Dethol a chyfarwyddo cerddorion perfformio ar gyfer radio a sain

URN: SKSRAC17
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod a dethol cerddorion sydd â'r potensial i ateb gofynion cynhyrchiad radio a sain, a chyfarwyddo'u perfformiad.

Mae'n cynnwys trefnu a chynnal clyweliadau, dethol perfformwyr, a goruchwylio ymarferion a pherfformiadau wedi'u recordio a rhai byw.

Mae'n ymwneud â deall y cyfyngiadau cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â chytundebu â cherddorion, a sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei darparu lle bo angen.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n dethol ac yn cyfarwyddo cerddorion sy'n perfformio ar gyfer radio a sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r mathau o gerddorion a'r sgiliau sy'n ofynnol ganddynt gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
  2. sefydlu meini prawf dethol priodol ar gyfer y perfformiad drwy ymgynghori â chydweithwyr
  3. adnabod a chyrchu ffynonellau gwybodaeth perthnasol a dibynadwy am gerddorion
  4. gwahodd cerddorion dethol i fynychu clyweliad a'u hysbysu o natur eu cyfraniad yn ogystal ag unrhyw ofynion arbennig
  5. adnabod cymhwysedd cerddorion posibl, eu profiad, eu cymwysterau ac unrhyw drwydded sy'n ofynnol i ymarfer
  6. adnabod argaeledd cerddorion posibl a chostau yn erbyn gofynion
  7. dethol cerddorion sydd ar gael o fewn ffiniau amser cynhyrchu, ac sy'n cynnig y potensial mwyaf i ateb gofynion pob cynhyrchiad radio neu sain
  8. darparu gwybodaeth gywir i gerddorion dethol am eu cyfraniad a'u cyfrifoldebau disgwyliedig, gan gynnwys dyddiad, amser a lleoliad eu cyfranogiad 
  9. ceisio datrysiadau ymarferol a hysbysu aelodau perthnasol o'r tîm cynhyrchu o unrhyw newidiadau pan fydd cerddorion yn anghytuno gyda natur ac amseriad eu mewnbwn
  10. rhoi cyfarwyddyd eglur a chywir i gerddorion am ddeilliannau bwriadedig a strwythur pob cynhyrchiad radio neu sain
  11. cynnig adborth adeiladol a chyd-drafod unrhyw newidiadau gofynnol i agweddau ar y perfformiad
  12. adnabod y gofynion technegol ar gyfer setiau byw, gan gysylltu ag aelodau priodol o'r tîm technegol i gadarnhau'r gofynion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod a dethol cerddorion sydd â'r potensial i ateb gwahanol ofynion cynhyrchu ar gyfer radio a sain
  2. sut i gyrchu ffynonellau gwybodaeth am gerddorion
  3. pryd a sut i gysylltu â cherddorion a'u hasiantau
  4. trefniadau a gweithdrefnau cytundebol, a'r cyllidebau sydd ar gael
  5. gofynion a rhwymedigaethau cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â chytundebu â cherddorion
  6. genres cerddoriaeth a sut i ddarllen a dehongli sgôr cerddorol
  7. pwy mae'n rhaid ei hysbysu am unrhyw newidiadau i natur ac amseru cytunedig cyfraniadau cerddorion i'r cynhyrchiad radio neu sain
  8. sut i farnu perfformiad cerddorol ac adnabod cryfderau a gwendidau cerddorion
  9. sut i gynnig beirniadaeth wybodus am berfformiadau cerddorol
  10. sut i ymdrin yn effeithiol â cherddorion o wahanol anian ac ysbryd
  11. natur a graddau'r gefnogaeth a allai fod yn briodol i wahanol bobl, a sut gellir cynnig hyn orau
  12. sut i adnabod, cyd-drafod a datrys achosion o wrthdaro creadigol
  13. agweddau perthnasol Rheoliadau Undeb y Cerddorion a sut i weithio oddi mewn iddynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC17

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Cerddorion, Perfformwyr, Cyfeiriad, Sgiliau, Rheoli