Gweithio mewn ffordd broffesiynol ym maes radio a sain
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn adnabod y sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol i gyflawni eich gwaith radio a sain mewn ffordd broffesiynol, a rheoli eich cyfraniad fel ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar y rhai rydych yn gweithio â nhw. Mae'n ymwneud â meddu ar frwdfrydedd am radio a sain, dealltwriaeth eang o'r cyfrwng a'i bosibiliadau, a'i le mewn byd cyfryngol cydgyfeiriol.
Mae'n cynnwys gallu i feddwl yn greadigol a pharodrwydd i weithio fel rhan o dîm. Mae'n ymwneud â chadw eich sgiliau a'ch gwybodaeth yn gyfoes ac ymaddasu yn ôl technolegau ac arferion gwaith cyfnewidiol er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd maen nhw'n eu cyflwyno.
Mae'n mynnu lefel dda o gymhwysedd technegol a sgiliau TG cyffredinol, a bod yn gyfarwydd â safonau, cyfarpar a meddalwedd presennol y diwydiant. Mae hefyd yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o'r amgylchedd cyfreithiol a rheoleiddio perthnasol mae'r diwydiant radio a sain yn gweithredu ynddo. Bydd angen hefyd i chi ddeall y diwydiant radio a sain ehangach, ei is-sectorau, modelau busnes, ffynonellau cyllid, rhanddeiliaid allweddol a rolau swyddi ynghyd ag effaith technolegau cyfnewidiol a chydgyfeiriant y cyfryngau, fel y defnydd o gynnwys aml-gyfrwng ar gyfer radio a sain.
Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiannau radio neu sain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys radio, sain a chynnwys aml-gyfrwng cysylltiedig i bobl berthnasol
- dethol y llwyfan cyflwyno mwyaf addas i'r cynnwys sy'n cael ei greu
- adrodd stori ar draws pob llwyfan gan ddefnyddio cynnwys sain a chynnwys aml-gyfrwng cysylltiedig
- defnyddio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy i gadw ar y blaen â datblygiadau'r diwydiant a'r farchnad, technolegau newydd, syniadau a thechnegau creadigol, ac arfer gorau
- gweithio gyda chydweithwyr mewn ffordd gydweithredol
- cynnal trafodaethau a chyd-drafodaethau mewn ffordd broffesiynol sy'n hyrwyddo cydweithio
- cynhyrchu gwaith i'r safon ofynnol yn unol ag anghenion creadigol a chyfyngiadau cyllidebol
- dyfeisio a gweithredu cynlluniau wrth gefn sy'n cyflwyno'ch gwaith ar amser
- ymateb i adborth am eich gwaith mewn modd adeiladol, gan addasu eich gwaith neu'ch ymddygiad fel sy'n ofynnol
- rheoli eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun yn barhaus
- defnyddio cyfarpar a meddalwedd o safon y diwydiant i ateb gofynion
- defnyddio'r confensiynau priodol i enwi a storio data digidol fel y gallwch chi ac eraill ei adnabod a'i gyrchu
- cydymffurfio â'r cyfreithiau a'r rheoliadau perthnasol sy'n rheoli'r diwydiant radio a sain a dilyn y codau ymddygiad yn eich sefydliad eich hun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- strwythur y diwydiant radio a sain, ei is-sectorau a modelau busnes a ffynonellau cyllid
- y rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant a'u rolau
- effaith technolegau digidol a sut mae cydgyfeiriant y cyfryngau yn effeithio ar y diwydiant radio a sain
- y gwahanol lwyfannau cyflwyno ar gyfer cynnwys sain - eu manteision a'u hanfanteision
- goblygiadau dosbarthu cynnwys sain aml-lwyfan
- yr angen am aml-sgilio ac ystod y swyddogaethau a rolau mewn amgylchedd radio a sain aml-sgiliog
- yr hyn sy'n gwneud cyfrwng radio a sain yn neilltuol a ble mae'n eistedd mewn tirwedd gyfryngol wedi'i chydgyfeirio
- y gwahanol genres, fformatau rhaglenni, arddulliau gorsafoedd a ddefnyddir ym maes radio a sain cerddoriaeth neu lafar
- sut gellir defnyddio cynnwys aml-gyfrwng a delweddu i hyrwyddo cynnwys radio a sain a chynyddu ymgysylltiad y gynulleidfa
- sut mae eich rôl yn gysylltiedig â rolau eraill a sut i weithio mewn ffordd gydweithredol
- sut i gyflwyno syniadau i gydweithwyr a chael eu cefnogaeth
- sut i wneud y defnydd mwyaf effeithlon o'r adnoddau sydd ar gael
- sut gallai fod angen i eraill ddefnyddio'r gwaith rydych chi'n ei gynhyrchu
- y problemau cyffredin a allai godi yn eich gwaith a sut i ddefnyddio atebion wrth gefn i leihau eu heffaith
- sut i annog pobl i roi adborth am eich perfformiad personol a sut i ymateb yn gadarnhaol i hyn
- ffynonellau gwybodaeth berthnasol i sicrhau bod eich sgiliau a'ch gwybodaeth yn gyfoes
- sut i ddefnyddio cyfarpar neu feddalwedd perthnasol yn effeithiol ac yn effeithlon
- nodau, gwerthoedd, cyfeiriad a blaenoriaethau eich sefydliad
- y cyfreithiau a'r rheoliadau perthnasol, safonau'r diwydiant, canllawiau ac arfer gorau sy'n berthnasol i radio a sain