Cynorthwyo gyda gwisgo gefeilliaid styntiau

URN: SKSQ11
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i ymgyfuno a chydweddu gwisgoedd styntiau gyda gwisgoedd arferol pan fyddwch yn gwisgo'r perfformwyr. Gallai ymwneud â ffitio gwisgoedd styntiau, cyfarwyddo'r perfformwyr ynghylch diben a defnydd y gwisgoedd styntiau a chadarnhau bod yr agweddau iechyd a diogelwch wedi'u bodloni gyda'r bobl berthnasol.  

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn a chynorthwywyr wardrob.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod gofynion y cynhyrchiad yn ymwneud â gwisgoedd styntiau
  2. adolygu asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch
  3. cyfathrebu gyda chydlynwyr gweithrediadau styntiau ac adnabod gofynion penodol gwisgoedd styntiau
  4. sicrhau bod y gwisgoedd styntiau'n ddiogel ac wedi'u gweithredu'n gywir
  5. cydweithio gyda'r adran styntiau i gyfarwyddo'r perfformiwr ynghylch y wisg styntiau gofynnol
  6. cytuno ar ffyrdd priodol o guddio gwisgoedd ac ategolion styntiau
  7. gweithredu a gwirio rigio ar wisgoedd / effeithiau arbennig pan fyddwch yn gwisgo'r perfformwyr a'u tynnu pan fyddwch yn tynnu'r wisg oddi ar y perfformwyr  
  8. sicrhau bod y gwisgoedd o'r maint cywir ar gyfer y gefell styntiau a'u bod yn addas i'w gwisgo am ben y gwisgoedd styntiau
  9. gwirio bod manylion y wisg styntiau'r un fath â'r wisg wreiddiol a'i diwygio os oes angen
  10. cynorthwyo'r perfformiwr i wisgo a thynnu eu gwisg
  11. cyd-drefnu'r wisg styntiau gyda'r wisg arferol a'i roi am y perfformiwr 
  12. sicrhau bod y perfformwyr yn gyfforddus ac yn gallu symud yn ystwyth yn y wisg a
  13. cadarnhau oes angen dyblygu unrhyw wisgoedd neu eitemau
  14. gwirio faint o weithiau y mae disgwyl i'r perfformiwr newid eu gwisg
  15. adnabod a datrys unrhyw drafferthion gyda'r wisg arferol a'r wisg styntiau
  16. paratoi newid gwisgoedd gan ddwyn i ystyriaeth amserlen y perfformiad a'r amser sydd ar gael i berfformwyr allu newid
  17. trefnu amser newid ychwanegol lle'n briodol
  18. cofnodi eitemau coll ar unwaith
  19. sicrhau caiff gwisgoedd eu storio'n gywir a'u diogelu yn ystod egwylion y cynhyrchiad  
  20. adrodd am unrhyw waith gwasanaethu neu drwsio angenrheidiol cyn defnydd nesaf y wisg
  21. cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  22. cyfathrebu gyda gweddill staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  23. cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau, polisïau a'r canllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yr adran styntiau
  2. eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch personol chi
  3. gofynion ac amserlen gwisgoedd y cynhyrchiad
  4. asesiadau risg a'u gofynion
  5. sut i drin a gweithio gyda gwisgoedd styntiau heb beryglu diogelwch unrhyw un
  6. pwysigrwydd ymdrin â gwisgoedd styntiau rydych wedi eich hyfforddi i ymdrin â nhw yn unig
  7. gofynion o ran gwisgoedd y cyfarwyddyd dylunio  
  8. y gwisgoedd lluosog neu'r eitemau gofynnol
  9. maint yr efell styntiau o gymharu gyda maint y perfformiwr
  10. trafferthion cyffredin yn ymwneud â'r gwisgoedd ynghyd â'r datrysiadau arfaethedig
  11. y gweithrediadau priodol pan fo gwisgoedd wedi'u difrodi
  12. gofynion o ran gwisgo a thynnu'r gwisgoedd
  13. technegau i guddio gwisgoedd ac ategolion styntiau
  14. cyfyngiadau amser amserlen y cynhyrchiad
  15. y nifer o newidiadau gwisgoedd a'r ategolion gofynnol
  16. difrod arfaethedig i wisgoedd yn ystod styntiau
  17. rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  18. staff cynhyrchu a'r adrannau ynghlwm ynghyd â'r protocol cyfathrebu
  19. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ25

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; gwisgo; stynt; gefeilliaid; perfformwyr; cyd-drefnu; cyfarwyddyd; iechyd; diogelwch;