Creu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer radio a sain

URN: SKSRAC23
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chreu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer y rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau dosbarthu eraill, a briffio eraill i wneud hynny.

Mae'n ymwneud â dylunio a chreu cynnwys, gan gyfuno testun a sain gydag asedau digidol eraill megis fideo, lluniau neu raffeg i gyflwyno gwasanaeth aml-gyfrwng i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar draws pob llwyfan a dyfais - i ategu, cefnogi a hyrwyddo cynnwys radio a sain.

Mae'n cynnwys adnabod cynulleidfaoedd targed - a'r llwyfannau a'r dyfeisiau y gellid eu defnyddio i ddefnyddio'r cynnwys.

Mae'n ymwneud â phenodi adnoddau, a gweithio o fewn cyllidebau ac amserlenni cytunedig.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynhyrchu cynnwys aml-gyfrwng ar gyfer radio neu sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod y mathau o lwyfan a dyfais sydd ar gael i gyflwyno cynnwys aml-gyfrwng a'u pwysigrwydd cymharol o wybodaeth cynhyrchu radio neu sain berthnasol
  2. adnabod nodweddion, ymddygiad a disgwyliadau cynulleidfaoedd targed o wybodaeth cynhyrchu radio neu sain berthnasol
  3. pennu adnoddau digonol i gynnal y cynnwys aml-gyfrwng drwy gydol ei gyfnod
  4. gweithio o fewn cyllidebau ac amserlenni cytunedig
  5. darparu cynnwys ar gyfer defnydd ar-lein, cyfryngau cymdeithasol a defnydd arall mewn fformat sy'n hawdd ei ddeall sy'n ateb anghenion cynulleidfaoedd targed
  6. defnyddio meddalwedd priodol i baratoi cynnwys radio neu sain at ddefnyddiau ar-lein neu ar lwyfannau cyfryngol eraill
  7. uwchlwytho cynnwys radio neu sain a sicrhau ei fod ar gael i bobl berthnasol
  8. cael hyd i ddeunydd gweledol perthnasol, ei ddethol neu ei gomisiynu i ategu cynnwys ar-lein
  9. paratoi delweddau gweledol a fideo fel eu bod yn barod i'w defnyddio ar-lein
  10. monitro gwaith eraill i sicrhau bod unrhyw gynnwys aml-gyfrwng a gynhyrchir yn ateb gofynion cynhyrchu
  11. sicrhau bod y defnydd o unrhyw gerddoriaeth neu ddeunydd hawlfraint yn cael ei recordio yn unol â gofynion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y dechnoleg berthnasol sydd ar gael, ei defnyddiau ymarferol a'i photensial creadigol
  2. cyd-destun a diben y cynnwys aml-gyfrwng at ddefnydd aml-lwyfan
  3. sut i ganfod a gwerthuso gwahanol gynulleidfaoedd ar gyfer cynnwys aml-gyfrwng, a'u disgwyliadau
  4. sut i ysgrifennu cynnwys at ddefnydd ar-lein
  5. sut i ddefnyddio meddalwedd amgodio sain, ac uwchlwytho cynnwys radio neu sain
  6. y technegau ar gyfer delweddu radio a sain; asedau ychwanegol a allai ffurfio rhan o'r cynnwys gan gynnwys clipiau fideo, lluniau neu raffeg i ategu sain a thestun
  7. sut y ceir hyd i gynnwys; p'un a gaiff cynnwys sy'n bodoli eisoes ei addasu neu ddeunydd newydd ei greu
  8. pa drwyddedau, cliriadau a chaniatadau sy'n ofynnol, a sut i gael hyd iddynt
  9. gofynion adrodd ar gyfer defnyddio cerddoriaeth a deunydd hawlfraint
  10. ategu deunydd gweledol gan gynnwys lluniau, graffeg a fideo

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC23

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Aml-lwyfan, Cynnwys, Fideo, Hawlfraint