Cynhyrchu cynnwys llafar ar gyfer radio a sain

URN: SKSRAC21
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â phenderfynu pa gynnwys llafar sydd ei angen i ateb gofynion cynhyrchu, a briffio eraill er mwyn cael hyd i'r cynnwys, naill ai drwy ei greu fel deunydd gwreiddiol neu drwy gyrchu deunydd sy'n bodoli eisoes.

Mae'n ymwneud â chael hyd i gynnwys llafar a'i asesu am ei addasrwydd a gwneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau sydd eu hangen i ateb gofynion y rhaglen.

Mae'n cynnwys llunio trefn rhaglen neu lunio rhaglen o'r cynnwys llafar hwn.

Mae hefyd yn gofyn dealltwriaeth o botensial rhyngweithiol cynnwys llafar ym maes radio a sain.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n cynhyrchu cynnwys llafar ar gyfer radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod diben bwriadedig cynyrchiadau radio a sain, nodweddion cynulleidfaoedd targed, a hyd ac amserlenni pob cynhyrchiad gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
  2. adnabod math a fformat cynnwys llafar sydd ei angen i ateb gofynion cynhyrchu radio a sain; gan gynnwys cynnwys aml-lwyfan ac aml-gyfrwng rhyngweithiol posibl
  3. dethol opsiynau ar gyfer y cynnwys llafar a'i driniaeth sydd â'r potensial mwyaf i ateb gofynion cynhyrchu
  4. cadarnhau argaeledd deunydd cynnwys llafar sy'n bodoli eisoes sy'n cyd-fynd â'r opsiynau a ddetholwyd
  5. adnabod yr angen i unrhyw gynnwys llafar gwreiddiol sy'n ofynnol ateb gofynion cynhyrchu
  6. esbonio'r gofyniad am gynnwys llafar i gydweithwyr cynhyrchu perthnasol neu gyflenwyr eraill
  7. adnabod cynnwys amgen sy'n cyflawni'r un diben a safonau â'r detholiad gwreiddiol pan nad oes modd cael hyd i'r detholiad gwreiddiol 
  8. gwneud trefniadau digonol i gael hyd i'r holl gliriadau a chaniatadau gofynnol er mwyn diogelu buddiannau cynyrchiadau a'r comisiynwyr
  9. gwirio cynnwys llafar adeg ei gyflwyno a chadarnhau ei fod yn ateb safonau cyfreithiol a safonau darlledu a gofynion cynhyrchu
  10. gwrthod unrhyw ddeunydd sy'n methu ag ateb gofynion neu safonau, ac na ellir eu newid
  11. gwirio bod costau cynnwys llafar o fewn cyllidebau sydd ar gael
  12. gweithredu camau prydlon i unioni unrhyw achosion o redeg dros gyllidebau

  13. cadarnhau bod y defnydd o unrhyw ddeunydd a allai fod yn sensitif neu'n ddadleuol o fewn polisi golygyddol perthnasol, safonau darlledu a chyfyngiadau cyfreithiol

  14. trefnu cynnwys llafar yn ei drefn derfynol, gan sicrhau ei fod yn ateb gofynion cynhyrchu radio a sain
  15. cadarnhau bod y drefn derfynol yn cynnig y potensial mwyaf i ateb gofynion cynhyrchu radio a sain
  16. annog cydweithwyr perthnasol i werthuso'r cynnwys llafar a ddetholwyd, a rhoi adborth arno
  17. sicrhau bod y defnydd o unrhyw gerddoriaeth neu ddeunydd hawlfraint yn cael ei gofnodi'n gywir
  18. sicrhau bod ymlyniad wrth unrhyw gytundebau cytundebol, yn unol â gofynion darlledwyr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben a gofynion pob cynhyrchiad radio a sain, a nodweddion cynulleidfaoedd targed
  2. fformat y cynnwys llafar sy'n ofynnol
  3. y cyfleoedd creadigol a thechnegol ar gyfer creu cynnwys rhyngweithiol
  4. y cyllidebau sydd ar gael ar gyfer cynnwys llafar
  5. ffynonellau cynnwys llafar a sut i'w cyrchu
  6. addasrwydd y cynnwys llafar a gynhyrchir, a sut i gael hyd i gynnwys amgen os nad yw hyn yn ateb anghenion y cynhyrchiad radio a sain
  7. pa drwyddedau, cliriadau a chaniatadau sy'n ofynnol, a sut i gael hyd iddynt
  8. gofynion adrodd ar gyfer defnyddio cerddoriaeth a deunyddiau hawlfraint
  9. polisi golygyddol yr orsaf radio, y darlledwr, y comisiynydd arall neu gynhyrchydd y cynnwys - a sut mae hyn yn gysylltiedig â chynyrchiadau radio a sain
  10. sut i drefnu cynnwys llafar ar gyfer cynyrchiadau radio a sain
  11. unrhyw gytundebau cytundebol sydd yn eu lle yn rhan o ofynion darlledwyr
  12. gofynion perthnasol y gyfraith a rheoleiddio, safonau darlledu presennol a chodau ymarfer y diwydiant - mewn perthynas â'ch cynhyrchiad
  13. sut i werthuso'r cynnwys llafar a phwy i'w gynnwys yn y broses

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC21

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cynnwys, Rheoleiddio, Safonau