Gweithredu effeithiau arbennig ffisegol ar gynhyrchiad

URN: SKSPSFX11
Sectorau Busnes (Suites): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu chi i weithredu effeithiau arbennig ffisegol. Mae'n cymryd yn ganiataol eich bod chi eisoes yn gwybod sut i ddefnyddio'r deunyddiau gofynnol. Bydd angen i chi friffio pobl ar elfennau'r dyluniad a'r gofynion diogelwch, a sicrhau fod yr offer a'r deunyddiau'n addas i'w pwrpas ac yn cael eu rheoli'n briodol.

Bydd yn ymwneud ag adnabod penaethiaid adrannau allweddol y bydd angen i chi gysylltu â nhw i gynhyrchu effeithiau mewn dull diogel a chyfreithiol gydymffurfiol.

Dylid defnyddio'r Safon hon ochr yn ochr ag unrhyw rai o'r rhai a restrir isod:

Bydd yn golygu adnabod penaethiaid adrannau allweddol y bydd angen i chi gysylltu â nhw i greu effeithiau mewn dull diogel a chyfreithiol gydymffurfiol.

Dylid defnyddio'r Safon hon ochr yn ochr ag unrhyw un o'r safonau a restrir isod:

PSFX04 Creu effeithiau atmosfferig

PSFX05 Creu effeithiau tân ymarferol

PSFX06 Creu effeithiau bychain

PSFX08 Creu effeithiau mecanyddol

PSFX09 Creu propiau effeithiau arbennig ffisegol

PSFX10 Creu effeithiau ffrwydrol a phyrotechnig

Mae'r safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n gweithredu effeithiau arbennig ffisegol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cysylltu â phobl briodol i sicrhau fod yr holl wybodaeth ddiogelwch berthnasol ar gyfer effeithiau arbennig ffisegol yn cael eu cyfathrebu i bob aelod perthnasol o'r cast a'r criw
  2. sicrhau fod pawb yn glynu wrth y canllawiau diogelwch bob amser
  3. darparu cyfeiriadau prawf darluniadol a fideo i'r tîm cynhyrchu yn unol â gofynion cynhyrchu
  4. cyflogi criw cymwys sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad perthnasol ar gyfer y gwaith
  5. cyfathrebu coreograffi golygfa i'r bobl berthnasol i helpu'u dealltwriaeth ac arfer ddiogel
  6. hyfforddi cast a chriw ar sut y bydd effeithiau'n cael eu cyflawni mewn modd sy'n helpu'u dealltwriaeth ac sy'n hybu arfer ddiogel, gan arddangos elfennau pan fo hynny'n briodol
  7. sicrhau fod pob aelod o'r criw effeithiau arbennig yn deall ei rôl wrth weithredu effeithiau
  8. darparu offer a deunyddiau ar gyfer eu defnyddio mewn effeithiau arbennig ffisegol sy'n addas ar gyfer eu pwrpas ac mewn cyflwr priodol a chydymffurfiol
  9. ymateb i unrhyw newidiadau cyllidebol neu amserlen mewn dull cadarnhaol gan gyfathrebu unrhyw newidiadau i bawb perthnasol 
  10. cysylltu â phobl briodol i sicrhau fod cerbydau'n cael eu rheoli'n effeithiol ar gyfer effeithiau arbennig ar set yn unol â gofynion cynhyrchu a diogelwch
  11. dogfennu pob agwedd ar asesu risg a rheoli risg mewn fformatau priodol
  12. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i werthuso'r defnydd o effeithiau arbennig ffisegol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. rheoliadau a deddfwriaeth iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'r effeithiau arbennig ffisegol yr ydych chi'n gweithio gyda nhw
  2. sut i gysylltu'n effeithiol â phenaethiaid adran, cast, criw, yswirwyr ac awdurdodau gorfodi priodol
  3. y modd o sicrhau fod diogelwch y cast a'r criw yn cael ei gynnal bob amser, yn y gweithdy ac ar y set
  4. pwysigrwydd peidio â chael cast a chriw'n newid neu'n addasu offer i siwtio pwrpas arbennig heb ganiatâd yr adran effeithiau arbennig
  5. sut i ddehongli coreograffiaeth golygfa, manylebau sgript yn unol ag arferion diogel
  6. yr hyn sydd ei angen er mwyn hwyluso darparu effeithiau'n llwyddiannus a diogel
  7. sut i brofi a chofnodi canlyniadau ar gamera
  8. â phwy i gysylltu o'r tîm cynhyrchu, gan gynnwys yr adran lleoliadau, am reoli cerbydau ar set
  9. y caniatâd a'r gymeradwyaeth angenrheidiol gan awdurdodau a sefydliadau perthnasol y mae'n rhaid eu cael a sut i fynd o gwmpas gwneud hynny
  10. prosesau ar gyfer paratoi offer a deunyddiau i greu effeithiau
  11. sut i gyflogi unigolion neu drydydd parti arbenigol cymwys i weithio ar y cyd mewn tîm
  12. sut i ymateb yn effeithiol ac effeithlon i newidiadau mewn cyllideb neu amserlen a pham fod hynny'n bwysig.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSSFX11

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Ffisegol , Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Hyfforddai Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig, Goruchwyliwr Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Effeithiau Arbennig Ffisegol, Dylunio, Cynllunio, Ymarfer gweithdy, Effaith atmosfferig, Effaith tân ymarferol, Effaith bychan, Effaith brosthetig, Effaith ffrwydrol, Cyllidebau, Datgymalu