Caffael yr adnoddau angenrheidiol i gynhyrchu dyluniad y gwisgoedd

URN: SKSQ5
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gynorthwyo gyda chaffael a sicrhau ar adnoddau i fodloni'r gofynion ynghlwm â dyluniad y gwisgoedd gan gadw at gyllideb benodol.

Gallai hyn ymwneud ag ymchwilio a dewis gwasanaethau, gweithio gan gadw at gyfyngiadau amser, cyfathrebu gyda chyflenwyr, rheoli pobl ac adnoddau, rheoli cyllidebau a chyfrifon a llunio dogfennau a chadw cofnodion.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd a chynorthwywyr wardrob.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​ymchwilio a dewis cyflenwyr sy'n gallu bodloni'r gofynion o ran creadigrwydd, y gyllideb a logisteg sy'n berthnasol i gynhyrchu dyluniad y gwisgoedd
  2. cadarnhau unrhyw anghenion penodol, o ran yr adnoddau gofynnol, gyda'r cyflenwyr
  3. asesu anghenion corfforol neu ddewisiadau personol o ran cyfforddusrwydd y perfformwyr a gofalu eich bod yn diwallu'r rhain lle'n bosib
  4. adnabod a chynllunio'r broses ymgysylltu a chyflogi staff gwisgoedd
  5. ystyried y gofynion creadigol a thechnegol ynghlwm â chynhyrchu dyluniad y gwisgoedd
  6. dewis cyflenwyr sy'n meddu ar y sgiliau arbenigol a thechnegol angenrheidiol i gyflawni'r cysyniad dylunio gan gadw at gyllideb a therfynau amser y cynhyrchiad
  7. trin a thrafod a chytuno ar amodau a thelerau gyda'r cyflenwyr
  8. cynnal perthnasau gyda chyflenwyr sy'n sicrhau'r deilliannau mwyaf effeithiol
  9. dewis adnoddau priodol a chadarnhau bod y nifer gofynnol o adnoddau, a'r adnoddau o safon, ar gael
  10. cytuno ar ddyddiadau cyflawni sy'n cyd-fynd gydag amserlen y cynhyrchiad
  11. dadansoddi a datrys problemau'n ymwneud ag adnoddau'r gwisgoedd, o ran ydyn nhw ar gael, y nifer gofynnol a'r ansawdd gofynnol
  12. cadw cofnod o'r archebion a'r gwariant cyffredinol
  13. monitro cydymffurfiad gyda'r gyllideb y cytunwyd arni'n rheolaidd
  14. cadw at y gyllideb, rhoi gwybod i'r person / pobl berthnasol ynghylch unrhyw gynnydd i'r gyllideb ac argymell datrysiadau addas
  15. cydymffurfio gyda rheolau a rheoliadau cyfrinachedd y cynhyrchiad 
  16. cyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu a'r holl adrannau/unigolion perthnasol 
  17. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​cyflenwyr arfaethedig a allai gyflenwi adnoddau yn unol â gofynion y cynhyrchiad  
  2. gofynion creadigol, cyllidebol a logisteg y cyfarwyddyd dylunio  
  3. cyfyngiadau amser o fewn amserlen y cynhyrchiad  
  4. dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'r perfformwyr
  5. y nifer a’r mathau o adnoddau sy’n ofynnoll / sydd ar gael
  6. gofynion creadigol a thechnegol y dyluniad gwisgoedd
  7. prosesau a'r graddfeydd amser ar gyfer gwneud y gwisgoedd
  8. sut i drin a thrafod gyda chyflenwyr a chytuno ar amodau a thelerau  
  9. cadw cofnodion manwl gywir o'r adnoddau sydd wedi'u harchebu a'r gwariant
  10. cyfyngiadau'r gyllideb a sgiliau trin a thrafod

  11. rheolau a rheoliadau cyfrinachedd y cynhyrchiad

  12. yr holl adrannau / personél ynghlwm â'r cynhyrchiad a'r protocol cyfathrebu  
  13. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ6

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; caffael; adnoddau; dylunio; cynorthwyo; y gyllideb; amser; cyflenwyr; cyfrif; rheoli; cyfyngiadau; llunio dogfennau; cadw cofnodion