Sefydlu a datgymalu gweithle gwisgoedd dros dro

URN: SKSQ21
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i sefydlu man penodol ar gyfer gwisgoedd wrth ffilmio ar leoliad, defnyddio'r man drwy gydol y cynhyrchiad ar gyfer gwaith yn ymwneud â'r gwisgoedd a datgymalu'r man ar ddiwedd y cynhyrchiad. Gallai ymwneud ag asesu a dewis man addas, creu gweithle gweithredol, derbyn gwisgoedd wedi'u danfon a'u storio'n briodol ynghyd â phacio eitemau i'w cludo.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, rheolwyr gwisgoedd a chynorthwywyr gwisgoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu gofynion gwisgoedd y cynhyrchiad ac amcangyfrif y cyfleusterau angenrheidiol  
  2. asesu'r mannau sydd ar gael a dewis y man mwyaf addas gan ddwyn i ystyriaeth y lleoliad, y mynediad a'r adnoddau
  3. ystyried y materion ynghlwm â diogelwch, cyfrinachedd a risgiau
  4. derbyn caniatâd i ddefnyddio'r gweithle dewisol
  5. adnabod y cyfarpar a'r offer angenrheidiol i gynnal a chadw gwisgoedd
  6. gweithio gan gadw at gyllideb y cynhyrchiad
  7. rhoi gwybod i'r tîm cynhyrchu am union safle'r gweithle dewisol
  8. cydosod a threfnu cyfarpar yn y man dewisol gan ddwyn i ystyriaeth y rhwystrau, y mynediad, y peryglon a'r amodau diogelwch
  9. cyd-drefnu gwaith cynnal a chadw ar y gwisgoedd yn y gweithle fel glanhau, trwsio, heneiddio a rhoi ôl traul
  10. rheoli a chynnal y gweithle
  11. trefnu cludiant addas ar gyfer gwisgoedd, offer a chyfarpar
  12. datgymalu'r gweithle a pharatoi'r offer, y gwisgoedd a'r cyfarpar yn barod i'w cludo
  13. cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  14. cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  15. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion ac amserlen y cynhyrchiad
  2. lleoliadau'r set ffilmio a'r golygfeydd
  3. y gyllideb a'r graddfeydd amser gallwch fanteisio arnyn nhw  
  4. y man / gofod sydd ar gael
  5. y risgiau ynghlwm â diogelwch a chyfrinachedd a sut i sicrhau bod cyn lleied â phosib
  6. sut i adnabod a chyfathrebu gydag adrannau eraill
  7. nifer ac ansawdd y gwisgoedd gofynnol a lle i ganfod gwybodaeth am y cynhyrchiad
  8. y drefn saethu a'r raddfa amser sy'n gysylltiedig â gofynion y gwisgoedd a'r amser gwisgo
  9. y cyfarpar angenrheidiol i gyflawni tasgau'n ymwneud â'r gwisgoedd
  10. sut i drefnu, sefydlu, lleoli a gosod cyfarpar
  11. gofynion paratoi cyn cludo'r gwisgoedd a'r cyfarpar
  12. sut i ofalu am a chynnal a chadw gwisgoedd
  13. amseriadau yn ymwneud â datgymalu'r gweithle
  14. sut a lle i gael gwared ar wastraff
  15. sut i gaffael a threfnu cludiant ar gyfer cyfarpar a'r gwisgoedd
  16. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynghlwm â thrin a storio deunyddiau peryglus
  17. rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  18. y protocol cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  19. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ29

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; datgymalu; sefydlu; gweithle; cynnal a chadw