Cynnal a chadw a gwasanaethu gwisgoedd

URN: SKSQ16
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gynnal a chadw a gwasanaethu gwisgoedd a gofalu eu bod yn lân ac mewn cyflwr da cyn ac yn ystod cynyrchiadau.

Gallai hyn ymwneud ag adnabod y technegau cynnal a chadw cywir, gwirio a thrwsio gwisgoedd, cadw cofnodion manwl gywir a pherthnasol, labelu'r gwisgoedd a storio a diogelu'r gwisgoedd rhag unrhyw ddifrod.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn a chynorthwywyr wardrob.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. archwilio gwisgoedd ac asesu eu cyflwr
  2. adnabod unrhyw waith trwsio, addasu neu welliannau gofynnol a chytuno arnyn nhw gyda'r person / pobl berthnasol
  3. cynnal gwaith gwnïo ac addasu sylfaenol a chofnodi trwsiadau ac addasiadau sy'n fwy cymhleth
  4. labelu a chyflwyno'r gwisgoedd a'r cyfarwyddiadau gwaith gofynnol i'r person perthnasol
  5. archwilio eitemau caiff eu dychwelyd wedi iddyn nhw gael eu haddasu/eu trwsio a sicrhau eu bod yn bodloni'r safon a'r cyfarwyddiadau gofynnol
  6. dewis dulliau cynnal a chadw sy'n addas ar gyfer deunyddiau ac addurniadau'r gwisgoedd
  7. pennu a chytuno ar y dewis mwyaf addas ar gyfer ymdrin â gwisgoedd sy'n anymarferol i'w gwasanaethu
  8. gwirio'r cyfarwyddyd dylunio ar gyfer gofynion gwasanaethu datganedig y gwisgoedd a gwasanaethu'r gwisgoedd yn unol â hynny
  9. gwirio telerau'r cytundeb os ydych chi'n llogi gwisgoedd gan gwmni arall a gwasanaethu'r gwisgoedd yn unol â hynny
  10. nodi a chofnodi unrhyw ddifrod damweiniol i wisgoedd pan fyddwch yn cyflawni gwaith gwasanaethu
  11. gofyn am gyngor person / pobl berthnasol os caiff gwisgoedd eu difrodi yn ystod gwaith gwasanaethu
  12. ail-labelu gwisgoedd wedi'u gwasanaethu gyda'r wybodaeth berthnasol
  13. storio'r eitemau wedi'u gwasanaethu a sicrhau eu bod yn barod er mwyn    bodloni gofynion y cynhyrchiad
  14.  sicrhau bod y gwisgoedd yn ddiogel, wedi'u cadw o dan amodau priodol ac wedi'u diogelu pan na fyddwch chi'n eu defnyddio
  15. cydymffurfio gyda rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
  16. cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  17. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gofynion gwisgoedd y cynhyrchiad, y cyfyngiadau amser ac amserlen y cynhyrchiad
  2. gweithrediadau a gweithdrefnau'r ystafell stoc
  3. amodau storio a diogelu gwisgoedd a'r technegau storio
  4. tasgau gwnïo, cynnal a chadw a gwasanaethu sylfaenol
  5. gweithdrefnau ar gyfer gwaith trwsio neu addasu cymhleth
  6. y mathau o ddeunyddiau gaiff eu defnyddio'n gyffredin i greu ac addurno gwisgoedd ynghyd ag eiddilwch pob deunydd yn berthnasol i driniaethau gwasanaethu
  7. gofynion dilyniant y cynhyrchiad
  8. cofnodion a labeli'r gwisgoedd, yr wybodaeth ofynnol o ran cytundebau pan fyddwch yn llogi gan gwmnïau
  9. gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a chyfundrefnol o ran defnyddio a thrin cyfarpar a chyfryngau gwasanaethu'n ddiogel  
  10. rheolau a gofynion cyfrinachedd y cynhyrchiad
  11. staff y cynhyrchiad ac adrannau perthnasol eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad a'r protocol cyfathrebu
  12. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; cynnal; gwasanaethu; cyflwr; cynhyrchiad; trwsio; cofnodion; labelu; storio; diogelu; difrod