Rheoli deunydd sain gan ddefnyddio gwahanol gymwysiadau, llwyfannau a chyfryngau

URN: SKSRAC12
Sectorau Busnes (Suites): Creu Cynnwys Radio a Sain
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â thrin deunydd sain yn effeithlon wrth recordio ffeiliau a fformatau sain digidol gan ddefnyddio gwahanol gymwysiadau cyfrifiadur, llwyfannau a chyfryngau. Mae'n ymwneud â deall pa fformatau ffeil i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd penodol, a gallu gwneud dewisiadau deallus mewn perthynas â dulliau trosglwyddo, cywasgu, enwi ffeiliau a'u storio.

Mae'n cynnwys deall sut caiff ffeiliau sain digidol eu trin a'u harddangos gan fannau gwaith, a goblygiadau cyflawni swyddogaethau penodol o ran uniondeb sain.

Mae'n ymwneud â gweithredu datrysiadau eraill i drosglwyddo ffeiliau a'u trosi os bydd problemau technegol yn digwydd, neu os bydd gofynion yn newid.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bob un sy'n rheoli deunydd sain gan ddefnyddio gwahanol gymwysiadau, llwyfannau a chyfryngau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dilyn gweithdrefnau a phrosesau sefydliadol i reoli deunydd sain
P2 mewnforio deunydd sain i fannau gwaith sain digidol gan ddefnyddio'r dull mwyaf priodol
P3 trosglwyddo deunydd sain rhwng mannau gwaith sain a gwahanol gymwysiadau gan ddefnyddio'r dull mwyaf priodol ar gyfer y llwyfan cyfryngol
P4 cyd-weddu rhyngwynebau rhwng y ffynhonnell a'r pwynt terfynol o ran lefel, llesteiredd, polaredd a fformat, a chadarnhau bod unrhyw gydamseredd gofynnol ynddynt
P5 cadarnhau bod deunydd sain yn fformat dymunol, ar y lefel ofynnol, a bod ganddo'r ystod ddeinamig sy'n briodol i'r cyfrwng neu'r dechnoleg recordio
P6 allforio ffeiliau sain i gyfryngau priodol gan ddefnyddio'r dull mwyaf priodol
P7 dod o hyd i ddatrysiadau amgen ar gyfer mewnforio ac allforio sain ddigidol, lle bo angen
P8 arbed y ffeiliau sain digidol mewn fformatau sy'n briodol i'r sefyllfa, ac mewn lleoliadau diogel, gan ddilyn arfer sefydliadol
P9 sicrhau bod uniondeb y deunydd sain digidol yn cael ei gynnal drwy gydol ei ddefnydd o fewn man gwaith sain ddigidol
P10 cwblhau recordio o fewn terfynau amser penodedig
P11 unioni diffygion i'r sain, methiannau mewn systemau, ac achosion mecanyddol o dorri i lawr sydd o fewn eich cyfrifoldeb a'ch maes arbenigedd
P12 ceisio cymorth gan bobl briodol pan fydd diffygion ac achosion o dorri i lawr y tu hwnt i'ch arbenigedd eich hun


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 egwyddorion sylfaenol sain ac acwsteg
K2 y gwahaniaethau allweddol rhwng deunydd sain analog a digidol
K3 sut i reoli deunydd sain digidol yn gywir
K4 yr amrywiol brotocolau a dulliau a ddefnyddir i drosglwyddo deunydd sain digidol
K5 yr amrywiol brotocolau a dulliau a ddefnyddir i storio deunydd sain digidol ar fannau gwaith
K6 prif nodweddion meicroffonau, atodion a chymwysiadau
K7 y gwahaniaeth rhwng sain mono a stereo a goblygiadau hyn
K8 nodweddion gweithredu recordwyr digidol cludadwy
K9 pa fformatau ffeiliau sydd heb eu cywasgu neu wedi'u cywasgu, y gwahanol fathau o gywasgu, a goblygiadau hyn o ran copïo a defnydd darlledu
K10 ystyr dwysedd didau ffeil sain, cyfradd samplo a chyfradd didau, sut maent wedi'u cysylltu a goblygiadau ar gyfer defnyddio'r ffeil mewn sefyllfaoedd darlledu
K11 sut bydd nodweddion sain ffeil yn effeithio ar ei maint pan gaiff ei storio ar fan gwaith sain digidol
K12 pa fformatau ffeiliau sydd fwyaf priodol i lwyfannau a chymwysiadau penodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSRC12

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Radio, Analog, Digidol, Sain, Ffeiliau, Deunydd