Presio Gwisgoedd

URN: SKSQ18
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i bresio gwisgoedd gan ddefnyddio gwahanol dechnegau, dyfeisiau ac ategolion. Gallai hyn ymwneud â chyflawni gwaith mewn ystod o leoliadau saethu, ymwybyddiaeth o wneuthuriad deunyddiau a phriodweddau ffibrau, cymryd rhagofalon i atal difrod, gwybodaeth am ddefnydd arfaethedig y wisg, fformat y camera a ddewiswyd ac agweddau o ddilyniant.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn, cynorthwywyr wardrob a gwneuthurwyr gwisgoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod a chadarnhau gofynion y gwisgoedd  
  2. cadarnhau'r gofynion dilyniant
  3. caffael y cyfarpar presio cywir i fodloni gofynion y cynhyrchiad
  4. gosod y cyfarpar presio yn ddiogel heb fod yn y ffordd
  5. sicrhau bod gosodiadau'r cyfarpar yn briodol ar gyfer yr eitem rydych yn ei bresio
  6. adnabod y technegau gofynnol ar gyfer y wisg a gofynion y cynhyrchiad
  7. dewis a defnyddio gwahanol ategolion presio fel byrddau smwddio llewys a phadiau
  8. ystyried y fformat camera gaiff ei ddefnyddio a dyluniad y saethiad
  9. dewis a defnyddio cynnyrch i gynorthwyo gyda phresio fel chwistrellau startsh
  10. cydymffurfio gyda'r rheoliadau COSHH (Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd) pan fyddwch yn defnyddio cyfarpar a/neu gynnyrch presio
  11. cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  12. cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  13. cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau, y polisïau a'r canllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion y cynhyrchiad a'r gwisgoedd
  2. sut i osod, dodi a gweithredu cyfarpar yn ddiogel
  3. technegau smwddio a phresio
  4. sut i ddefnyddio gosodiadau presio neu thermostat cywir
  5. ystyr labeli a symbolau gofal
  6. y gwahanol ddyfeisiau sydd ar gael i bresio a smwddio gwisgoedd
  7. effaith gwahanol dechnegau presio ar yr eitemau gaiff eu presio
  8. pryd i beidio â phresio / smwddio oherwydd 'edrychiad' y cyfnod/ffurf
  9. y gwahanol ategolion a'r cynnyrch sydd ar gael a phryd i'w defnyddio nhw h.y. byrddau smwddio llewys, padiau, chwistrellau startsh ac ati.
  10. yr unigolyn perthnasol i gyfathrebu ag ef/hi er mwyn sicrhau bod y gofynion yn cael eu bodloni

  11. rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad

  12. staff y cynhyrchiad a'r adrannau ynghlwm ynghyd â'r protocol cyfathrebu
  13. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau iechyd, diogelwch, COSHH ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ23

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; smwddio; presio; dillad; technegau; dyfeisiau; ategolion; saethu; lleoliadau; deunyddiau; cynhyrchu; ffibrau; difrod; camera; dilyniant