Cynorthwyo gyda gwisgoedd ar y set

URN: SKSQ10
Sectorau Busnes (Suites): Gwisgoedd
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gefnogi a chynorthwyo gyda dilyniant. Gallai hyn ymwneud â chynnig cymorth wrth gefn gyda gwisgoedd yn ystod saethiad, cydymffurfio gyda'r arferion ar y set, cydosod pecyn gweithio priodol a chynorthwyo gyda threfnu'r gwisgoedd.

Mae'n debyg y byddai'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr gwisgoedd, cynorthwywyr gwisgoedd, gweithwyr gwisgoedd wrth gefn, cynorthwywyr wardrob a gwneuthurwyr gwisgoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwirio a chadarnhau gofynion y cynhyrchiad gan gynnwys trefn y cynhyrchiad, y taflenni galwadau a'r amserlen  
  2. dod o hyd i wisgoedd a sicrhau eu bod wedi gosod yn y man priodol i'r perfformwyr allu eu cyrraedd yn ddidrafferth
  3. cydosod pecyn gwaith effeithiol
  4. adnabod y lleoliad, y tywydd disgwyliedig a'r dillad gwaith priodol fel dillad dal dŵr a dillad cynnes
  5. cynorthwyo gyda'r dillad a'r ategolion ar gyfer perfformwyr wrth gefn
  6. cydymffurfio gyda'r arferion ar y set gan gynnwys rheolau ynghylch defnyddio ffonau symudol neu ddulliau cyfathrebu eraill
  7. sicrhau bod man cyfleus ar gyfer newid gwisgoedd
  8. cynorthwyo gyda gwisgo perfformwyr a'u cynghori ar sut i ddodi a gwisgo gwisgoedd
  9. cyfathrebu gydag adrannau eraill a allai effeithio ar y gwisgoedd fel yr adran gwallt a cholur
  10. gosod microffonau radio effeithiau arbennig o'r golwg ac yn ddiogel
  11. goruchwylio manylion a dilyniant gwisgoedd ac addasu'r gwisgoedd ar y perfformwyr pan fo'n briodol
  12. monitro'r gwisgoedd am unrhyw ddifrod ac, os yn bosib, mynd ati i addasu'r gwisgoedd yn gynnil pan fo'n briodol
  13. monitro 'edrychiad' y wisg a'i haddasu'n gynnil pan fo'n briodol
  14. cynnal gwaith addasu a thrwsio munud olaf ac adnabod dillad sydd angen gwaith trwsio cymhleth neu driniaeth arbenigol
  15. rheoli a chofnodi dosbarthu a chasglu ategolion
  16. cydweithio gydag adrannau eraill fel rhan o dîm
  17. cydymffurfio gyda rheolau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  18. cyfathrebu'n effeithiol gyda staff y cynhyrchiad ac adrannau neu unigolion perthnasol eraill
  19. cydymffurfio gyda'r deddfwriaethau, polisïau a'r canllawiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​amserlen / dilyniant / trefn / taflenni galwadau'r cynhyrchiad
  2. yr eitemau gofynnol ar gyfer pecyn gwaith effeithiol
  3. arferion gofynnol wrth weithio ar y set
  4. sut i osod microffonau radio effeithiau arbennig
  5. effaith adrannau eraill ar y gwisgoedd h.y. gwallt, colur, styntiau, sain
  6. rheolau cysylltiedig â'r defnydd o ffonau symudol neu ddulliau cyfathrebu eraill
  7. sut i fanteisio ar ragolygon y tywydd pan fyddwch ar leoliad a dewis dillad ac ategolion priodol ar gyfer perfformwyr sydd wrth gefn
  8. technegau trwsio ac addasu sylfaenol
  9. sut i ddodi a gwisgo gwisgoedd a sut i rannu'r cyngor gydag eraill
  10. ymwybyddiaeth o effeithiau unrhyw amhariadau yn ystod saethiad
  11. rheolau a chymalau cyfrinachedd y cynhyrchiad
  12. staff y cynhyrchiad a'r adrannau ynghlwm ynghyd â'r protocol cyfathrebu
  13. cyfrifoldebau statudol ynghlwm â'r deddfwriaethau iechyd, diogelwch, COSHH ac amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSQ24

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwisg; wardrob; cynorthwyo; ar y set; wrth gefn; saethiad; arferion a moesau; pecyn gwaith; trefnu; trwsiadau; addasiadau; dilyniant; dillad cynnes; dillad; hetiau; menig; ategolion; cofnodi; gemwaith; perfformwyr