Creu propiau effeithiau arbennig ffisegol

URN: SKSPSFX09
Sectorau Busnes (Suites): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â chreu propiau ar gyfer eu defnyddio mewn effeithiau arbennig ffisegol.

Bydd yn disgwyl i chi ymchwilio unrhyw gynlluniau, gan gadw o fewn y cyfnod dylunio, ac unrhyw ffiniau cywirdeb eraill a fynnir gan y cynhyrchiad. Bydd yn gofyn am wybodaeth am ddeunyddiau y gellir eu defnyddio, fel bwydydd replica, propiau meddal, propiau hanesyddol a modelau gwyddonol

Bydd angen i chi nodi deunyddiau a gofynion adeiladu, ffynonellu deunyddiau a chreu propiau sy'n ateb y gofynion. er mwyn gwneud hyn bydd angen i chi ddeall egwyddorion mowldio, cerflunio a cherfio. Bydd angen hefyd i chi ddangos gwybodaeth ynghylch gweithio gydag ystod eang o ddeunyddiau gan gynnwys plaster, GRP, resin, rwber, polysteirin ac ewyn, a bod yn   

abl i gymhwyso'r technegau mowldio, cerflunio a cherfio priodol i'r pethau hyn.

Mae'r Safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n creu propiau effeithiau arbennig ffisegol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. creu propiau effeithiau arbennig ffisegol yn unol â manyleb y cynhyrchiad a chyfyngiadau cyllidebol
  2. nodi gofynion deunyddiau ac adeiladu, gan gynnwys meintioli'n fwy neu'n llai yn ôl y galw i gwrdd â gofynion
  3. ffynonellu deunyddiau priodol ar gyfer y propiau sy'n cael eu creu
  4. darparu dogfennaeth sy'n manylu ar y deunyddiau, cydrannau a'r technegau sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu propiau i bobl berthnasol
  5. creu propiau'n unol â ffotograffau, darluniadau, brasluniau neu ddeunydd gweledol a ddarparwyd
  6. paratoi fframweithiau sy'n addas ar gyfer modelu
  7. creu modelau 3D a maquettes mewn graddfa briodol ac o ddeunyddiau priodol i brofi dyluniadau
  8. cynhyrchu cynhyrchion maint llawn sy'n cymryd i ystyriaeth unrhyw addasiadau fydd angen eu gwneud o ganlyniad i'r profi
  9. dogfennu pob agwedd ar asesu a rheoli risg mewn fformatau priodol
  10. gwneud eich gwaith yn unol â gofynion iechyd a diogelwch, gan weithredu os na ddilynir gofynion diogelwch gan eraill
  11. cynnal diogelwch y cast a'r criw bob amser
  12. darparu atebion amgen o fewn y gyllideb a'r amserlen os na ellir cynhyrchu propiau i'r dyluniadau neu'r cyllidebau gwreiddiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ymchwilio gwybodaeth ffynhonnell ddigonol i greu propiau effeithiau arbennig ffisegol
  2. y dull o ddefnyddio darluniau, brasluniau, ffotograffau a deunydd gweledol wrth fanylu ar ddeunyddiau a gofynion adeiladu, a sut i'w cynhyrchu
  3. manyleb sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer y prop effeithiau arbennig ffisegol
  4. y deunyddiau a'r arddulliau gwahanol a ddefnyddir wrth fodelu a cherflunio ar gyfer propiau effeithiau arbennig ffisegol, a sut y gellir eu cyfuno i fowldio a chastio
  5. egwyddorion modelu, castio a mowldio o ddarn gwreiddiol
  6. sut i greu patrymau o bropiau gwreiddiol
  7. sut y mae'r mecanweithiau mewnol a ddefnyddir mewn modelau neu bropiau'n cael eu defnyddio i greu effeithiau
  8. anatomi pobl ac anifeiliaid
  9. technegau a deunyddiau castio o fywyd a'r ystyriaethau diogelwch sydd ynghlwm â hynny
  10. y broses ddylunio, yn benodol sut i drosglwyddo cyfeiriad 2 Ddimensiwn yn wrthrych 3 Dimensiwn
  11. sut y mae animatroneg yn gweithio ar y cyd â'r broses fodelu
  12. y mathau gwahanol o ddymis i'w defnyddio; difywyd, cymalog a gweithredol, oedolion, babis, plant, anifeiliaid
  13. egwyddorion pwnsio a gorffen gwallt
  14. egwyddorion gorffen drwy beintio a lliwio 
  15. sut i gynhyrchu fframwaith i gefnogi ffurf a fodelwyd gan ddefnyddio deunyddiau sy'n briodol i'r dasg
  16. pa adrannau y mae angen cysylltu'n rheolaidd â nhw i sicrhau y bydd modelau a phropiau'n cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn ddiogel
  17. y dulliau o amrywio maintioli graddedig o bropiau sy'n bodoli i greu meintio i fyny/ i lawr ar fodelau
  18. yr hyn y gellir ei gyflawni gan ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSSFX09

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Hyfforddai Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig, Goruchwyliwr Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Effeithiau Arbennig Ffisegol, Dylunio, Cynllunio, Cyllidebau, Propiau, Datgymalu