Dethol a monitro eraill i greu cynnwys ar gyfer radio a sain

URN: SKSRAC19
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â dethol a monitro pobl eraill i greu cynnwys radio a sain. Mae'n cynnwys cyfarwyddo gwaith timau cynhyrchu a thechnegwyr stiwdio yn ogystal â chomisiynu gwaith gan weithwyr llawrydd a chynhyrchwyr annibynnol.

Mae'n cynnwys cynnig brîff eglur i'r rhai y gofynnir iddynt greu cynnwys, cydweithredu gyda nhw a darparu cyngor pan fydd angen.

Mae'n ymwneud â sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i grewyr cynnwys, a monitro'u cynnydd. Mae'n cynnwys cynghori ar ffyrdd o oresgyn rhwystrau ac ymaddasu i amgylchiadau cyfnewidiol; a hysbysu cydweithwyr cynhyrchu am newidiadau perthnasol.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n dethol ac yn cyfarwyddo eraill i greu cynnwys radio neu sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dethol crewyr cynnwys sy'n cynnig y potensial mwyaf i gynhyrchu'r cynnwys radio neu sain gofynnol, i'r safon sydd ei hangen o fewn y gyllideb sydd ar gael
  2. darparu briffiau i grewyr y cynnwys sy'n adlewyrchu canfyddiadau'r ymchwil a'r driniaeth gytunedig
  3. esbonio unrhyw ofynion cyfreithiol ac ystyriaethau moesegol sy'n berthnasol i'r cynhyrchiad radio neu sain i grewyr y cynnwys
  4. cynnig gwybodaeth a chyngor perthnasol mewn da bryd i'r cynnwys gael ei gyflwyno o fewn terfynau amser cytunedig i grewyr y cynnwys
  5. sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael
  6. hwyluso'r gallu i gymryd risgiau creadigol derbyniol gyda'r nod o wella ansawdd y cynnwys radio a sain
  7. awgrymu opsiynau amgen realistig lle mae anghytuno ynghylch triniaeth greadigol a fformat y cynnwys radio a sain
  8. sicrhau bod monitro'n ddigonol i adnabod yr angen am ymyriad a chefnogaeth 
  9. adnabod a chytuno addasiadau addas pan fydd ymchwil yn datgelu datblygiadau sylweddol newydd sy'n effeithio ar syniadau gwreiddiol
  10. cadarnhau unrhyw newidiadau i'r dull gweithredu neu ddatblygiad newydd gyda chydweithwyr cynhyrchu perthnasol
  11. darparu adborth adeiladol am waith sydd ar y gweill ar adegau priodol
  12. egluro a datrys anghytundebau am yr angen am addasiadau neu welliannau er mwyn cynhyrchu deunydd radio neu sain addas o fewn terfynau amser cynhyrchu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y meini prawf ar gyfer dethol pobl i greu cynnwys radio a sain benodol
  2. y trefniadau cytundebol perthnasol i weithwyr llawrydd neu gynhyrchwyr annibynnol - gan gynnwys materion hawlfraint a hawliau eiddo deallusol
  3. yr hyn sy'n ofynnol gan grewyr cynnwys, gan ystyried y ffiniau cynhyrchu
  4. pa wybodaeth a chyngor i'w cynnig i grewyr cynnwys er mwyn sicrhau cwblhau'r cynnwys yn unol â gofynion cynhyrchu
  5. y dulliau o fonitro datblygiad cynnwys er mwyn sicrhau ei fod yn ateb y brîff a sut i sicrhau bod yr angen am unrhyw welliannau neu ymyriad yn cael ei adnabod yn brydlon
  6. sut i ddarparu adborth adeiladol
  7. sut i gydbwyso risg greadigol gyda chyfyngiadau amser a chyllidebol
  8. y materion cyfreithiol neu foesegol perthnasol sy'n gysylltiedig â'r pwnc neu'r driniaeth a sut i gymryd camau priodol i osgoi problemau yn eu cylch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC19

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cynnwys, Dethol, Adborth, Adnoddau, Cyllidebau