Ffitio Gwisgoedd
URN: SKSQ22
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i asesu gofynion perfformwyr unigol o ran gwisg a ffit a mynd ati i ffitio gwisgoedd.
Gallai hyn ymwneud â pharatoi gwaith addasu ar gyfer gwisgoedd, cymryd mesuriadau cywir, bodloni'r amserlen a'r gyllideb, ymddwyn yn arwahanol ac yn ystyriol o anghenion y perfformwyr, cydymffurfio gydag arferion yr ystafell ffitio a chynnig cyfarwyddiadau eglur i'r gweithwyr eraill sydd ynghlwm.
Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn, cynorthwywyr wardrob a gwneuthurwyr gwisgoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a pharatoi gwisgoedd ar gyfer y broses ffitio
- trefnu amseroedd ffitio cyfleus yn unol ag amserlen y cynhyrchiad
- cyflawni'r gwaith ffitio yn unol ag arferion a gweithdrefnau'r ystafell ffitio
- defnyddio'r drych i asesu'r ffit/edrychiad
- cyfathrebu gyda'r perfformwyr mewn dull cwrtais, ystyriol a phroffesiynol
- asesu'r gofynion a chydnabod diffygion yng ngwneuthuriad, ffit a gorffeniad y dillad
- dwyn i ystyriaeth rhaffau gwisgoedd ac effeithiau arbennig pan fyddwch yn ffitio'r gwisgoedd
- cymryd a chofnodi mesuriadau cywir a gwneud cyfrifiadau fel sy'n briodol
- asesu ac amcangyfrif gofynion unrhyw ddefnyddiau a deunyddiau ychwanegol
- paratoi gwisgoedd i'w haddasu neu eu hail wneud
- cadarnhau a thrafod yr addasiadau gofynnol a'r raddfa amser i'r person / pobl sy'n cyflawni'r gwaith addasu
- cymharu gwisgoedd wedi'u haddasu gyda'r gofynion addasu y cytunwyd arnyn nhw a chadarnhau eu bod yn cyd-fynd
- labelu gwisgoedd, adnabod eu tarddiad, y perfformiwr a'r cyfarwyddiadau addasu hollgynhwysol wedi ichi ffitio'r wisg
- cydweithio gyda staff y cynhyrchiad a'r perfformwyr i gadarnhau caiff y cyfarwyddyd dylunio ei fodloni
- gwirio bod ffit y gwisgoedd yn gywir yn dilyn gwaith addasu
- trafod problemau gyda ffit ac addasiadau gyda'r person / pobl berthnasol mewn dull amserol.
- sicrhau caiff gofynion gwisgoedd lluosog, effeithiau arbennig a cholur eu dwyn i ystyriaeth wrth ffitio gwisgoedd
- cadw gwybodaeth yn unol â'r gweithdrefnau a chydymffurfio gyda'r rheolau cyfrinachedd
- cyfathrebu'n eglur gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweithdrefnau ffitio gwisgoedd
- gofynion y cynhyrchiad, y cyfarwyddyd dylunio a'r amserlen gwisgoedd
- gofynion y perfformwyr a'r cynhyrchiad ar y cyd â'r personél priodol
- trefnu ffitio gan gydymffurfio gydag amserlen y cynhyrchiad
- sut i gymryd a chofnodi mesuriadau cywir a gwneud cyfrifiadau
- paratoi gwisgoedd ar gyfer addasiadau angenrheidiol
- ffit ac edrychiad gofynnol y gwisgoedd fel y cytunwyd arnyn nhw gyda staff y cynhyrchiad
- sut i amcangyfrif gofynion y deunyddiau a'r defnyddiau
- problemau a diffygion ynghlwm â'r gwisgoedd a sut i fynd i'r afael gyda nhw
- cadw cofnodion a rheolau cyfrinachedd lle'n briodol
- rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
- holl staff perthnasol y cynhyrchiad a'r protocol cyfathrebu
- cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSQ11
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gwisg; wardrob; goruchwylio; ffitiadau; cyfarwyddiadau; trwsiadau; addasiadau; dychwelyd; difrod