Cynorthwyo gyda dilyniant y gwisgoedd

URN: SKSQ12
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gynorthwyo gyda dilyniant y gwisgoedd a sicrhau caiff dilyniant ei gynnal yn gyson ar y set.

* *

Gallai hyn ymwneud â sicrhau bod y gwisgoedd yn cyd-fynd gyda'r fanyleb dylunio drwy gydol y saethiad, sicrhau bod gwisgoedd y perfformwyr yn gyson gyda'r tro blaenorol dilyniannol, cytuno ar addasiadau yn sgil digwyddiadau heb eu sgriptio yn ystod saethu, sicrhau cyn lleied â phosib o amhariadau i amserlen y cynhyrchiad a chadw cofnodion dilyniant manwl gywir.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn a chynorthwywyr wardrob.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio gwisgoedd y perfformwyr o gymharu â dadansoddiad y gwisgoedd
  2. sicrhau bod gwisgoedd y perfformwyr yn bodloni'r cyfarwyddyd dylunio cyn cychwyn saethu a hefyd yn cyd-fynd â'r tro blaenorol dilyniannol
  3. sicrhau nad ydy gwisg y perfformiwr wedi'i golli neu ei ddifrodi erbyn diwedd y saethiad a'i bod yn dal i fodloni'r cyfarwyddyd dylunio 
  4. talu sylw i fanylion y wisg drwy gydol y saethiad a'i diwygio os oes angen
  5. cytuno ar newidiadau pan mae angen altro'r wisg yn sgil digwyddiadau heb eu sgriptio yn ystod y saethiad
  6. ymgynghori gyda'r person / pobl berthnasol i adnabod yr adnoddau a'r cyfarpar priodol i gofnodi dilyniant
  7. lleihau amhariad ar amserlen y cynhyrchiad pan fyddwch yn gwisgo neu'n ail-wisgo perfformwyr i sicrhau bod dilyniant
  8. cydymffurfio gyda'r arferion ar y set wrth gynnal dilyniant gan gynnwys rheolau ynghylch defnyddio ffonau symudol neu ddulliau cyfathrebu eraill 
  9. caffael a chofnodi gwybodaeth dilyniant gan ffynonellau perthnasol pan na fyddwch yn bresennol ar gyfer tro
  10. cofnodi manylion gwigoedd perthnasol yn defnyddio adnoddau digidol pan fo'n bosib
  11. ymgynghori gyda'r goruchwyliwr ynghylch y gweithrediadau priodol pan fo effeithiau arbennig yn peri trafferthion iechyd a diogelwch
  12. cydymffurfio gyda rheolau a gweithdrefnau cyfrinachedd y cynhyrchiad  
  13. cadw cofnodion cyflawn, diweddar, cywir a hygyrch o fanylion dilyniant  gwisgoedd
  14. cyfathrebu'n eglur gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  15. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion o ran gwisgoedd y cyfarwyddyd dylunio
  2. sut i wirio gwisg y perfformwyr o gymharu gyda'r cyfarwyddyd
  3. gweithdrefnau arferion 'ar set' y diwydiant
  4. y person perthnasol i wirio cynnal dilyniant / neu gytuno ar newidiadau i wisgoedd gyda nhw
  5. sut i fonitro newidiadau i sgriptiau ac asesu effaith posib hyn ar ofynion y gwisgoedd
  6. dulliau ar gyfer cofnodi a storio gwybodaeth dilyniant
  7. sut i dynnu lluniau neu fideos sy'n cofnodi manylion gwisgoedd
  8. mynediad i'r cofnodion dilyniant blaenorol neu gyfredol
  9. gweithdrefnau a rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad   
  10. protocol cyfathrebu'r cynhyrchiad
  11. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau a'r rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ18

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; cynorthwyo; cyfrannu; dilyniant; cydweddu; dylunio; perfformiwr; gwisgo; saethiad; dilyniannol; tro; addasiadau; heb eu sgriptio; digwyddiadau; saethu; cynhyrchiad; amserlen; cywir; cofnodion