Cytuno ar ddyluniad y gwisgoedd a chynllunio cynhyrchiad y gwisgoedd

URN: SKSQ4
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno, cytuno ar a chadarnhau dyluniad terfynol y gwisgoedd ynghyd â chynllunio cynhyrchiad y gwisgoedd y cytunwyd arnyn nhw gan gadw at y gyllideb.

Gallai hyn ymwneud â chyflwyno'r dyluniad gwisgoedd arfaethedig i'r tîm cynhyrchu, trin a thrafod a chytuno ar y dyluniad a'r gyllideb, cynllunio caffael a chynhyrchu dyluniad y gwisgoedd, adnabod cyflenwyr / gwneuthurwyr, cyfathrebu gyda chyd-weithwyr ar y cynhyrchiad i ddatrys problemau a chwblhau dyluniad y gwisgoedd gan gydymffurfio gyda'r amserlen.    

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i ddylunwyr gwisgoedd, goruchwylwyr gwisgoedd a rheolwyr gwisgoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dehongli sgript y cynhyrchiad ac adnabod graddfa, cymeriadau ac arddull gweledol cyffredinol y cynhyrchiad
  2. asesu'r gofynion creadigol a thechnegol angenrheidiol er mwyn llunio dyluniad y gwisgoedd
  3. dylunio gwisgoedd a fyddai'n bodloni gofynion y cynhyrchiad
  4. trin a thrafod, cytuno ar a chadarnhau dyluniad, cyllideb ac amserlen y gwisgoedd
  5. cynllunio'r broses i lunio dyluniad y gwisgoedd
  6. adnabod a chadarnhau'r nifer o wisgoedd lluosog  
  7. dynodi'r nifer a'r mathau o ddeunyddiau crai gofynnol i gynhyrchu'r dyluniad
  8. cadarnhau'r sgiliau a'r adnoddau gofynnol i gynhyrchu'r dyluniad
  9. adnabod lleoliad y cyfleusterau gofynnol a chanfod ydyn nhw ar gael
  10. goruchwylio a monitro cynnydd y gwaith cynhyrchu'r dyluniad gan ddwyn i ystyriaeth yr amserlen a'r gyllideb
  11. trin a thrafod a chytuno ar newidiadau i'r amserlen gydag adrannau perthnasol eraill
  12. cydymffurfio gyda rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
  13. adnabod a chadarnhau gofynion y gwisgoedd styntiau
  14. cyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu a'r holl unigolion ac adrannau perthnasol
  15. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​stori a chynnwys y sgript
  2. arddull gweledol, math a graddfa'r cynhyrchiad 
  3. amserlenni'r cynhyrchiad a'r cyfyngiadau amser cysylltiedig
  4. effaith gweithgareddau'r stori / cynhyrchiad ar y gwisgoedd  
  5. cyfyngiadau cyllidebol
  6. gofynion a chyfyngiadau'r dyluniad
  7. gofynion dilyniant
  8. sut i gynllunio amserlenni dylunio hirdymor yn ogystal ag amserlenni o ddydd i ddydd
  9. gofynion a gweithrediad gwisgoedd styntiau
  10. yr adnoddau gofynnol ar gyfer gwneud y gwisgoedd
  11. gofynion gwisgoedd lluosog
  12. prosesau gwneud y gwisgoedd
  13. rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
  14. amserlen a gofynion adrannau eraill sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad
  15. y person / pobl berthnasol y dylech chi gytuno ar newidiadau i'r amserlen dylunio gyda nhw
  16.  cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
  17. yr holl adrannau / personél ynghlwm â'r cynhyrchiad a'r protocol cyfathrebu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ5

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Celfyddydau Perfformio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; cynllun; gweithredu; dylunio; amserlen; dilyniant; cynhyrchiad; cyfathrebu