Cynnal a chadw celfi

URN: SKSPRP9
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gofalu am gelfi, gan gynnwys sut cânt eu defnyddio a'u cynnal a chadw yn ystod cynyrchiadau a'u storio pan na fyddant yn cael eu defnyddio. Mae'r safon hon hefyd yn edrych ar agweddau o iechyd a diogelwch wrth ddefnyddio a thrin celfi.

Gall celfi naill ai fod yn rhai sydd wedi'u llogi, neu sy'n perthyn i'r cwmni cynhyrchu, neu yn gynnyrch lleoli, neu yn rhain i gyd.

Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer pob rôl sy'n ymwneud â chelfi.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​darparu celfi yn ôl gofynion yr amserlen ffilmio
  2. trin celfi gyda gofal er mwyn cynnal eu cyflwr
  3. gwirio bod celfi mewn cyflwr diogel i'w defnyddio i ddiogelu eich hun ag eraill rhag perygl
  4. cofnodi a rhoi gwybod am unrhyw gelfi sydd wedi'u difrodi neu â diffygion
  5. gwirio celfi sydd ddim yn cael eu defnyddio, cadarnhau eu bod yn addas i'r diben a'u storio yn briodol a diogel
  6. gwirio y bydd celfi sy'n gweithio yn gweithio trwy gydol y cyfnod ffilmio
  7. gwneud addasiadau a mân atgyweiriadau lle bo'n ofynnol
  8. cadarnhau trefniadau ar gyfer unrhyw addasiadau ac atgyweiriadau pan na fydd modd eu cyflawni ar set
  9. gwneud trefniadau i atgyweirio neu amnewid unrhyw beth lle bo'n ofynnol
  10. trin a storio celfi bwytadwy yn unol â rheoliadau hylendid
  11. gwirio a chadarnhau'r cyfleusterau ar gyfer storio celfi bwytadwy
  12. cadw eitemau yn eu lle fel bod modd eu cymryd yn ôl yn ddiogel ac yn unol ag amserlenni cynhyrchu
  13. storio celfi pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
  14. cadw cofnodion o leoliad a chyflwr celfi
  15. dychwelyd celfi a deunyddiau eraill i'r cyflenwyr, llogwyr, neu'r storfa yn eu cyflwr cytunedig ynghyd â'r ddogfennaeth berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pwysigrwydd a gwerth pob celficyn yn y cynhyrchiad
  2. gwahanol fathau o gelfi, eu nodweddion a'u defnydd
  3. sut i wirio bod yr holl gelfi sydd eu hangen ar gael ar gyfer y cynhyrchiad
  4. gweithdrefnau ar gyfer diogelu'r holl gelfi
  5. gweithdrefnau penodol ar gyfer diogelu celfi o werth uwch
  6. gofynion trin a storio diogel ar gyfer gwahanol fathau o gelfi a deunyddiau
  7. sut i osgoi gwneud difrod i gelfi a deunyddiau eraill wrth eu gwirio
  8. sut i adnabod celfi diffygiol, pa gamau i'w dilyn, pwy i roi gwybod iddynt a sut i newid y ddogfennaeth
  9. dulliau o atgyweirio gwahanol fathau o gelfi
  10. trefniadau ar gyfer delio â chelfi nad oes modd eu hatgyweirio yn ystod y sesiwn cynhyrchu
  11. dulliau o gadw cyflwr celfi a deunyddiau
  12. goblygiadau costau sydd ynghlwm â cholli, neu wneud difrod i, eitemau lleoli cynnyrch
  13. trefniadau ar gyfer dychwelyd celfi a deunyddiau eraill
  14. trefniadau ar gyfer storio, ailgylchu, neu gael gwared ar gelfi a deunyddiau eraill yn dilyn deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch perthnasol
  15. pwysigrwydd cadw cofnodion o ddefnydd celfi

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPRP9

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

celfi; gofalu am gelfi; defnyddio a chynnal a chadw celfi; storio celfi; adolygu diogelwch celfi; dychwelyd a storio celfi;