Dethol a briffio cyfranwyr radio a sain

URN: SKSRAC18
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â dethol a briffio unrhyw un y mae gofyn iddo/iddi gyfrannu at gynhyrchiad radio a sain - gan gynnwys aelodau'r cyhoedd, gwesteion enwog, cyfranwyr arbenigol, gwesteion, actorion neu gerddorion.

Mae'n ymwneud ag asesu eu gwybodaeth, eu cymhwysedd, eu profiad a'u haddasrwydd i'r rhaglen neu'r cynhyrchiad dan sylw.

Mae'n cynnwys rhoi briffiau priodol i bob cyfrannwr am yr hyn a ddisgwylir ganddynt, ac am y cyfyngiadau cyfreithiol a moesegol sy'n berthnasol i bob rhaglen neu gynhyrchiad.

Mae'n ymwneud â sicrhau bod cyfranwyr yn ymwybodol o drefniadau iechyd a diogelwch a diogeledd lleol ac unrhyw arferion perthnasol eraill. 

Mae'n cynnwys trefnu contractau, ymdrin â ffurflenni caniatâd a sicrhau bod cyfranwyr yn cael eu tywys o'r stiwdio neu'r lleoliad pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau. 

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n dethol ac yn briffio cyfranwyr radio neu sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy i asesu nifer a natur y cyfranwyr sy'n ofynnol ar gyfer cynhyrchiad radio neu sain
  2. cynhyrchu manylebau cywir o'r mathau o gyfranwyr sy'n ofynnol ar gyfer cynhyrchiad radio neu sain
  3. adnabod a chyrchu ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am gyfranwyr posibl
  4. adnabod cyfranwyr posibl y mae eu nodweddion yn cyd-fynd â rhai'r fanyleb a chadarnhau eich penderfyniad gyda chydweithwyr
  5. rhoi gwybodaeth eglur, gywir a llawn i gyfranwyr am natur y rôl ac unrhyw ofynion arbennig
  6. asesu cyfranwyr posibl yn erbyn meini prawf perthnasol, gan sefydlu eu profiad personol neu broffesiynol perthnasol, eu cymhwysedd, eu cymwysterau ac os yn briodol, unrhyw drwydded ofynnol i ymarfer
  7. dethol cyfranwyr sy'n cynnig y potensial mwyaf i ateb gofynion cynhyrchu radio a sain, gan gytuno ar opsiynau amgen pan fydd angen 
  8. briffio cyfranwyr gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt am y cyfraniadau a ofynnir ganddynt, eu rôl yn y cynhyrchiad radio neu sain a rolau eraill sy'n cymryd rhan
  9. cynnig cefnogaeth sensitif a chwrtais i gyfranwyr pan fydd angen
  10. hysbysu cyfranwyr o unrhyw arferion perthnasol o ran y stiwdio neu'r lleoliad pan fyddant yn cyrraedd, gan gynnwys trefniadau iechyd a diogelwch lleol
  11. cyfranwyr stiwdio
  12. cwblhau ffurflenni caniatâd gyda gwybodaeth gywir ar adegau priodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ffynonellau cyfranwyr perthnasol, a sut i'w cyrchu
  2. goblygiadau cyfreithiol, cytundebol, moesegol perthnasol, a goblygiadau iechyd a diogelwch yn ymwneud â defnyddio cyfranwyr
  3. pwysigrwydd adnabod y goblygiadau cytundebol a rhai cysylltiedig wrth ddefnyddio cyfranwyr
  4. pam mae'n bwysig cadw cofnodion a nodiadau cynhwysfawr, cywir
  5. diben a strwythur pob cynhyrchiad radio neu sain, pob rhaglen neu eitem a'r hyn sy'n ofynnol gan gyfranwyr
  6. y meini prawf ar gyfer dethol cyfranwyr ar gyfer pob cynhyrchiad radio neu sain a sut rydyn ni'n sefydlu a yw'r meini prawf hyn wedi'u bodloni
  7. graddau gwybodaeth a phrofiad cyfranwyr unigol o gymryd rhan mewn cynyrchiadau radio a sain, ac o arferion cynhyrchu
  8. y gwahanol faterion dan sylw pan fydd cyfranwyr mewn lleoliad anghysbell yn hytrach nag mewn stiwdio, wyneb yn wyneb gyda chyflwynydd neu gyfranwyr eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC18

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cyfranwyr, Cyfreithiol, Cyflwynwr