Storio celfi i’w defnyddio mewn cynyrchiadau

URN: SKSPRP4
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod yr holl gelfi yn cael eu storio'n ddiogel. Mae gofyn ichi gysylltu'n agos gyda chydweithwyr yn yr Adran Gelfi, adnabod offer a llefydd storio addas a chynnal cofnodion cywir.

Gall celfi fod naill ai yn rhai sydd wedi'u llogi, neu rai sy'n perthyn i'r cwmni cynhyrchu, neu yn gynnyrch lleoli, neu yn bob un o'r rhain.

Mae gofyn ichi gael gafael ar a storio offer a dodrefn fel ffonau, silffoedd neu ddesgiau. Mae hefyd gofyn ichi gael gafael ar a storio nwyddau bwytadwy fydd efallai angen eu hamnewid e.e. diodydd neu sigaréts yn ogystal â sicrhau bod celfi eraill fel llestri a llestri gwydr yn cael eu glanhau yn lân.

Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer rôl y Stôr-geidwad Celfi* neu Gynorthwy-ydd y Stôr-geidwad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. trafod yr holl ofynion celfi sydd wedi'u hadnabod yn y dadansoddiad sgript 2. gosod ystafell gelfi ddiogel gyda digon o le yno ar gyfer swyddfa a storfa ynghyd â chyfleusterau hylendid priodol 3. paratoi rhestr o'r celfi sydd eu hangen 4. adnabod y celfi gyda gofynion storio penodol 5. cynllunio i ryddhau celfi yn unol â gofynion ac amserlenni cynhyrchu 6. sicrhau bod yr holl gelfi yn lân ac wedi'u paratoi yn lanwaith i'w defnyddio 7. cysylltu gyda staff cludiant ynghylch gofynion symud y celfi 8. trefnu bod celfi yn cael eu dychwelyd, storio, ailgylchu neu eu gwaredu pan na fydd eu hangen mwyach 9. cynnal a storio cofnodion a sicrhau eu bod ar gael yn ôl y gofyn 10. cydymffurfio gyda deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y dadansoddiad sgript a'r amserlen gynhyrchu
  2. pwysigrwydd yr holl gelfi yn y cynhyrchiad, beth bynnag fo eu gwerth ariannol
  3. sut i gysylltu'n brydlon ac effeithiol gydag aelodau eraill o staff
  4. pa offer a dodrefn sydd eu hangen yn yr ystafell gelfi
  5. sut i adnabod celfi gyda gofynion storio penodol fel eitemau bregus neu nwyddau bwytadwy
  6. pa offer na ellir eu storio ar gyfer ail-ffilmio fel nwyddau bwytadwy
  7. y mathau o gelfi fydd angen eu glanhau a'u paratoi i'w defnyddio
  8. goblygiadau costau penodol sydd ynghlwm â cholli, neu wneud difrod i, eitemau gosod cynnyrch 
  9. sut i drefnu bod celfi yn cael eu symud i ac o'r storfa yn unol â gofynion ac amserlenni cynhyrchu
  10. deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
  11. pa gelfi a deunyddiau mae modd eu hailgylchu a'r dulliau ailgylchu perthnasol
  12. pwysigrwydd cadw cofnodion cywir

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPRP4

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

celfi; storio celfi; cynyrchiadau; dadansoddiad sgript; amserlen gynhyrchu; nwyddau bwytadwy; ailgylchu;