Creu effeithiau mecanyddol

URN: SKSPSFX08
Sectorau Busnes (Suites): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu chi i greu effeithiau mecanyddol, gan gynnwys defnyddio animatroneg.

Mae'n cymryd yn ganiataol fod gennych chi'r wybodaeth angenrheidiol i weithio yn y maes hwn o beirianwaith mecanyddol. Mae hefyd yn cymryd yn ganiataol fod gennych ddealltwriaeth o effeithiau ffisegol arbennig a'r rhan y gall peirianneg fecanyddol ei chwarae yn y maes gwaith hwn.

Mae'r safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n creu effeithiau arbennig mecanyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. creu effeithiau mecanyddol yn unol â manyleb cynhyrchu a chyfyngiadau cyllideb
  2. gweithio ar y cyd â phobl berthnasol o adrannau allweddol eraill i sicrhau fod yr effeithiau a gynhyrchwyd yn cwrdd â gofynion cynhyrchu
  3. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i ddehongli unrhyw ddyluniadau neu ddehongliadau gweledol a ddarparwyd gan y tîm cynhyrchu i greu effeithiau
  4. darparu unrhyw ddyluniadau neu ddogfennaeth effeithiau i bobl berthnasol
  5. ffynonellu deunyddiau priodol ar gyfer effeithiau mecanyddol sy'n cael eu creu
  6. cynnal iechyd a diogelwch cast a chriw bob amser
  7. cadarnhau fod pob gwaith mecanyddol yn cwrdd â phrotocolau iechyd a diogelwch cyfredol a darparu dogfennaeth i'r perwyl hwnnw
  8. dangos ystod eang o dechnegau a dulliau i gyrraedd yr effaith mecanyddol a ddymunir
  9. cofnodi a dogfennu profion mewn fformatau priodol, gan ddarparu'r rhain i'r adran gynhyrchu ar gyfer adborth
  10. darparu atebion a dyluniadau amgen os na ellir cynhyrchu'r effeithiau o fewn y dyluniad, cyllideb neu amserlen wreiddiol

  11. cysylltu ag adrannau eraill i sicrhau fod unrhyw gerbydau'n cael eu paratoi mewn modd sy'n lleihau risg

  12. cadarnhau fod mesurau diogelwch a dogfennaeth angenrheidiol yn eu lle wrth weithio gydag eitemau dan bwysau a falfiau gwaith pibelli
  13. dogfennu pob agwedd ar asesu a rheoli risg mewn fformatau priodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. manyleb y sgript, cyllideb ac amserlen ar gyfer yr effaith ffisegol arbennig
  2. sut i ddefnyddio peirianneg fecanyddol i greu propiau cynhyrchu, effeithiau a styntiau
  3. deunyddiau adeiladu ac ystod eang o dechnegau, gan gynnwys sut i ddethol dulliau atodi priodol
  4. technolegau traddodiadol a blaengar ar gyfer torri a siapio
  5. mecanwaith llifeiriol
  6. cyfrifo grymoedd
  7. dylunio mecanweithiau amrywiol
  8. peiriannau, gyrwyr, eu cydrannau a sut y defnyddir pob un i greu effeithiau
  9. sut y gall toriadau-i-ffwrdd a mecanweithiau rhyddhau weithio a phrotocolau diogelwch wrth eu defnyddio
  10. gwybodaeth am daflegrau a'u bwa taflu
  11. sut y gweithredir effeithiau mecanyddol a sut y maen nhw'n ymateb mewn amgylcheddau gwahanol, gan gynnwys o dan ddŵr
  12. sut i weithredu effeithiau mecanyddol o fewn i brotocolau diogelwch priodol, gan gadw at safonau a deddfwriaeth gyfredol y diwydiant
  13. y ddeddfwriaeth a'r mesurau diogelwch sy'n bodoli ar gyfer gweithio gydag eitemau dan bwysau a falfiau gwaith pibelli
  14. rigiau camera a sut y gellir eu defnyddio
  15. sut i ddefnyddio cawelli rholio a pharatoi cerbydau ar gyfer styntiau 
  16. technolegau cyfredol a datblygol a sut y gellir defnyddio'r rhain i greu effeithiau mecanyddol
  17. sut y gall CAD, CAM ac argraffu 3D weithio ar y cyd i ddylunio a chreu modelau mecanyddol
  18. y prosesau gweithgynhyrchu a ddefnyddir mewn mecanwaith, gan gynnwys weldio codedig

  19. yr hyn y gellir ei gyflawni gan ôl-gynhyrchu ac effeithiau gweledol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSSFX08

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Ffisegol , Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Hyfforddai Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Mecanyddol, Effeithiau Arbennig Ffisegol, Dylunio, Cynllunio, Effaith ffrwydrol, Cyllidebau, Datgymalu