Paratoi manylebau sgript a chyllidebau ar gyfer effeithiau arbennig ffisegol

URN: SKSPSFX01
Sectorau Busnes (Suites): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2017

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â’ch gallu chi i gynhyrchu manylebau sgriptiau a chyllidebau ar gyfer effeithiau arbennig ffisegol yn unol â gofynion sgript a chynhyrchiad.

Bydd angen i chi gysylltu â phenaethiaid adran, cyflenwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch ac unrhyw sefydliad perthnasol arall er mwyn cadarnhau fod modd gwireddu’r effeithiau’n ddiogel. Bydd hyn fel arfer yn cynnwys ystyried gofynion y cyfnod, lleoliad a dilysrwydd.

Mae’n cymryd yn ganiataol fod gennych wybodaeth ac ymwybyddiaeth lawn o ddeunyddiau, llafur ac adnoddau sy’n ofynnol er mwyn cynhyrchu’r effeithiau arbennig ffisegol penodol. Mae’r wybodaeth hon yn allweddol wrth baratoi manyleb a chyllideb ar gyfer cynhyrchiad. 

Mae’r safon hon ar eich cyfer chi os ydych chi’n ymchwilio, dylunio a chynhyrchu effeithiau arbennig ffisegol. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 ymchwilio a pharatoi cyllidebau mewn manylder digonol er mwyn i’r effeithiau allu cael eu dylunio, eu creu a’u gweithredu.
P2 datgymalu sgriptiau i weld manylion yr effeithiau sydd eu hangen yn unol â gofynion cynhyrchu
P3 darparu briff, gyda chefnogaeth byrddau stori, a chymorth gweledol pan fo galw, a ddogfennir yn unol â gofynion cynhyrchu
P4 cadarnhau fod y lefel angenrheidiol o yswiriant yn ei le er mwyn creu a chyflenwi’r effaith
P5 cadarnhau gyda phobl berthnasol fod modd cyflawni’r effeithiau i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a bod trwyddedau a thystysgrifau’n gyfredol a dilys
P6 ymgynghori ag unigolion a chwmnïau priodol ynghylch briffiau a ddogfennwyd i sicrhau fod dyluniadau’n bosib ac yn briodol
P7 dogfennu pob agwedd ar reoli risg mewn fformatau angenrheidiol, gan ddarparu hyn i eraill yn ôl y galw
P8 adnabod eitemau a deunyddiau sydd fwyaf priodol ar gyfer pob effaith
P9 defnyddio gwybodaeth ddibynadwy am leoliad a chost eitemau a deunyddiau a adwaenwyd er mwyn asesu effaith ar gyllidebau ac amserlenni cynhyrchu 
P10 manylu ar beth sydd ei angen er mwyn dylunio, adeiladu, profi a gweithredu effeithiau i gwrdd â gofynion cynhyrchu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 sut i ddarllen sgript a gofynion cynhyrchu er mwyn ystyried wrth gynhyrchu manylebau sgript, gan gynnwys, diogelwch, cyfnod y sgript, lleoliadau a pha mor bwysig yw cywirdeb eitemau a deunyddiau i fod
K2 sut i gysylltu â phobl gynhyrchu perthnasol er mwyn sicrhau fod dyluniadau’n ddiogel, yn bosib ac yn briodol
K3 y mathau gwahanol o ddeunyddiau ac adnoddau sydd eu hangen i gynhyrchu effeithiau arbennig ffisegol
K4 sut i ffynonellu neu weithgynhyrchu eitemau a deunyddiau priodol a sut y mae hyn yn effeithio ar gyllidebau ac amserlenni cynhyrchu
K5 sut y mae’r broses gynhyrchu’n gweithio a sut y mae elfennau ynddi’n cael eu cyflawni
K6 sut y bydd adrannau eraill yn rhyngweithio ag effeithiau arbennig ffisegol, yn enwedig, camera, styntiau, gwallt a cholur, gwisgoedd ac effeithiau gweledol
K7 sut i gydweithio er mwyn cyflawni effeithiau
K8 pryd y mae’n briodol darparu byrddau stori, cymorth gweledol a chymhorthion darluniadol a sut i’w darparu
K9 sut i gyllidebu pob elfen o ddyluniadau, gan gynnwys llafur, adnoddau a gweithgynhyrchu, gan sicrhau fod yswiriant priodol yn cael ei gynnwys
K10 prosesau a rheoli asesu risg


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSSFX01

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Ffisegol , Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Hyfforddai Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Effeithiau Arbennig Ffisegol, Sgriptiau, Dylunio, Cynllunio, Cyllidebau, Datgymalu