Llogi a dychwelyd gwisgoedd

URN: SKSQ6
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag eich gallu i ddewis a llogi gwisgoedd gan gyflenwr neu ystafell stoc ar gyfer cynhyrchiad ynghyd â dychwelyd y gwisgoedd ar ôl y cynhyrchiad.

Gallai hyn ymwneud â benthyg a dychwelyd gwisgoedd, archwilio a chofnodi unrhyw ddifrod, mynd i'r afael ag eitemau coll, storio gwisgoedd yn briodol a rheoli'r cyllidebau a'r goblygiadau cost.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd neu wardrob, rheolwyr gwisgoedd a chynorthwywyr gwisgoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dehongli dadansoddiad y gwisgoedd a gofynion y cynhyrchiad
  2. cadarnhau cyfyngiadau'r gyllideb a rheoli'r gyllideb yn unol â hynny
  3. cydweithio gyda'r cyflenwr i adnabod a dewis y gwisgoedd gofynnol
  4. adnabod y dechnoleg gaiff ei ddefnyddio yn y cynhyrchiad a allai effeithio ar y gwisgoedd
  5. cadarnhau'r raddfa amser a'r amserlen yn gysylltiedig gyda gofynion y gwisgoedd
  6. adolygu a chytuno ar amodau a thelerau'r cyflenwyr
  7. cadarnhau'r dewis o wisgoedd a threfnu'r taliadau gofynnol
  8. cydymffurfio â'r broses llogi gan gadarnhau'r niferoedd, y meintiau a'r manylion danfon a dychwelyd
  9. cofnodi pan fyddwch yn derbyn y gwisgoedd a gwirio eu bod yn bodloni'r gofynion y cytunwyd arnyn nhw  
  10. archwilio'r gwisgoedd a chofnodi unrhyw eitemau coll, wedi'u difrodi neu sy'n fudr
  11. sicrhau caiff y gwaith trwsio, gwelliannau, glanhau neu addasu y cytunwyd arnyn nhw eu cyflawni
  12. goruchwylio defnydd y gwisgoedd a rhoi gwybod i'r staff perthnasol am ddirwyon difrod arfaethedig a'r goblygiadau ariannol eraill
  13. storio gwisgoedd mewn amodau priodol  
  14. sicrhau caiff gwisgoedd eu labelu, eu pacio a'u bod mewn cyflwr digonol pan gân nhw eu dychwelyd
  15. dychwelyd eitemau ymhen y raddfa amser gofynnol neu drin a thrafod a chytuno ar raddfeydd amser wedi'u hadolygu
  16. adolygu a mynd i'r afael gydag unrhyw dor-amodau a thelerau arfaethedig  
  17. cyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  18. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. amodau a thelerau'r cyflenwr
  2. cost llogi'r gwisgoedd gan gynnwys costau difrod / trwsio, dirwyon a'r goblygiadau ariannol eraill
  3. rheoli'r gyllideb
  4. gofynion, graddfeydd amser a dadansoddiadau gwisgoedd y cynhyrchiad  
  5. y proses a'r gofynion derbyn / dychwelyd y gwisgoedd
  6. pacio, labelu a dychwelyd gwisgoedd
  7. cofnodion a dogfennau
  8. cytuno ar weithrediadau pan na chaiff y gwisgoedd eu danfon / dychwelyd neu os byddan nhw wedi'u difrodi
  9. tasgau gwnïo ac addasu sylfaenol
  10. prosesau golchi / glanhau'r gwisgoedd  
  11. amodau storio priodol
  12. protocol cyfathrebu gyda chleientiaid a chyd-weithwyr
  13. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ16

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; dychweliadau; proses; trefnu; monitro; archwilio; adrodd; difrod; amod; storio; cost; goblygiadau