cynhyrchiad neu'r rhaglen radio neu sain fyw, gan gynnwys ei diben a'i deilliannau bwriadedig
  2. sut i roi adborth adeiladol i'r tîm ac i unigolion
  3. y drefn, ciwiau, cysylltiadau ac amseriadau ar gyfer cynhyrchiad byw
  4. agweddau perthnasol y gyfraith a safonau darlledu presennol a chodau ymarfer y diwydiant
  5. y materion cyfreithiol neu foesegol perthnasol sy'n gysylltiedig â'r pwnc neu'r driniaeth, a chamau priodol i'w gymryd i osgoi problemau yn eu cylch
  6. nodweddion a hoffterau'r cyflwynwyr a'r cyfranwyr i lywio'r briffio a'r adborth
  7. rôl fwriadedig pob cyfrannwr
  8. dyddiad, amser a lleoliad cyfranogiad pob cyfrannwr
  9. sut i ymdrin ag ymddygiad anfoesol, enllibus neu annerbyniol gan gyfranwyr
  10. pa fewnosodiadau a gaiff eu defnyddio, eu trefn a'u hamseriad
  11. sut i gadw cynyrchiadau neu raglenni radio neu sain byw ar amser, rheoli cynnwys ac ateb amcanion a therfynau amser
  12. pa drwyddedau, cliriadau a chaniatadau sy'n ofynnol a sut i gael hyd iddynt
  13. gofynion adrodd ar gyfer y defnydd o gerddoriaeth a deunyddiau hawlfraint

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC24

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Byw, Cyflwynwr, Darlledu, Amseriadau, Cyfreithiol, Moesegol