Cael gafael ar gelfi er mwyn cwrdd ag anghenion cynhyrchu

URN: SKSPRP2
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chael gafael ar gelfi penodol er mwyn cwrdd ag anghenion cynhyrchu. Byddwch yn gyfrifol am adnabod gofynion cynhyrchu ar gyfer celfi a chytuno arnynt gyda phobl eraill sy'n gwneud penderfyniadau.

Bydd hefyd gofyn arnoch i ddod o hyd i gyflenwyr a threfnu bod y celfi yn cael eu trin a'u storio yn ddiogel.

Efallai bydd y Safon hon yn addas ar gyfer rôl y Meistr Celfi.*

*Mae hwn yn derm cyffredin ac nid yn benodol i ryw. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod gofynion ar gyfer celfi ac amserlenni cynhyrchu
  2. cysylltu gydag adrannau ac aelodau eraill o staff ynghylch gofynion celfi a chytuno arnynt gyda phobl eraill sy'n gwneud penderfyniadau
  3. adnabod ffynonellau tebygol ar gyfer llogi/cyflenwi celfi
  4. dewis eitemau gan gwmnïau llogi a chyflenwi sy'n gallu cwrdd â'r gofynion cynhyrchu orau
  5. gwirio a chadarnhau bod amserlenni danfon, terfynau amser a lleoliadau yn gyson gyda'r gofynion cynhyrchu ac wedi'u cytuno arnynt gyda llogwyr/cyflenwyr
  6. trefnu cyfleusterau cludiant lle bo angen
  7. pan fydd cost eitem y tu hwnt i derfynau cyllideb, bydd angen sicrhau awdurdod prynu gan y person perthnasol sy'n gwneud penderfyniadau
  8. cofnodi gofynion a chytundebau ar gyfer llogi neu brynu celfi
  9. pan fydd angen trwydded neu ganiatâd arbennig ar gyfer defnyddio celfi, gwiriwch a chadarnhewch fod cadarnhad wedi'i dderbyn
  10. cytuno ar drefniadau gyda'r llogwr/cyflenwr ar gyfer trin a storio celfi yn ddiogel a chyfathrebu hyn i bob aelod o staff
  11. adnabod a chofnodi gofynion arbennig ar gyfer trin a storio celfi yn ddiogel
  12. goruchwylio bod celfi yn cael eu dychwelyd yn ddiogel i'r cyflenwr neu gwmni llogi ar ôl eu defnyddio
  13. cydymffurfio gyda deddfwriaeth a phrotocolau iechyd a diogelwch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y gwahanol fathau o gelfi a'u defnydd
  2. pwysigrwydd cael gafael ar gelfi sy'n cyd-fynd gyda steil y cynhyrchiad
  3. y celfi sydd angen eu hamnewid ar gyfer ail-ffilmio ac at ddibenion cysondeb golygfeydd
  4. gwybodaeth am gwmnïau cyflenwi a llogi
  5. y meini prawf ar gyfer gwerthuso cyflenwyr a llogwyr
  6. sut i drafod telerau gyda llogwyr a chyflenwyr
  7. sut i adnabod ac egluro gofynion ar gyfer lleoli cynnyrch, logos ac eitemau hawlfraint
  8. sut i wirio bod unrhyw ganiatâd gofynnol wedi'i dderbyn
  9. sut i gadarnhau logisteg celfi
  10. deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
  11. pwysigrwydd cadw cofnodion o gelfi gaiff eu llogi neu eu prynu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPRP2

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Celfyddydau a Chyfathrebu

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

celfi; cael gafael ar; anghenion cynhyrchu; cynhyrchiad; cyflenwyr; llogwyr; cwmnïau llogi;