Sefydlu a threfnu adran wisgoedd

URN: SKSQ20
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gynllunio, sefydlu a threfnu adran wisgoedd sy'n gysylltiedig â chynhyrchiad. Gallai ymwneud â recriwtio aelodau ar gyfer yr adran, cyfathrebu gydag adrannau eraill, asesu'r gofod gwaith sydd ar gael a chaffael a gosod cyfarpar.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, rheolwyr gwisgoedd a chynorthwywyr gwisgoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau gofynion y gwisgoedd, amserlen y cynhyrchiad a'r gyllideb
  2. adolygu dadansoddiad y gwisgoedd ac adnabod yr adnoddau gofynnol i storio, dosbarthu a chynnal a chadw gwisgoedd
  3. adnabod ac asesu'r gofod sydd ar gael gan ddwyn i ystyriaeth y materion ynghlwm â diogelwch, cyfrinachedd a risgiau
  4. adnabod a recriwtio personél gwisgoedd sy'n meddu ar y sgiliau gofynnol a chan gadw at y gyllideb
  5. ymgynghori gyda'r dylunydd a staff y cynhyrchiad a thrin a thrafod amodau a thelerau'r staff gwisgoedd
  6. sicrhau bod y personél gwisgoedd wedi'u hyfforddi'n llawn
  7. adnabod a chaffael y cyfarpar a'r offer gofynnol gan gadw at y gyllideb
  8. adnabod a chaffael y deunyddiau a'r defnyddiau gofynnol gan gadw at y gyllideb
  9. trefnu cyflawni'r adnoddau
  10. cydosod, gosod a sefydlu'r cyfarpar yn y man dewisol gan ddwyn i ystyriaeth y rhwystrau, peryglon a'r amodau diogelwch
  11. creu amgylchedd gwaith diogel a gweithredol
  12. adnabod costau cynnal a chadw'r adran
  13. llunio a chadarnhau'r broses storio gwisgoedd
  14. llunio a ffurfioli'r broses dychwelyd
  15. sicrhau bod mesurau diogelwch digonol ar waith
  16. sicrhau bod y polisïau yswiriant gofynnol ar waith  
  17. cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad a'r adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  18. sicrhau bod y deddfwriaethau a'r canllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol ar waith a bod pawb yn cydymffurfio gyda nhw bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion y cynhyrchiad a'r amserlen  
  2. cyllideb a graddfeydd amser y cynhyrchiad gallwch chi fanteisio arnyn nhw
  3. sut i adnabod y gofynion o ran criwio a sgiliau
  4. sut i ddewis a recriwtio aelodau ar gyfer yr adran wisgoedd  
  5. sut i drin a thrafod amodau a thelerau'n effeithiol
  6. rolau, cyfrifoldebau a thasgau gofynnol yr adran wisgoedd
  7. cyfarpar gofynnol i gwblhau tasgau yn yr adran wisgoedd, fel gynnau tagio, sisyrnau, rheseli a chyfarpar presio a sut i'w defnyddio'n ddiogel
  8. cyfleusterau angenrheidiol mewn adran wisgoedd e.e. dŵr tap, trydan
  9. mesurau diogelwch gofynnol
  10. costau cynnal a chadw'r adran
  11. y goblygiadau cost ynghlwm â cholli neu ddifrodi eitemau
  12. trefniadau yswiriant digonol
  13. prosesau effeithiol o ran llogi, benthyg a dychwelyd gwisgoedd
  14. gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol sy'n berthnasol i drin a storio sylweddau peryglus
  15. y protocol cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  16. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ20

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; adran; rheoli; trefnu; cynhyrchiad