Golygu a chymysgu cynnwys sain

URN: SKSRAC15
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn cynnwys cyflawni gwaith golygu sain ddigidol - deall y cyd-destun golygyddol ac artistig a'r ystyriaethau technegol. Mae'n gofyn dealltwriaeth o sut i strwythuro'r cynnyrch terfynol, dethol y pwyntiau golygu priodol, a chyflawni golygiadau sy'n foddhaol yn dechnegol ac yn artistig.

Mae'n ymwneud â chymysgu sain er mwyn sicrhau bod gan y ffynonellau sain yr ansawdd, y persbectif a'r ddeinameg ofynnol a bod trawsgyweiriadau'n gywir yn dechnegol.

Mae'n cynnwys creu cymysgedd sain sy'n cyflawni'r effaith artistig ofynnol, a chynnig datrysiadau ymarferol os bydd problemau.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n golygu ac yn cymysgu cynnwys sain ar gyfer y radio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dethol clipiau a strwythuro sain er mwyn adrodd y stori mewn ffordd eglur, gywir a chytbwys
P2 sicrhau bod y clipiau a'r strwythur naill ai’n adlewyrchu cynnwys allweddol cyfweliad heb newid ei ystyr neu'n cynnal uniondeb perfformiad cerddorol gwreiddiol 
P3 dethol pwyntiau golygu sy'n creu trawsgyweiriad llyfn o ran rhythm a chyflymder, ac sy'n cyflawni'r effaith olygyddol ac artistig ofynnol
P4 defnyddio'r meddalwedd neu’r technegau golygu sain fwyaf priodol i ateb gofynion rhaglen
P5 defnyddio ffeiliau sain digidol i gyflawni gweithrediadau golygu sylfaenol ar sail llinell amser sy'n ateb gofynion y brîff
P6 defnyddio effeithiau sain ac effeithiau acwstig pan fydd gofyn i ateb gofynion rhaglen
P7 cadarnhau bod ffynonellau sain i'w cymysgu mewn acwstig addas gyda chwmpas deinamig priodol
P8 sicrhau bod lleoliad a chyfuniad ffynonellau sain yn cyflawni'r effaith artistig ofynnol wrth greu cymysgedd sain
P9 cydbwyso cerddoriaeth, llais, digwyddiadau go iawn ac effeithiau i ateb gofynion y gynulleidfa darged
P10 cadarnhau bod trawsgyweiriadau rhwng ffynonellau sain yn gywir yn dechnegol
P11 cynnig datrysiadau ymarferol pan fo problemau gyda'r cymysgedd sain
P12 labelu deunyddiau sain yn ôl protocolau priodol
P13 sicrhau bod dogfennaeth yn gywir, yn ddarllenadwy, yn gyfoes, yn hygyrch yn hawdd ac mewn fformatau cymeradwy


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 y bwriad golygyddol a'r effaith artistig sy'n ofynnol gan y deunydd terfynol wedi'i olygu
K2 sut caiff y deunydd wedi'i olygu ei ddefnyddio a'i gynulleidfa darged
K3 y gwahaniaethau allweddol rhwng sain analog a digidol
K4 damcaniaethau sylfaenol golygu sain mewn ffeiliau, ar sail torri a gludo, a golygu sain amldrac yn ôl llinell amser
K5 y gwahaniaethau allweddol rhwng golygu sain ddinistriol ac anninistriol
K6 sut gellir troi sain yn gynrychiolaeth donffurf weledol ar sail osgled
K7 ffurf gerddorol a dull enwi sylfaenol
K8 sut i asesu deunydd wedi'i recordio a gwneud golygiad bras neu olygiad "papur" gan ddethol y cynnwys allweddol i'w gynnwys yn y darn gorffenedig
K9 sut i bennu meini prawf dethol pwyntiau golygu ar gyfer y golygiad terfynol, gan bwyso a mesur ystyriaethau golygyddol ac artistig - gan gynnwys strwythur y stori a darparu gwybodaeth; rhythm, cyflymder, llif a sain gefndir
K10 p'un a yw'r deunydd yn ddeunydd mono neu stereo a'r goblygiadau ar gyfer y golygiad
K11 yr hyn y bwriedir i'r cymysgedd ei gyfleu, yr amserlenni ar gyfer y golygiad a, lle bo angen, y gyllideb 
K12 y gofynion dogfennu a'r protocolau labelu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC15

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Sain, Analog, Digidol, Golygu